Rôl y Pwyllgor hwn yw craffu, mesur a hyrwyddo gwelliant
o ran perfformiad y Cyngor i ddarparu gwasanaethau a chydymffurfio
â pholisïau, nodau ac amcanion y Cyngor ym maes
cynaliadwyedd amgylcheddol, gan gynnwys:
Polisi
Cynllunio Strategol
Polisi
Cynaliadwyedd
Polisi
Iechyd yr Amgylchedd
Polisi
Amddiffyn y Cyhoedd
Polisi
Trwyddedu
Rheoli
Gwastraff
Projectau Gwastraff Strategol
Glanhau
Strydoedd
Beicio
a Cherdded
Strydlun
Partneriaeth Trafnidiaeth Strategol
Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru
Polisi
a Datblygu Trafnidiaeth
Datrysiadau Trafnidiaeth Deallus
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Rheoli
Parcio
Asesu
effaith partneriaethau gyda ac adnoddau a gwasanaethau a ddarperir
gan sefydliadau allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau
ar y cyd llywodraeth leol, Cyrff Cyhoeddus a Ariennir gan
Lywodraeth Cymru a chyrff anllywodraethol lled-adrannol ar
effeithiolrwydd gwasanaethau’r Cyngor.
Adrodd
i gyfarfod priodol y Cabinet neu’r Cyngor ar ei ganfyddiadau
a gwneud argymhellion ar fesurau a all wella perfformiad y Cyngor a
darpariaeth gwasanaeth yn y maes hwn.