Eitem Agenda

Adroddiad Blynyddol Teuluoedd yn Gyntaf 2016/17

(a)               Bydd Tony Young, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Irfan Alam, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant a Ceri George, Rheolwr Gwella Projectau – Atal a Phartneriaethau, yn cyflwyno’r adroddiad ac ar gael i ateb cwestiynau a allai fod gan yr Aelodau;

 

(b)          Cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor;

 

(c)           Ystyrir camau i’w cymryd yn berthnasol i'r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Cadeiriwyd yr eitem hon gan y Cynghorydd Joyce, oherwydd y buddiant a ddatganwyd gan y Cynghorydd Bridgeman.

 

Croesawodd y Cadeirydd Tony Young (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), Angela Bourge (Rheolwr Gweithredol Adnoddau), Ceri George (Rheolwr Projectau Gwelliant – Atal a Phartneriaethau), a Simon Morris (Swyddog Arweiniol y prosiect Ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc) i’r cyfarfod ac i gyflwyno’r adroddiad. Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor gan Ceri George yn nodi’r canlynol:

 

  • Y 6 phecyn gwasanaeth;
  • Y dull Tîm o Amgylch y Teulu;
  • Yr heriau presennol – cynnal darpariaeth er gwaethaf llai o gyllid a’r ansicrwydd ynghylch y dyfodol;
  • Dehongli’r data a gasglwyd;
  • Perfformiad cyffredinol yn 2016-17 a chyflawniadau Allweddol; a’r
  • Camau Nesaf

 

Cafodd Aelodau wahoddiad i holi cwestiynau, ceisio eglurhad pellach neu wneud sylwadau am y wybodaeth a dderbyniwyd.  Mae’r trafodaethau hynny wedi eu crynhoi isod:

 

  • Ymholodd Aelodau a oedd unrhyw gynlluniau, neu a fyddai’n ddoeth uno llinellau ffôn Teuluoedd yn Gyntaf (TyG) a’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD), ond fe’u cynghorwyd, er bod ystyriaeth wedi’i rhoi i wneud hynny, nid oedd yn rhywbeth sydd wedi’i gynllunio ar hyn o bryd.

 

  • Mynegwyd syndod wrth ddysgu am y nifer uchel o hunan-atgyfeiriadau at Wasanaeth Rhadffon TyG a’r nifer isel o atgyfeiriadau gan Weithwyr Cymdeithasol.   Roedd Swyddogion yn fodlon â nifer uchel yr hunan-atgyfeiriadau, oherwydd y gobaith oedd y byddai’r gwasanaeth hwn yn arwain at leihad yn nifer y galwadau i MASH, yn enwedig y rhai hynny nad ydynt yn arwain at unrhyw gamau pellach.  Roedd y Gwasanaeth Rhadffon TyG yn gallu ymateb ar unwaith i deuluoedd gyda gwybodaeth, cyngor a manylion am wasanaethau eraill.

 

  • Ymholodd Aelodau am y sefyllfa bresennol o ran y broses ailgomisiynu.  Bydd rhai elfennau’n cael eu darparu'n fewnol, a bydd eraill yn cael eu comisiynu gan ddarparwyr allanol.  Efallai y bydd staff a fydd yn dod o fewn cwmpas TUPE.  Rhoddwyd gwybod gan Swyddogion y disgwylir y bydd niferoedd sylweddol o staff a fydd yn dod o fewn cwmpas TUPE ac felly, ni ddisgwylir colli nifer sylweddol o staff.  

 

Disgwylir cymeradwyo Adroddiad Penderfyniadau’r Swyddog erbyn diwedd yr wythnos. Yna caiff ei gylchreded i ddarparwyr.  Ar hyn o bryd, mae'r broses ar y gweill o ran Addysg; i ddatblygu’r Model Ysgol a Chydlynwyr Rhianta.  Y gobaith yw y cwblheir hyn ac y deuir i benderfyniad erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.  

 

Derbyniwyd rhywfaint o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru; bydd hyn yn galluogi parhau i ddarparu’r Offeryn Asesu Agored i Niwed i Ysgolion Cynradd yn ogystal ag Ysgolion Uwchradd, y bydd modd ei fireinio i nodi a helpu blaenoriaethu teuluoedd.  

 

  • Gofynnodd aelodau pam y bu gostyngiad yng nghanran y bobl ifanc rhwng 17 a 21 oed a rhwng 22 a 25 oed yn defnyddio'r Gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghaerdydd. Rhoddwyd gwybod iddynt fod gwaith yn cael ei wneud ar ddarpariaeth gydgysylltiedig ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ar hyn o bryd.   Derbyniwyd y bu bwlch, ond eu bod yn awr yn ystyried nodi ymddygiad peryglus, megis camddefnyddio sylweddau, llety a phroblemau â pherthynas.

 

  • Ceisiodd aelodau eglurder o ran lle y daw’r cyllid ar gyfer cynnwys ysgolion.  Rhoddodd Swyddogion wybod fod model wedi'i ddatblygu yn seiliedig ar glystyrau ysgolion. Bydd gweithwyr Cymorth Cynnar lefel gyntaf yn cael eu cyflogi yn y clystyrau a’u rheoli gan y Gyfarwyddiaeth Addysg.  Cysylltir ag ysgolion am gyllid yn unol â’r Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD), neu gallent sicrhau bod staff yn cyflawni eu dyletswyddau priodol.  Bydd cyllid TyG hefyd yn cyfrannu.  Y gobaith yw y bydd ysgolion yn cyfrannu at y model am werth ychwanegol.  

 

CYTUNWYD:  Bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn cyfleu arsylwadau’r Pwyllgor wrth drafod y ffordd ymlaen.

 

Dogfennau ategol: