English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Pori cyfarfodydd

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Datganiad o Ddiben:

 

·           Mae ein Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn rhan allweddol o broses lywodraethu corfforaethol Cyngor Caerdydd. Mae’n rhoi ffocws annibynnol lefel uchel ar drefniadau archwilio, sicrwydd ac adrodd sy’n sail i safonau ariannol a llywodraethu da.

 

·           Diben ein Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw rhoi sicrwydd annibynnol i aelodau Cyngor Caerdydd a’i ddinasyddion a’i randdeiliaid ehangach, ar ddigonolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheolaeth fewnol ac asesu perfformiad y Cyngor.  Mae'n cynnig adolygiad annibynnol o fframweithiau llywodraethu, asesu perfformiad, rheoli risg a rheoli Cyngor Caerdydd ac yn goruchwylio'r prosesau adrodd ariannol a llywodraethu blynyddol. Mae’n goruchwylio gwaith archwilio mewnol ac allanol, gan gynorthwyo i sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol ac effeithlon ar waith.

 

Mae'r Pwyllgor yn cyflawni ei rôl drwy ei Raglen Waith a gynlluniwyd yn unol â'i gylch gorchwyl. Caiff y Rhaglen Waith ei diweddaru drwy gydol y flwyddyn ar ôl ei hystyried ym mhob cyfarfod o'r Pwyllgor.

 

Mae'r Pwyllgor yn cynnal Cynllun Gweithredu i fonitro'r gwaith o gyflawni camau gweithredu neu argymhellion sy'n deillio o gyfarfodydd Pwyllgor.

 

Mae gwybodaeth am weithgareddau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'i ganlyniadau wedi'u cynnwys mewn Cylchlythyrau, y ceir dolenni atynt isod.

 

Cylchlythyr Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Hydref Gaeaf 2023

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio– Gwanwyn / Haf 2023

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Hydref / Gaeaf 2022

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio– Gwanwyn / Haf 2022

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Hydref / Gaeaf 2021

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Gwanwyn / Haf 2021
Cylchlythyr y Pwyllgor Archwilio – Hydref / Gaeaf 2020

Cylchlythyr y Pwyllgor Archwilio – Gwanwyn / Haf 2020
Cylchlythyr y Pwyllgor Archwilio – Hydref / Gaeaf 2019
Cylchlythry y Pwyllgor Archwilio -  Gwanwyn / Haf 2019

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.