Caiff y
Cydbwyllgor Rheoleiddio a Rennir ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref
Sirol Bro Morgannwg. Mae'r calendr cyfarfodydd
ar gyfer 2021, a gynhelir yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol
Holton, Y Barri, CF63 4RU fel a
ganlyn:
23
Mawrth 2021 am 10.00
22
Mehefin 2021 am 10.00
29 Medi
2021am 10.00
2
Rhagfyr 2021 (arbennig)
14
Rhagfyr 2021 am 10.00
Gellir gweld yr Agenda ar gyfer y cyfarfodydd hynny
a'r Agenda a'r Cofnodion ar gyfer unrhyw gyfarfodydd blaenorol trwy
glicio ar y ddolen -Agenda
a'r Cofnodion
Mae’r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir yn bartneriaeth
rhwng Cyngor Pen-y-bont, Cyngor Caerdydd, a Chyngor Bro
Morgannwg. Caiff y bartneriaeth ei
llywodraethu gan Gydbwyllgor, a gynrychiolir yn gyfartal gan
Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgor Amddiffyn y Cyhoedd o bob
Cyngor. Nod y bartneriaeth yw darparu
gwasanaethau mwy effeithlon, cost effeithiol, gan gynyddu gwydnwch
Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu ar draws y
rhanbarth.
Mae Safonau Masnach yn hyrwyddo, cynnal a
sicrhau amgylchedd masnachu teg tra’n amddiffyn lles
defnyddwyr a busnesau lleol.
Mae Iechyd yr Amgylchedd yn hyrwyddo ac yn amddiffyn iechyd,
diogelwch a lles y cyhoedd trwy gynnig cyngor, rheoleiddio a
gorfodi yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol.
Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu yn gyfrifol am drwyddedu
amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau, ac
rydyn ni’n dod ar draws y mwyafrif ohonynt yn ein bywydau bob
dydd. Mae trwyddedu yn cynnal safon
uchel i amddiffyn y cyhoedd drwy sicrhau bod deiliaid trwyddedau yn
unigolion addas a phriodol i gyflawni’r gweithgaredd
trwyddedu a thrwy osod a chynnal safonau y disgwylir gan ddeiliaid
trwyddedau.