Agenda a Phenderfyniadau

Cabinet - Dydd Iau, 26ain Medi, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 pdf eicon PDF 120 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

2.

Derbyn adroddiad y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion o'r enw Llety Dros Dro a Llety â Chymorth - Porth y Person Sengl pdf eicon PDF 3 MB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Derbyn adroddiad y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion dan y teitl ‘Llety â Chymorth a Dros Dro – Porth y Person Sengl’ ac ateb i’w baratoi erbyn mis Rhagfyr 2019

 

3.

Penodi Aelodau Cabinet Cynorthwyol pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1)    cymeradwyo penodi’r Cynghorydd Wong fel Cynorthwy-ydd Cabinet (Tai Sector Preifat), fel y nodir ym mharagraff 5 yr adroddiad a

 

(2)    cymeradwyo’r diwygiad i ail-ffocysu rôl y Cynghorydd Lister fel Cynorthwy-ydd Cabinet (Llewyrch Adeiladau)

4.

Caffael Tanwydd Hylif pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: fod

 

1.    (i)  Swyddogion yn cynnal cystadleuaeth fechan ar gyfer tanwydd hylif drwy Fframwaith y  Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer cyflenwi tanwydd a nwyddau a gwasanaethau cysylltiedig NPS-FT-0093-18.       Hyd y trefniant i redeg o 1 Rhagfyr 2019 i 1 Ebrill 2023. Gwerth contract y caffaeliad hwn fydd £5.5.

ii)    cymeradwyo meini prawf gwerthuso cystadleuaeth fechan ar gyfer 100% o’r pris, sydd yn unol a’r canllawiau fframwaith

 (iii) Cymeradwyo cyhoeddi dogfennaeth y tendr

2.   Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet perthnasol i:

i)    Fynd i’r afael â’r holl faterion cysylltiedig i’r gystadleuaeth fechan.

Dyfarnu Cytundeb Defnyddiwr i’r Darparwr a ddewisir ( y darparwr mwyaf manteisiol yn economaidd) a gosod archebion o dan y contract.

5.

Monitro Cyllideb - Adroddiad Mis 4 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   Nodialldro ariannol posib ar sail safle amcanestyniad Mis 4 y flwyddyn ariannol

 

2.   Nodidyraniadau’r cyllidebau penodol wrth gefn i gyfarwyddiaethau Pobl a Chymunedau – Tai a Chymunedau, Pobl a Chymunedau – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chynllunio Trafnidiaeth a’r Amgylchedd fel y gosodwyd ger bron yn yr adroddiad

 

3.   Atgyfnerthu’rgofyniad i’r holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn adrodd gorwariant fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn  i roi cynlluniau gweithredu ar wait hi leihau eu gorwario.

6.

Adroddiad Perfformiad Chwarter 1, 2019-20 pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Nodi’rsefyllfa bresennol parthed perfformiad, cyflawni ymrwymiadau allweddol a blaenoriaethau fel yn Chwarter 1,  that the current position regarding performance, the delivery of key commitments and priorities as at Quarter 1, a’r camau gweithredu er mwyn sicrhau cyflawniad effeithiol Uchelgais Prifddinas

7.

Caffael Eiddo at Ddibenion y Cyfrif Refeniw Tai pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   Nodicynnwys yr adroddiad

 

2.   Cymeradwyoparhau i brynu eiddo preswyl ar y farchnad agored yn unol a chynllun busnes HRA a’r Rhaglen Cyfalaf; a

 

3.   Dirprwyoawdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol tai a Chymunedau, i gymeradwyo prynu eiddo priodol (yn unol ag argymhelliad 2 uchod), yn amodol ar gyngor gan Brisiwr y Cyngor a’r Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol; a chydymffurfio â’r Rheolau Gweithdrefn ar gyfer Caffael neu Waredu Tir.

 

 

8.

Polisi Enwi Strydoedd pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: fod y polisi enwi strydoedd a atodwyd i’r adroddiad i gael ei gymeradwyo ac argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r polisi Enwi Strydoedd.

 

 

9.

Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   Cytuno’rBlaen Gynllun DBDE er mwyn ateb dyletswydd y Cyngor o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd  (Cymru) 2016.

 

Bod y blaen gynllun DBDE yn helpu i fwydo adolygiad cynhwysfawr y Cyngor o’r Strategaeth hinsawdd, sydd yn mynd rhagddo bellach yn dilyn y datganiad Argyfwng Hinsawdd diweddar.