Penderfyniad:
Caffael Gofal Cartref
PENDERFYNWYD:
1. y dylid awdurdodi’r dull cyffredinol arfaethedig i sicrhau Rhestr Darparwyr Cymeradwy Ddeinamig ar gyfer gwasanaethau gofal cartref fel y nodir yn yr adroddiad; a
2. rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol:
a)i ymdrin â phob agwedd ar gaffael all gynnwys:
i. cymeradwyo'r gwaith o sefydlu Rhestr Ddeinamig o Ddarparwyr Cymeradwy
ii. cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy
iii. penodi’r darparwyr newydd i’r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy ar ôl iddynt fwrw’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor
iv. dirprwyo mwy o awdurdod i ddyfarnu contractau sydd eu hangen yn ystod bywyd y rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy, bydd dirprwyaethau pellach yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor
v. ymdrin â phob mater cysylltiedig;
b) awdurdodi unrhyw broses gaffael gofynnol i gael y dechnoleg gysylltiedig sydd ei hangen i gefnogi'r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy, hyd at a chan gynnwys dyfarnu'r contract
Cofnodion:
Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau comisiynu gofal cartref. Nodwyd y bydd y trefniadau cytundebol yn dod i ben ym mis Tachwedd 2018 ac roedd angen rhoi trefniadau newydd ar waith.
PENDERFYNWYD:
1. Awdurdodi’r ymagwedd gynhwysfawr arfaethedig i sicrhau Rhestr Darparwyr Cymeradwy Ddynamig newydd ar gyfer gwasanaethau gofal cartref, fel y manylir arnynt ymhellach yng nghorff yr adroddiad, a
1. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol;
a) Er mwyn gweithredu holl agweddau ar y broses gaffael, heb gyfyngiadau, yn cynnwys:
i. cymeradwyo sefydlu Rhestr Darparwyr Cymeradwy Ddynamig newydd
ii. cymeradwyo meini prawf ar gyfer gwerthuso tendr er mwyn sefydlu’r rhestr darparwyr cymeradwyo ddynamig
iii. penodi darparwyr newydd i’r rhestr darparwyr cymeradwy ddynamig newydd ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor
iv. dirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes y rhestr darparwyr cymeradwyo, ac i’r dirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.
v. ymdrin â’r holl faterion cysylltiedig;
b) awdurdodi unrhyw broses gaffael i gael y dechnoleg gefnogol sydd ei hangen i gefnogi'r rhestr darparwyr cymeradwyo ddynamig, hyd at, ac yn cynnwys dyfarnu contractau.
Dogfennau ategol: