Cynghorwyr a chyfarfodydd
- Cabinet
- Calendr cyfarfodydd
- Pwyllgorau
- Cynghorau Plwyf
- Cyfansoddiad Cyngor
- Cynghorwyr
- Penderfyniadau
- Canlyniadau Etholiadau
- Cynlluniau Gwaith i’r Dyfodol
- Llyfrgell
- Cyfarfodydd
- Cyrff Allanol
- Cofrestrau
- Cydnabyddiaeth
- Craffu
- Grwpiau Holl Bleidiau’r Cyngor
- Chwilio Dogfennau
- Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
- Gweddarlleidiadau
- Eich ACau
- Eich ASau
- Eich ASau Ewropeaidd
- Beth sy'n newydd
Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfodydd Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019 PDF 116 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: CYTUNWYD: bod yr ymateb i adroddiad ‘Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd’ y Pwyllgor Craffu ar yr Amgylchedd fel y mae yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
|
|
Tendr Creu Ynni o Nwy Tirlenwi ac o bosibl Nwy Naturiol, gan gynnwys Rheoli Nwy Tirlenwi PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: CYTUNWYD: bod
1. y broses gaffael i gomisiynu trefniadau newydd ar gyfer darparu trydan o safleoedd tirlenwi ac o bosibl nwy naturiol ac o bosibl reoli nwy naturiol yn safleoedd tirlenwi Ffordd Lamby a Ferry Road yn cael eu cytuno
2. awdurdod i’w ddirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a Phobl, yn amodol ar ymgynghori gyda’r Aelod cabinet dros Gyllid, perfformiad a Moderneiddio a'r Aelod Cabinet dros strydoedd glân, ailgylchu ac amgylcheddau, Swyddog a151 a’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant Gwasanaethau Cyfreithiol, i ddelio gyda phob agwedd ar y broses gaffael (gan gynnwys cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, rhoi cychwyn ar y caffael ac awdurdodi dyfarnu’r contract arfaethedig) a phob mater cysylltiol arall yn ymwneud â'r caffael.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Reoliadol a Rennir 2018/19 PDF 188 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: CYTUNWYD: nodi Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau a Rennir ar gyfer 2018-19. |
|
Diweddariad Strategaeth Cerddoriaeth PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chaiff Atodiad 5 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a pharagraff atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. CYTUNWYD:
(1) cymeradwyo’r ymateb i Adroddiad Sound Diplomacy wedi ei atodi fel Atodiad 2 at yr adroddiad.
(2) cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd sydd wedi ei atodi fel Atodiad 3 i'r adroddiad
(3) cymeradwyo penodi Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd i benodi’r unigolion a enwir yn Atodiad Cyfrinachol 5 yr adroddiad
(4) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Swyddog Monitro a'r swyddog Adran 151 i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynigion manwl ar gyfer y prif ddigwyddiad fel y’i amlinellir ym mharagraff 22 yr adroddiad i’w ddiweddaru mewn cyfarfod o’r Cabinet yn y dyfodol.
|
|
Sicrhau Dyfodol y Theatr Newydd PDF 183 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chaiff Atodiadau 1-6 yr adroddiad eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a pharagraff atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
CYTUNWYD:
(1) cymeradwyo dewis y tenant a argymhellir
(2) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gydag Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden. Y Swyddog Monitro a’r swyddog Adran 151 i roi trefn derfynol ar y Brydles ar sail y Penawdau Telerau a nodir yn Atodiad Cyfrinachol 5.
|
|
Gweledigaeth a Strategaeth Caerdydd 2030 PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. cymeradwyo mabwysiadu Gweledigaeth Caerdydd 2030
2. dirprwyo cyfrifoldeb i’r Gyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes dros ddatblygu a gweithredu’r cynlluniau gweithredol i gyflawni’r mesurau llwyddiant a nodir yn y strategaeth.
|
|
Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: I. cymeradwyo Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd
II. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad gydag Aelod y cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Monitro a’r swyddog Adran 151 i ddatblygu cyfleoedd ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor, gan gynnwys marchnata tir i’w waredu a dychwelyd at y cabinet fel y bo'n briodol.
III. gofyn i Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i hybu cais i Brifddinas Ranbarth Caerdydd am fuddsoddiad ym mhroject Parcffordd Caerdydd.
|
|
Strategaeth Datblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol PDF 199 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chaiff Atodiad 4 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
CYTUNWYD:
1. cymeradwyo’r strategaeth ddatblygu newydd ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
2. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i fynd â datblygiad Glannau'r D?r yn ei flaen gan gynnwys gwaredu tir a neilltuo unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn unol â’r strategaeth gyllidol a amlinellir yn Atodiad cyfrinachol 4 ac yn amodol ar brisiad annibynnol fel y bo’r angen.
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i ddelio â phob agwedd ar gaffael partner masnachol i sefydlu a gweithredu atyniad hamdden newydd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i'w gymeradwyo'n derfynol.
4. Yn rhan o (iii) uchod, dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i gynnwys gweithrediad allanol DGRhC yn rhan o’r broses gaffael yn unol â’r strategaeth a nodir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol.
|
|
Trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: CYTUNWYD: argymell wrth y Cyngor ei fod yn derbyn y trydydd AMB i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019. |
|
Ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol PDF 199 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: CYTUNWYD: cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r Ymgynghoriad FfDC Drafft fel y'i nodir ym mharagraffau 9-20 yr adroddiad hwn a cheisio trafodaeth bellach gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a godir ynddo. |
I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.