SefydlwydAwdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n gweithio’n agos
â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth
Cymru ac eraill, fel
is-bwyllgor gan Gabinet
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
i hwyluso’r Fargen
Ddinesig drwy gydgysylltu
cynllunio a buddsoddi mewn
trafnidiaeth ledled y rhanbarth.
Mae datblygu ac integreiddio system drafnidiaeth newydd
yn chwarae
rôl hanfodol gyda
thrawsnewidiad economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ei bod hi’n hanfodol ar
gyfer cysylltu cymunedau, ac
fe
fydd yn
galluogi unigolion i
deithio. Gall y system
drafnidiaeth sydd wedi’i
gwella yn y
Brifddinas-Ranbarth hefyd ddod â
chyfleoedd dichonol i ardaloedd newydd
i gael rhagor o
ddatblygu ac ehangu economaidd.
Mae gan Awdurdod
Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gadeirir gan
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref
Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y
Cynghorydd Huw David, rôl allweddol
yn cynghori
Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar
strategaethau a argymhellir i
gyflawni amcanion trafnidiaeth
yn y rhanbarth. Mae’n gweithio’n agos
ag, ac yn
cefnogi awdurdodau lleol
mewn unrhyw
gydweithrediad yn gysylltiedig â
thrafnidiaeth ac mae’n cyfrannu
arbenigedd ynghylch trafnidiaeth
pan fo angen.
Uno’r prif flaenoriaethau o
ran cael gwell system drafnidiaeth yw
darparu Metro De Cymru. Mae yna
£738 miliwn o gronfa’r Fargen
Ddinesig wedi’i neilltuo o
flaen llaw
ar gyfer y prosiect, fydd
yn cael
ei rannu
rhwng rhaglen Trydaneiddio
Leiniau’r Cymoedd a chynllun
ehangach Metro De Cymru. Bydd
yr Adran
Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru
yn cynnal y
prif gyfrifoldebau am y ddau. I gael mwy o
wybodaeth am Fetro De-ddwyrain
Cymru, ewch
i Trafnidiaeth
Cymru.