Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Cyfarfodydd Cynharach. Cyfarfodydd diweddarach.
Datganiad o Ddiben:
· Mae ein Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn rhan allweddol o broses lywodraethu corfforaethol Cyngor Caerdydd. Mae’n rhoi ffocws annibynnol lefel uchel ar drefniadau archwilio, sicrwydd ac adrodd sy’n sail i safonau ariannol a llywodraethu da.
· Diben ein Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw rhoi sicrwydd annibynnol i aelodau Cyngor Caerdydd a’i ddinasyddion a’i randdeiliaid ehangach, ar ddigonolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheolaeth fewnol ac asesu perfformiad y Cyngor. Mae'n cynnig adolygiad annibynnol o fframweithiau llywodraethu, asesu perfformiad, rheoli risg a rheoli Cyngor Caerdydd ac yn goruchwylio'r prosesau adrodd ariannol a llywodraethu blynyddol. Mae’n goruchwylio gwaith archwilio mewnol ac allanol, gan gynorthwyo i sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol ac effeithlon ar waith.
Mae'r Pwyllgor yn cyflawni ei rôl drwy ei Raglen Waith a gynlluniwyd yn unol â'i gylch gorchwyl. Caiff y Rhaglen Waith ei diweddaru drwy gydol y flwyddyn ar ôl ei hystyried ym mhob cyfarfod o'r Pwyllgor.
Mae'r Pwyllgor yn cynnal Cynllun Gweithredu i fonitro'r gwaith o gyflawni camau gweithredu neu argymhellion sy'n deillio o gyfarfodydd Pwyllgor.
Mae gwybodaeth am weithgareddau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'i ganlyniadau wedi'u cynnwys mewn Cylchlythyrau, y ceir dolenni atynt isod.
Cylchlythyr Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Hydref Gaeaf 2023
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio– Gwanwyn / Haf 2023
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Hydref / Gaeaf 2022
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio– Gwanwyn / Haf 2022
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Hydref / Gaeaf 2021
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Gwanwyn / Haf 2021 Cylchlythyr y Pwyllgor Archwilio – Hydref / Gaeaf 2020
Cylchlythyr y Pwyllgor Archwilio – Gwanwyn / Haf 2020 Cylchlythyr y Pwyllgor Archwilio – Hydref / Gaeaf 2019 Cylchlythry y Pwyllgor Archwilio - Gwanwyn / Haf 2019