English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Pori cyfarfodydd

Pwyllgor Amodau Cyflogaeth

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Amodau Cyflogaeth.

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Amodau Cyflogaeth

Cylch Gwaith y Pwyllgor:

 

(a)

Ystyried a phenderfynu ar bolisïau a materion sy’n codi o’r sefydliad, amodau a thelerau Prif Swyddogion a Dirprwy Brif Swyddogion (fel y diffinnir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006), ynghyd ag unrhyw gategori cyflogeion arall a nodir yn y Rheoliadau o bryd i’w gilydd lle bo angen, yn unol â chymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad neu amrywiad o ran tâl Prif Swyddogion;

(b)

Penderfynu ar geisiadau ar gyfer ail-raddio Prif Swyddogion a Dirprwy Brif Swyddogion (fel y diffinnir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006), ynghyd ag unrhyw gategori cyflogeion arall a nodir yn y Rheoliadau o bryd i’w gilydd, p’un ai drwy apêl gan gyflogai yn erbyn penderfyniad i wrthod cais ail-raddio neu i benderfynu ar geisiadau ar gyfer ail-raddio a gefnogir, yn unol â chymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad neu amrywiad o ran tâl Prif Swyddog;

(c)

Bydd angen i holl Aelodau’r Pwyllgor gyflawni hyfforddiant perthnasol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n briodol.

 

 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.