Gwerthoedd ac
Egwyddorion y Pwyllgor Cynghori
Rhianta Corfforaethol
Bydd y Pwyllgor
Cynghori Rhianta Corfforaethol
yn mynd
ati i
hyrwyddo a gweithredu cydgyfrifoldeb i
sicrhau rhianta da i bob
plentyn yng
ngofal Cyngor Caerdydd.
Cyfawnir hyn drwy raglen waith a
dangosyddion perfformiad allweddol y
Pwyllgor.
Bydd llais y Plant
sy’n Derbyn Gofal
yn llywio
agenda a blaenoriaethau’r
Pwyllgor.
Bydd y Pwyllgor
yn sicrhau
bod ei agenda yn canolbwyntio
ar yr
hyn y mae
Plant sy’n Derbyn Gofal
yn eu
nodi yn
berthnasol i’w twf
a’u datblygiad.
Bydd y Pwyllgor
yn monitro
gwasanaethau a ddarperir ar draws
pob sefydliad statudol a
gwirfoddol yn y sector gwirfoddol.
Bydd Gwasanaethau
Cymdeithasol, Iechyd ac Addysg,
yr asiantaethau statudol,
yn dylanwadu ar ac
yn rhannu
cyfrifoldeb drwy wrando
ar Blant
sy’n Derbyn Gofal
i ddarparu
gwasanaethau perthnasol a deinamig.
StrategaethRhianta Corfforaethol
2021-2024
Cyhoeddwyd
Strategaeth Rhianta Corfforaethol
2021-2024 sy'n amlinellu ein
hymrwymiadau, ein heriau a'n camau allweddol i
gefnogi plant sy'n derbyn
gofal a'r
bobl sy'n
gadael gofal ledled y
ddinas.
Ganweithio gyda phartneriaid
a'r gymuned
ehangach, mae gan bob un
ohonom gyfrifoldeb i
gefnogi plant sy'n derbyn
gofal a'r
bobl sy'n
gadael gofal er mwyn iddynt
fod yn
hapus, bod yn ddiogel a
ffynnu.
Felrhan o ymgynghoriad â phlant sy'n
derbyn gofal, mae pum blaenoriaeth
allweddol wedi'u nodi
yn y strategaeth yn
seiliedig ar eu barn a'u profiadau
personol.
Mae’rrhain yn cynnwys:
·
Gwellalles emosiynol ac iechyd
corfforol
·
Gwellcysylltiadau,
gwell perthnasoedd
·
Cartrefcyfforddus,
diogel a sefydlog tra'u bod
mewn gofal
ac ar ôl hynny
·
Cyflawniadaddysgol, cyflogaeth a hyfforddiant
·
Dathluein plant a'n pobl ifanc