English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Pori cyfarfodydd

Pwyllgor Apeliadau’r Cyngor

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Apeliadau’r Cyngor.

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Apeliadau’r Cyngor

Gwrando a phenderfynu ar apeliadau (ac eithrio’r apeliadau hynny sydd o fewn cylch gorchwyl unrhyw Bwyllgor arall) o benderfyniadau’r Awdurdod lle mae gofyniad statudol i apelio i Aelodau’r Cyngor neu lle caniateir apêl o’r fath mewn unrhyw bolisi neu weithdrefn a gymeradwyir gan y Cyngor.

 

Ar glywed apêl, bydd y pwyllgor yn gallu, ar ran ac yn enw’r Cyngor, gwneud gorchymyn priodol, o fewn yr ystod o benderfyniadau a ganiateir gan y gyfraith.

 

Ni fydd y Pwyllgor, wrth eistedd i glywed apêl, yn cynnwys unrhyw Aelodau’r Cabinet neu Aelodau unrhyw Bwyllgor sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth y gwneir y penderfyniad arno, neu Aelodau sydd wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw ystyriaeth flaenorol o’r mater, sydd wedi arwain at yr apêl.

 

Bob tro y bydd y Pwyllgor yn eistedd i glywed apêl, bydd y Pwyllgor, yn y lle cyntaf, yn sicrhau bod yr apêl wedi’i wneud yn briodol, ac yn ail, bod yr apelydd wedi cael y cyfle i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad o’i apêl ef neu hi gan gyfaill, cyfreithiwr neu gynrychiolydd arall o’i ddewis ef neu hi.  

 

Wrth glywed apêl, bydd y Pwyllgor yn cydymffurfio â rheolau cyfiawnder naturiol.

 

Bydd angen i holl Aelodau’r Pwyllgor gyflawni hyfforddiant perthnasol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n briodol.

 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.