English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Eitem Agenda

Trefniadau Derbyn i’r Ysgol 2019/20 – Adroddiad Cabinet Drafft

(a)               Bydd y Cynghorydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau) yn bresennol ac mae’n bosibl y bydd hi am wneud datganiad.

 

(b)          Bydd Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Yr Athro Chris Taylor, Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, Data a Dulliau (WISERD), Prifysgol Caerdydd, Adran Wyddorau Cymdeithasol a Swyddogion yn cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau’r aelodau;

 

(c)           Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(d)          Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), Nick Batchelar (Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes), Michelle Dudridge-Hussain (Rheolwr Gweithredol Cynllunio a Darpariaeth), Brett Andrewartha (Rheolwr Tîm CTY), a’r Athro Chris Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Prifysgol Caerdydd, i'r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Cabinet i wneud datganiad, lle y nododd y cyfarwyddwyd yr Athro Chris Taylor i ymchwilio i drefniadau derbyn i ysgolion ac unrhyw ddewisiadau amgen.  

 

Mynegodd yr Athro Taylor ei farn nad oedd unrhyw angen i wneud unrhyw newidiadau; nid yw’r trefniadau’n gwaethygu integreiddio mewn ysgolion ac ni ddylid gwneud newidiadau oni bai y bydd y newidiadau hynny'n gwella pethau.    

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, ceisio eglurhad pellach neu wneud sylwadau am y wybodaeth a dderbyniwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  • Gofynnwyd i aelodau a fyddai cyflwyno tanysgrifiad ysgol fwydo yn cynorthwyo gyda gordanysgrifio a rhoddwyd gwybod y cafodd hyn ei ystyried yn yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a gynhaliwyd, ac oherwydd y boblogaeth symudol iawn, roedd rhai yn fwy tebygol o fod dan anfantais nag eraill.

 

  • Rhoddwyd gwybod i aelodau, wrth ystyried adeiladu ysgolion, rhoddir ystyriaeth i’r tueddiadau mewn ardal benodol, y ddemograffeg, yr adeiladau a’r safleoedd presennol ar gyfer cyfle.

 

  • Rhoddwyd gwybod i aelodau, wrth fynegi pryder bod gwahanu yn amlycach mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg, er bod Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cael ei hyrwyddo’n well, mae dal mwy i’w wneud.   Mae ysgolion yn dod yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd.  

 

  • Ceisiodd aelodau eglurder o ran yr wybodaeth a roddwyd i rieni am y broses ymgynghori ar y trefniadau derbyn; gan mai dyna oedd un o’r materion a godwyd gan rieni mewn Apeliadau Ysgol Annibynnol.  Rhoddwyd gwybod i aelodau nad yw rhieni yn ymgynghoreion statudol mewn cysylltiad â threfniadau derbyn.  

 

  • Mynegodd aelodau lawer o bryder yngl?n â'r sylw am wahanu yn amlycach mewn ysgolion ffydd.

 

  • Rhoddwyd copi i aelodau o lythyr gan Gyfreithwyr Albany, sy’n cynrychioli ceiswyr lloches, ffoaduriaid ac aelodau o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.  Nododd y llythyr sylwadau a phryderon ynghylch y trefniadau.

 

CYTUNWYD:  Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu arsylwadau’r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

 

Dogfennau ategol:

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.