Eitem Agenda

Fflyd Newydd ar gyfer Lorïau Casglu Sbwriel, Lorïau Ysgubo'r Ffordd a Llwythwyr Bachu.

Penderfyniad:

.PENDERFYNWYD:

 

1.    nodi cynnwys yr adroddiad    

 

2.         cymeradwyo’r dull caffael a meini prawf gwerthuso lefel uchel y cerbydau Casgliadau Gwastraff Ailgylchu Newydd, y cerbydau rholio ar-oddi ar, a'r cerbydau ysgubwyr mecanyddol;

 

3.    dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr priodol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet i a) cymeradwyo dechrau’r gwaith caffael a chyflwyno dogfennaeth; a b) ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd ar y broses gaffael a'r materion cysylltiedig yn ymwneud â'r contract, gan gynnwys dyfarnu’r contract.

 

Cofnodion:

Daeth adroddiad i law’r Cabinet yn cynnwys cynigion am ymagwedd gaffael y fflyd casglu sbwriel ac ailgylchu newydd. Roedd yr ymagwedd gaffael yn cwmpasu ymrwymiadau Uchelgais Prifddinas y Weinyddiaeth i sicrhau y darperir gwasanaethau casglu o'r radd flaenaf gan gefnogi’r strategaeth aer glân sy’n dod i’r amlwg. Dywedwyd wrth y Cabinet y byddai gwaith yn mynd yn ei flaen i chwilio am atebion trafnidiaeth cynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            y câi cynnwys yr adroddiad ei nodi

 

2)          cymeradwyo'r ymagwedd gaffael a’r meini prawf lefel uchel ar gyfer gwerthuso’r fflyd newydd o lorïau Casglu Sbwriel Ailgylchu, lorïau i ffwrdd-ymlaen Bachu Codi Rolio, a’r cerbydau ysgubo mecanyddol bach;

 

3)          dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr priodol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet er mwyn a) cymeradwyo dechrau’r broses gaffael a chyflwyno dogfennaeth; a b) ymdrin yn gyffredinol â holl agweddau ar y broses gaffael a materion ategol hyd at, ac chan gynnwys, dyfarnu'r contract.

 

 

Dogfennau ategol: