Eitem Agenda

Euros 2020 Cyflwyno Cynnig Llwybr Cyflym

Penderfyniad:

Nid yw Atodiadau’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi dan Adran 12A Rhan 4 paragraff 14 a Rhan 5 paragraff 21 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Nid yw’r penderfyniad hwn yn amodol ar broses alw i mewn gan fod y Prif Weithredwr wedi ardystio ei fod yn un brys gan nad yw unrhyw oedi sy’n debygol o gael ei achosi gan y broses alw i mewn er budd y cyhoedd dan adran 13 Rheolau’r Weithdrefn Graffu. Ymgynghorwyd â Chadeirydd Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant ar y mater hwn ac mae wedi cytuno y dylid ardystio’r adroddiad hwn yn un brys. 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth brys i Gyngor Caerdydd gefnogi ail-gyflwyno cais 2014 i ddod yn ddinas groeso ar gyfer Twrnamaint Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2020. Adroddwyd yr amcangyfrifwyd mai £110m fyddai’r budd economaidd i’r ddinas a’r rhanbarth.

PENDERFYNWYD: bod cais Caerdydd i ddod yn un o’r 13 o Ddinasoedd Croeso i gynnal Twrnamaint Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2020 yn cael ei gefnogi yn amodol ar gymorth ariannol yn cael ei gadarnhau gan yr holl bartneriaid cais.

Cofnodion:

Dogfennau ategol: