Pori cyfarfodydd

Cabinet

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Cabinet.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Cabinet

Mae’r Cabinet yn cynnwys Arweinydd y Cyngor a hyd at naw Aelod Cabinet (gan gynnwys y Dirprwy Arwienydd)

Etholir Arweinydd y Cyngor gan y Cyngor, sydd wedyn yn dewis Aelodau’r Cabinet a benodir gan y Cyngor. Mae gan bob Aelod unigol o’r Cyngor gyfrifoldeb dros bortffolio penodol o wasanaethau a pholisïau’r Cyngor. Yr Arweinydd sy’n penodi Aelodau i’w portffolios.

Y Cabinet yw prif gorff penderfynu’r Cyngor ac mae’n gyfrifol am weithredu fframwaith cyllid a pholisi’r Cyngor. Mae rhai o’r prif faterion, megis gosod y gyllideb a’r Dreth Gyngor bob blwyddyn, yn cael eu pennu ganCyngor.

Fel arfer cynhelir cyfarfodydd o’r Cabinet yn fisol (heblaw am fis Awst), a’r Arweinydd sy’n eu cadeirio. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, heblaw am adegau pan fo materion personol neu gyfrinachol yn cael eu trafod.

Mae’r Cabinet yn penderfynu ar faterion ar y cyd, a gyhoeddir wedyn mewn cofrestr penderfyniadau yn dilyn cyfarfodydd. Mae copïau o agendâu, adroddiadau, cofrestri penderfyniadau a chofnodion cyfarfodydd y Cabinet ar wefan y Cyngor.

Mae adroddiadau fydd yn cael eu hystyried yng nghyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol yn cael eu hamserlennu ym Mlaen Gynllun y Cabinet.