Mae Prosiect Gwyrdd yn bartneriaeth rhwng
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Dinas a Sir
Caerdydd, Cyngor Sir Mynwy, Cyngor Casnewydd a Chyngor Bro
Morgannwg gyda'r cydbwyllgor yn cynnwys 2 Aelod Cabinet neu Aelod
Gweithredol o bob awdurdod. Mae gwastraff dinesig cyfun y pum
awdurdod yn dod i 40% o wastraff dinesig cyfan Cymru. Mae Prosiect
Gwyrdd wedid ymrwymo i chwilio am yr ateb mwyaf ymarferol,
cost-effeithiol ac amgylcheddol am wastraff ar ôl ailgylchu a
chompostio gymaint â phosibl ym mhob ardal.
Mae pob awdurdod wedi ymrwymo i ailgylchu a
chompostio a bwrw targedau heriol sydd o’n blaenau. Mae
Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cyfradd ailgylchu a chompostio o
70% erbyn 2025, ac mae pob awdurdod yn ymdrechu i fwrw’r
targed hwn.
Mae cyfarfodydd cydbwyllgorau yn gyfarfodydd
cyhoeddus a chroeso i'r cyhoedd fynychu. Caiff y cyhoedd eu cynnwys
yn unol â rheolau ymgysylltu y Pwyllgor y cytunwyd arnynt i
sicrhau bod gwybodaeth fasnachol yn ddiogel ar bob adeg.
Cyngor
Caerdydd yw’r ysgrifenyddiaeth ddynodedig ar gyfer y
Cydbwyllgor ac felly mae’n gyfrifol am gyhoeddi
agendâu, adroddiadau a chofnodion ar gyfer y
cyfarfodydd.
Ceir
hefyd wefan wybodaeth,
Prosiect
Gwyrdd, a
weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.