English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Mehefin pdf eicon PDF 61 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

2.

Adroddiad Llesiant Statudol Cyngor Caerdydd pdf eicon PDF 184 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y byddai Adroddiad Gwella Statudol Blynyddol y Cyngor yn cael ei gyflwyno gerbron y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019.

 

3.

Cynllun Strategol i Gyflawni Deilliannau Rhagorol ar gyfer ein Plant i gyd pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y cymeradwywyd Strategaeth Gwasanaethau Plant Caerdydd 2019 – 2022.

 

4.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol 2018/19 pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: yr ystyrir cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasolyr Awdurdod Lleol ar gyfer 2018/19 yn y Cyngor

5.

Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus - Gorchymyn Rheoli Cwn Drafft pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(i)            nodi'r ymatebion i’r ymgynghoriad ar destun y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli C?n) 2019 a atodir fel Atodiad E;

(ii)            

(iii)         i’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli C?n) 2019 a atodir fel Atodiad A, gael ei gymeradwyo’n amodol ar unrhyw ddiwygiadau y cytunwyd arnynt;

 

(iv)         i adroddiad gwybodaeth gael ei gyflwyno ar y mater hwn i’r Cyngor Llawn ar 18 Gorffennaf 2019; ac

 

i’r trefniadau gweithredu a nodir yn yr adroddiad gael eu nodi

6.

Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif: Darpariaeth y Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion Cynradd ac Uwchradd i wasanaethau Adamstown a Sblot pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar y cynigion canlynol

 

      Diddymu Ysgol Gynradd Gatholig St Alban

       o 31 Awst 2021;

      Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Baden Powell o 420 lle (2 ddosbarth mynediad) i 630 (3 dosbarth mynediad) a lleihau ystod oedran yr ysgol o 3-11 oed i 4-11 oed o fis Medi 2021;

      Symud Ysgol Gynradd Baden Powell i Barc Tremorfa a newid yr adeiladau presennol am gyfleusterau newydd gyda lle i 630 o lefydd (3 dosbarth derbyn).

      Trosglwyddo Ysgol Uwchradd Willows i Brac Tremorfa a gosod adeiladau newydd sy’n cynyddu maint yr ysgol o 1,121 lle (7,4 dosbarth derbyn) i 1,200 lle (8 dosbarth derbyn)

      Sefydlu darpariaeth ôl-16 ar hyd at 250 o ddisgyblion yn yr adeiladau newydd;

      Cynyddu capasiti Ysgol Feithrin Tremorfa o 112 lle i 128 lle ac ehangu ystod y gwasanaethau a roddir ar y safle gan gynnwys gofal plant Dechrau’n Deg a chymorth rhianta, o fewn Canolfan Blant Integredig ar safle presennol Ysgol Feithrin Tremorfa a safle gwag Ysgol Gynradd Gatholig St Alban;

      Uwchraddio’r cyfleusterau cymunedol yn ward Sblot drwy osod man agored newydd yn hen safle Ysgol Uwchradd Willows, cyfleusterau cymunedol sylweddol well ar safle’r ysgol newydd, a chaeau chwaraeon newydd a rennir  gyda Chlwb Rygbi Sant Alban a’r gymuned leol ehangach ym Mharc Trefmora.

Sylwer y bydd swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

7.

Cofrestr Risgiau Corfforaethol - Adolygiad Diwedd Blwyddyn 2018/19 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y dylid nodi cynnwys y Gofrestr Risg Gorfforaethol

8.

Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredd pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredd

 

9.

Strategaeth Cyllideb 2020/21 a'r Tymor Canol pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)       y cytunir ar egwyddorion y gyllideb y mae'r Adroddiad ar Strategaeth y Gyllideb yn seiliedig arnynt, gan gynnwys defnydd ymagwedd dargedig i fodloni’r Gofyniad am Leihau’r Gyllideb yn 2020/21 ac ar draws cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yng nghyd-destun yr amcanion a nodir yn Uchelgais Prifddinas. 

