English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Pori cyfarfodydd

Panel Craffu COVID-19

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Panel Craffu COVID-19.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Panel Craffu COVID-19

Cylch Gorchwyl

 

a) Sefydlu panel craffu COVID-19 yn cynnwys y pum Cadeirydd Craffu.  

 

b) Bydd y Panel yn gyfrifol am graffu ar swyddogaethau'r Cyngor, yn ogystal â'r gwaith a wneir gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a'i effaith ar y gymuned leol.  

 

c) I ddechrau, bydd y Panel ar waith tan 30 Medi 2020, a chaiff ei gyfnod a'i gylch gwaith eu hadolygu yn gyson.  Bydd angen i'r Cyngor llawn gytuno ar unrhyw newidiadau.

 

d) Bydd y panel yn:

 

i) Cwrdd o bell pan fo angen, a chaiff pob cyfarfod ei gofnodi ar gyfer ei lanlwytho wedyn neu ei ffrydio'n fyw i wefan y Cyngor er mwyn sicrhau bod y cyfarfodydd ar gael i'r cyhoedd.

 

ii) Gwneud gwaith craffu cyn penderfynu ar holl benderfyniadau'r Cabinet a dylai pob aelod o'r Panel gysylltu'n anffurfiol ag aelodau ei bwyllgor ei hun i sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried.

 

iii) Ystyried unrhyw graffu a wnaed yn flaenorol ac sy'n berthnasol i benderfyniad y Cabinet.

 

iv) Ceisio rhagor o wybodaeth neu eglurhad gan Ddeilydd Portffolio Aelodau'r Cabinet ac Uwch-swyddogion perthnasol yn ystod y cyfarfodydd o bell.

 

v) Rhoi gwybod i'r Cabinet yn ysgrifenedig am argymhellion craffu cyn penderfynu'r Panel ar gyfer pob penderfyniad gan y Cabinet.  

 

vi) Coladu unrhyw bryderon am fywyd yn gysylltiedig â COVID-19 a nodwyd gan aelodau'r ward er mwyn eu huwchgyfeirio at y Cabinet.

 

e) Cworwm Tri aelod ydy cworwm y Panel.

 

f) Dirprwyo Gellid penodi Aelodau i gymryd lle rhai eraill yn unol â Rheol Gweithdrefn Penodi Aelodau Dirprwyol.  

 

g) Cadeirydd  - Caiff Cadeirydd y Panel ei benodi gan y Cyngor.  Yn absenoldeb y Cadeirydd, bydd y Panel yn ethol un o'i Aelodau i gadeirio cyfarfod. 

 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.