Diben y
Pwyllgor yw penderfynu ar geisiadau cynllunio a gyfeiriwyd atyn nhw
i’w hystyried.
Mae’r Pwyllgor fel arfer
yn cwrdd 12 gwaith y flwyddyn yn Neuadd y Sir lle caiff y cyfarfod
ei we-ddarlledu. Mae’r Pwyllgor
yn cynnwys hyd at 12 o gynghorwyr a benodir i adlewyrchu cydbwysedd
gwleidyddol y Cyngor.
Mae aelodau’r cyhoedd yn
cael siarad os ydynt wedi cyflwyno deiseb i’r Cyngor â
dim llai na 50 o lofnodion a chyfeiriadau etholwyr
Caerdydd. Mae gan y cais hawl am ymateb
ar yr adeg honno, ond, mae hynny ond yn berthnasol os yw’r
gwrthwynebydd wedi cofrestru i siarad.