English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfodydd Cabinet a Gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 11 a 24 Mehefin 2020 pdf eicon PDF 173 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

2.

Sefydlu Tasglu Cydraddoldeb Hiliol pdf eicon PDF 309 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo’r cynnig i sefydlu Tasglu Cydraddoldeb Hiliol gyda’r amcanion a nodir ym mharagraff 16 yr adroddiad

 

2.   cytuno i benodi’r Cyng. Saeed Ebrahim yn Gadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol.

 

3.   Dirprwyo awdurdod i Bennaeth Perfformiad a Phartneriaethau, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol ac Arweinydd y Cyngor a gyda chyngor gan y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol,  i gwblhau Cylch Gorchwyl manwl ar gyfer y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, i’w gadarnhau yng nghyfarfod cychwynnol y Tasglu.

 

4.   Dirprwyo awdurdod i Bennaeth Perfformiad a Phartneriaethau, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, i gynnal proses benodi gyhoeddus ar gyfer aelodau’r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol.

 

5.   Dirprwyo awdurdod i Bennaeth Perfformiad a Phartneriaethau, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, i ddechrau ymarferiad ymgynghori cyhoeddus i lywio’r blaenoriaethau cychwynnol ar gyfer rhaglen waith y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol.

 

3.

Cytundeb Partneriaeth Strategol Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD:

 

(a)    nodi canlyniad Cam Cynigydd a Ffefrir y Weithdrefn Ddialog Gystadleuol dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 fel y nodir yn yr adroddiad hwn

 

(b)    Yn amodol ar argymhelliad (c) a (d), cymeradwyo’r ffordd y caiff y Cytundeb Partneru Strategol â Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru ym mis Hydref 2020 ei weithredu a’i roi ar waith a chymeradwyo perfformiad y cytundeb hwnnw, er mwyn hwyluso’r ffordd y caiff ystod o wasanaethau seilwaith eu darparu a’r ffordd y caiff cyfleusterau addysg a chymunedol eu cynnig.

 

(c)     cymeradwyo’r Cytundeb Partneru Strategol sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn ac a grynhoir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn er mwyn cyflawni argymhelliad (b), yn amodol ar argymhelliad (d) isod;

 

(d)    dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Swyddog a151:

 

i)    I gytuno ar fân newidiadau i’r Cytundeb Partneru Strategol a gymeradwyir yma yn ôl yr angen, am resymau sy’n cynnwys, er nid yn unig am y rhesymau hyn, gwblhau unrhyw feysydd heb eu cwblhau ac adlewyrchu cyngor a roddwyd; ac

 

ii)   I gymeradwyo unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy’n ategol i’r Cytundeb Partneru Strategol a gymeradwyir yma

 

(e)    Nodi y bydd y Prif Weithredwr yn defnyddio ei awdurdod a ddirprwywyd i benodi Cyfarwyddwr y Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion neu’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yn ‘Cynrychiolydd Cyfranogol’ i sefyll ar y Bwrdd Partneru Strategol;

 

(f)      Nodi, wrth gytuno i’r Cytundeb Partneru Strategol, na ofynnir i’r Cabinet benderfynu i fwrw unrhyw broject yn ei flaen. Caiff unrhyw benderfyniad i fwrw projectau yn eu blaen ei adrodd i’r Cabinet mewn adroddiadau yn y dyfodol i benderfynu arnynt.

 

4.

Alldro pdf eicon PDF 781 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)   cymeradwyo'r adroddiad a’r camau a wnaed mewn perthynas â chyfrifon y Cyngor ar gyfer 2019/20.

 

(2)   nodi y bydd yr adroddiad yn ffurfio Atodlen i’r adroddiad Datganiadau Ariannol a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor yn hydref 2020.

 

5.

Ailgaffael Fframweithiau Caffael Cenedlaethol Adeiladu Cydweithredol ac Ymgynghoriaeth Sifil Blaenorol pdf eicon PDF 265 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cytuno mewn egwyddor i ddechrau ailgaffael Fframwaith Caffael Cenedlaethol Adeiladu Cydweithredol ac Ymgynghoriaeth Sifil Blaenorol a chymryd awenau’r trefniadau cynnal ar gyfer trefniant dilynol (fel y nodir yn yr adroddiad hwn) a

 

2.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i gyflawni pob agwedd ar y caffael (gan gynnwys gosod y dull gwerthuso, dechrau caffael a rhoi lle i ymgynghorwyr llwyddiannus ar y fframwaith) ac ar ôl hynny cynnal ac ymdrin â’r gwaith o weithredu trefniadau fframwaith, gan gynnwys unrhyw faterion ategol perthnasol.

 

 

 

 

6.

Digartrefedd - Yr Ymateb i Argyfwng COVID-19 a Cyflawni Model Gwasanaeth y Dyfodol pdf eicon PDF 490 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   nodi’r camau sydd eisoes wedi’u rhoi ar waith i sicrhau llety digartref parhaol ychwanegol i gymryd lle darpariaeth dros dro a sicrhau na fydd llai o wasanaethau ar gael i ddefnyddwyr wrth i fesurau’r cyfnod cloi’n gael eu llacio

 

2.   cytuno ar y ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau digartref fel y nodir yn yr adroddiad gan gynnwys yr angen i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar gyllid parhaus i sicrhau bod y strategaeth “Dim Mynd yn Ôl” ar gyfer pobl ddigartref sengl yn gynaliadwy

 

3.   nodi, os na cheir swm y cyllid a nodir yn yr adroddiad, y bydd angen adolygu a newid y dewisiadau ar gyfer cynlluniau i gyflawni costau gweithredu is ac sydd o fewn y cyllidebau sydd ar gael, bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar effeithiolrwydd cyffredinol y dull.

 

4.   cymeradwyo rhoi contract i Beattie Passive i greu 50 uned lety dros dro ar safle’r Ffatri Nwy am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad hwn. 

 

5.   dirprwyo cyfrifoldeb am brydlesu eiddo domestig preifat dan Gynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru i’r Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau Cynorthwyol yn dilyn cyngor priodol gan yr adran Ystadau Strategol.

 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.