Eitem Agenda

Cynigion Trefnidiaeth Ysgol – Cynnig Lleoedd mewn Ysgolion Cynradd Saesneg yn Adamsdown a Sblot. - Adroddiad Cabinet Drafft.

(a)               Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad.

 

(b)          Bydd Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, a’i swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau Aelodau;

 

(c)           Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(d)          Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Michelle Dudridge-Hussain (Rheolwr Gweithredol Cynllunio a Darpariaeth), Brett Andrewartha (Rheolwr Tîm CTY), i'r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr yr adroddiad gan roi gwybod bod Cynghorwyr Ward ar gyfer Adamsdown a Sblot yn cael eu hymgynghori.

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, ceisio eglurhad pellach neu wneud sylwadau am y wybodaeth a dderbyniwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  • Ceisiodd aelodau eglurder yngl?n â chyn safle Ysgol Glan Morfa a rhoddwyd gwybod iddynt y byddai’n cael ei gadw ac y rhoddir ystyriaeth i’w ddefnydd yn y dyfodol.

 

CYTUNWYD:  Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu arsylwadau’r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: