(a)
|
Ystyried a phenderfynu ar bolisïau a materion sy’n
codi o’r sefydliad, amodau a thelerau Prif Swyddogion a
Dirprwy Brif Swyddogion (fel y diffinnir yn Rheoliadau Awdurdodau
Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006), ynghyd ag unrhyw
gategori cyflogeion arall a nodir yn y Rheoliadau o bryd i’w
gilydd lle bo angen, yn unol â chymeradwyaeth y Cyngor mewn
perthynas ag unrhyw benderfyniad neu amrywiad o ran tâl Prif
Swyddogion;
|
(b)
|
Penderfynu ar geisiadau ar gyfer ail-raddio
Prif Swyddogion a Dirprwy Brif Swyddogion (fel y diffinnir yn
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gorchmynion Sefydlog) (Cymru) 2006),
ynghyd ag unrhyw gategori cyflogeion arall a nodir yn y Rheoliadau
o bryd i’w gilydd, p’un ai drwy apêl gan gyflogai
yn erbyn penderfyniad i wrthod cais ail-raddio neu i benderfynu ar
geisiadau ar gyfer ail-raddio a gefnogir, yn unol â
chymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad neu
amrywiad o ran tâl Prif Swyddog;
|