English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Pori cyfarfodydd

Cydbwyllgor Prosiect Gwyrdd

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Cydbwyllgor Prosiect Gwyrdd.

Gwybodaeth ynghylch Cydbwyllgor Prosiect Gwyrdd

Mae Prosiect Gwyrdd yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Sir Mynwy, Cyngor Casnewydd a Chyngor Bro Morgannwg gyda'r cydbwyllgor yn cynnwys 2 Aelod Cabinet neu Aelod Gweithredol o bob awdurdod. Mae gwastraff dinesig cyfun y pum awdurdod yn dod i 40% o wastraff dinesig cyfan Cymru. Mae Prosiect Gwyrdd wedid ymrwymo i chwilio am yr ateb mwyaf ymarferol, cost-effeithiol ac amgylcheddol am wastraff ar ôl ailgylchu a chompostio gymaint â phosibl ym mhob ardal.

 

Mae pob awdurdod wedi ymrwymo i ailgylchu a chompostio a bwrw targedau heriol sydd o’n blaenau. Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cyfradd ailgylchu a chompostio o 70% erbyn 2025, ac mae pob awdurdod yn ymdrechu i fwrw’r targed hwn.

 

Mae cyfarfodydd cydbwyllgorau yn gyfarfodydd cyhoeddus a chroeso i'r cyhoedd fynychu. Caiff y cyhoedd eu cynnwys yn unol â rheolau ymgysylltu y Pwyllgor y cytunwyd arnynt i sicrhau bod gwybodaeth fasnachol yn ddiogel ar bob adeg.

 

Cyngor Caerdydd yw’r ysgrifenyddiaeth ddynodedig ar gyfer y Cydbwyllgor ac felly mae’n gyfrifol am gyhoeddi agendâu, adroddiadau a chofnodion ar gyfer y cyfarfodydd. 

 

Ceir hefyd wefan wybodaeth, Prosiect Gwyrdd, a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.