 

(2)       bod cyfarwyddiaethau’n gweithio gyda’r Aelod Cabinet Portffolio perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Aelod Cabinet dros Adnoddau a Rheoli Perfformiad er mwyn nodi arbedion posibl er mwyn cynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyllideb o £25 miliwn ar gyfer 2020/21 a £101 miliwn yn ystod cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

(3)       Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, weithredu unrhyw gynnig arbedion cyn 2020/21 lle nad oes angen argymhelliad polisi neu pan fo penderfyniad polisi eisoes wedi’i wneud.

 

(4)       Nodir y bydd gwaith yn parhau i ddiweddaru ac adnewyddu’r CATC ac y caiff ei adrodd i Aelodau fel y bo’n briodol.

 

(5)       ceisio datganiadau o ddiddordeb gan swyddogion o ran y cynllun dileu swyddi gwirfoddol, er mwyn cefnogi’r gwaith i sicrhau arbedion sy’n ofynnol yn yr adroddiad.

 

(6)       y Cyngor yn cael argymhelliad i gytuno y caiff y Fframwaith Amserlen Cyllidebol a osodir yn Atodlen 2 ei fabwysiadu ac y caiff y gwaith a amlinellir ei symud ymlaen gyda'r nod o lywio paratoadau ar gyfer y gyllideb.

 

(7)       ymgynghori ar gynigion cyllideb 2020/21 i lywio’r gwaith o baratoi Cyllideb ddrafft 2020/21.

 

10.

AAdroddiad Cwynion Blynyddol Cyngor Caerdydd 2018-19 pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y byddai cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi

11.

Adolygiad ar Caerdydd ar Waith a Darpariaeth Asiantaeth Matrix pdf eicon PDF 143 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo dyfarniad uniongyrchol i’r darparwr presennol Matrix SCM Ltd (am wasanaethau asiantaeth) am gyfnod o 12 mis Bydd hyn yn para o 8 Medi 2019 i 7 Medi 2020.

 

12.

Adnewyddu Trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.            awdurdodi’r Gwasanaeth Rheoliadol A Rennir i gynnal ymgynghoriad statudol i ail-ddatgan Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Plasnewydd.

 

2.            Swyddogion i’w hawdurdodi i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am gefnogaeth y Cyngor i’r gwaith ehangu arfaethedig i drwyddedu tai amlfeddiannaeth Mandadol, megis yn Lloegr ond hefyd i gynnwys “adeiladau a addaswyd yn wael”.

 

3.            Nodir y bydd goblygiadau adnoddau i ehangu, na fydd ond rhai’n adenilladwy o incwm ffi drwyddedau tai amlfeddiannaeth.

 

13.

Arena Dan Do pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

i)       nodi’r diwydrwydd dyladwy rhagarweiniol a nodir yn yr atodiadau i’r adroddiad hwn a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i’r Cabinet ar yr Arena Dan Do yn Nhachwedd 2018

 

ii)      dirprwy awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a  atodir yn Atodiad Cyfrinachol 4 o ran caffael safle Canolfan Red Dragon ac adrodd yn ôl i’r Cabinet cyn cytuno i unrhyw gytundebau cyfreithiol.

 

iii)     Awdurdod i’r ddirprwy o’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i ddelio â phob agwedd ar gaffael consortiwm datblygwyr/gweithredwyr i gyflawni’r Arena Dan Do newydd yn amodol ar gymeradwyo’r cynigydd a ffefrir gan y Cabinet mewn cyfarfod diweddarach.

 

iv)     awdurdod i’r ddirprwyo i’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gomisiynu adolygiad annibynnol o’r Achos Busnes Llawn, gan gynnwys y goblygiadau o unrhyw ofynion adeiladu ar dir, i’w gyflwyno’n ôl i’r Cabinet fel rhan o’i ystyriaeth o’r Achos Busnes Llawn maes o law. 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.