Agenda a Chofnodion

Cyfarfod o Bell, Panel Craffu COVID-19 - Dydd Mawrth, 23ain Mehefin, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Cyfarfod o bell Trwy MS Teams

Cyswllt: Andrea Redmond 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Nick Batchelor.

 

7.

Datgan Buddiannau

I'w wneud ar ddechrau'r eitem ar yr agenda dan sylw, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau.

 

Cofnodion:

Dim

 

8.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 393 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd yn gofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

9.

Eitemau Agenda'r Cabinet i'w hystyried (i ddilyn)

Cofnodion:

Darpariaeth Ysgol Gynradd newydd i wasanaethu rhannau o Greigiau/Sain Ffagan, Radur/Pentre-poeth a’r Tyllgoed.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd, Richard Portas, Cyfarwyddwr Rhaglen Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, Brett Andrewartha, Rheolwr Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion a Liz Weale, Rheolwr Gweithredol Caffael a Phartneriaethau a’r Gwasanaethau Cyfreithiol i’r cyfarfod.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Merry i wneud datganiad ac ynddo dywedodd, er bod yr amgylchiadau sydd ohonynt yn anarferol iawn, fod cam arall yn y gwaith o ddatblygu’r ysgol newydd ac ychwanegodd ei bod yn ysgol CDLl newydd arall, a fyddai’n ysgol ddwy ffrwd â dau ddosbarth mynediad ynghyd â dosbarth meithrin.   Gan esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r ddwy ffrwd, cyfeiriodd y Cynghorydd Merry at gyflenwad cyffredinol o amgylch y safle ac nad oedd eisiau tanseilio'r ysgolion presennol, wrth roi dewis i rieni ar yr un pryd.  Amlinellwyd yr hyblygrwydd a'r cyfle i newid cydbwysedd y ddarpariaeth Gymraeg/Saesneg mewn ymateb i'r galw hefyd.

Ychwanegodd Richard Portas fod yr adroddiad wedi bod trwy ddau o gyfarfodydd y Cabinet ac ymgynghori manwl; dyma oedd diwedd y broses a rhoddwyd sylw i bob ymholiad a godwyd yn sgil adroddiadau blaenorol yn yr adroddiad hwn.  Nodwyd bod Caerdydd yn cofnodi cyfranogiad o 17% yn y ddarpariaeth Gymraeg a bod yr ysgol newydd hon yn rhoi cyfle i godi’r ganran honno’n fawr.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau fel a ganlyn:

 

Nododd yr Aelodau fod y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc wedi bod yn craffu ar hyn yn ei gyfarfodydd yn y gorffennol a bod llythyr wedi’i anfon i’r Cynghorydd Merry yn gofyn am adroddiad arall am recriwtio Staff a Llywodraethwyr ar gyfer yr ysgol. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd dyddiad agor yn yr adroddiad oherwydd pandemig COVID-19, ond y gellid cyflwyno adroddiad arall am recriwtio i’r Pwyllgor. Fodd bynnag, nodwyd y byddai rhiant-lywodraethwyr yn bendant, ond y dylid recriwtio Llywodraethwyr eraill ym mhob maes ar sail sgiliau a bylchau sgiliau.  Pwysleisiwyd bod angen i'r cydbwysedd fod yn iawn heb fod y naill gyfrwng yn fwy blaenllaw na'r llall.

 

Trafododd yr Aelodau a’r Swyddogion bwysigrwydd recriwtio pennaeth gan y byddai angen i'r pennaeth ddeall model a gweledigaeth yr ysgol yn llawn, a chan fod hon yn enghraifft newydd o'r math hwn o ysgol yng Nghaerdydd, byddai angen ei fonitro’n gyson a byddai angen iddo lwyddo pe bai'n dod yn fodel ar gyfer y dyfodol.

 

Nododd yr Aelodau fod y gwaith o ddarparu’r ysgol yn seiliedig ar gytundeb A106 a gofynwyd am y risgiau pe bai'r ymgeisydd yn penderfynu amrywio'r cytundeb A106 oherwydd y pandemig a'r dirywiad yn y farchnad dai.  Eglurodd y Swyddogion fod trafodaethau ar y gweill i ddeall gwir effaith y pandemig, ond roedd sawl ffordd o liniaru oedi drwy'r broses a rhaglennu o safbwynt technegol ac ymarferol. Amrywio'r A106 yw'r hyn yr oedd y datblygwr wedi'i gynnig, mae'n anochel y bydd rhywfaint o effaith ond mae'r datblygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw gynigion cytunedig ar gyfer amrywiad am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Materion Brys (os o gwbl)

Cofnodion:

Gwasanaethau Trafnidiaeth Dinas Caerdydd - Diweddariad

 

Roedd y Cadeirydd wedi cytuno y dylai'r eitem hon gael ei hystyried fel un frys i alluogi penderfyniad i gael ei wneud yn brydlon er mwyn cefnogi'r trefniant trafnidiaeth lleol yn ystod y pandemig  COVID-19 presennol.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Huw Thomas - yr Arweinydd, y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet, Paul Orders - y Prif Weithredwr a Chris Lee i’r cyfarfod.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau na fydd Atodiadau A a B yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14, 16 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Yn holl amgylchiadau’r achos, ystyrir bod budd y cyhoedd o gynnal yr eithriad yn bwysicach na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth. Felly, gofynnodd y Cadeirydd i'r eitem hon gael ei hystyried mewn sesiwn gaeedig.

 

CYTUNWYD: i ystyried yr eitem hon mewn sesiynau caeedig ac i ysgrifennu at Aelodau unigol y Cabinet gyda sylwadau ac argymhellion y Panel ynghyd ag unrhyw argymhellion y maent yn dymuno'u gwneud.

 

 

11.

Dyddiad y cyfarfod nesaf.

Tuesday 14th July 2020 2pm.

 

Cofnodion:

14 Gorffennaf 2020 am 2pm