English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mai 2019 pdf eicon PDF 60 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

2.

I dderbyn adroddiad pwyllgor Craffu'r Amgylchedd dan y teitl 'Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd' pdf eicon PDF 3 MB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: derbyn adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, ‘Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd’ a chynnig ymateb erbyn Hydref 2019

 

3.

Safonau'r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol 2018-19 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: argymell i’r Cyngor:

 

(1)    Gymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2018-19 ar Safonau’r Gymraeg (fel sydd wedi’i atodi fel Atodiad A) a chytuno arno cyn iddo gael ei gyhoeddi yn unol â Safonau’r Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011).

(2)    Cymeradwyo Cynllun Gweithredu diwygiedig y Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog (wedi’i atodi fel Atodiad 1)

4.

Ymateb y Cabinet i Adroddiad Craffu'r Economi a Diwylliant 'Digwyddiadau yng Nghaerdydd' pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r ymateb i adroddiad ‘Digwyddiadau yng Nghaerdydd’ y Pwyllgor Craffu Economi a Diwylliant fel y nodir yn Atodiad A i’r adroddiad

 

5.

Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif: Ailddatblygu Ysgolion Cantonian, Riverbank a Woodlands pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

1.     cyhoeddi hysbysiadau statudol i:

·         Gynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cantonian o 6 dosbarth mynediad (6DM) i wyth dosbarth mynediad (8DM) gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion mewn llety newydd;

·         Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr a Chyflwr Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 i 30 o leoedd mewn llety pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;

·         Symud Ysgol Arbennig Woodlands i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 140 o leoedd i 240 o leoedd mewn llety newydd;

 

·         Symud Ysgol Arbennig Riverbank i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 70 o leoedd i 112 o leoedd mewn llety newydd.

 

2.     Nodi, petai gwrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol cyhoeddedig yn dod i law, y byddai’r Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o’r gwrthwynebiadau hyn ac ymateb y Cyngor i’r gwrthwynebiadau hynny.

3.       Nodi o fewn 25 diwrnod o ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu y bydd y Cyngor yn anfon copïau o’r gwrthwynebiadau statudol ymlaen, yn ychwanegol at yr adroddiad gwrthwynebu, i Weinidogion Cymru i benderfynu ar y cynnig.

4.     Nodi y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad dilynol ar gynigion pellach i gynyddu nifer y lleoedd ysgol arbennig ar gyfer plant cynradd ag anghenion dysgu cymhleth.

 

6.

Cynllun Terfynol Astudiaeth Ddichonolrwydd Ansawdd Awyr - Achos Busnes Llawn a Gwelliannau Trafnidiaeth Canol y Ddinas pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.         nodi canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Opsiwn a Ffefrir fel y nodir ym mharagraffau 66-71 yr adroddiad

 

2.         cymeradwyo Cynllun Terfynol Astudiaeth o Ddichonoldeb Ansawdd Aer (Achos Busnes Llawn) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru dim hwyrach na 30 Mehefin 2019

 

3.         dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i’r Cynllun Terfynol, ar yr amod nad oes unrhyw newidiadau sylfaenol i’r Opsiwn a Ffefrir y cytunwyd arno yn digwydd o ganlyniad i’r diwygiadau.

 

4.         cymeradwyo’r Strategaeth Aer Glân a’r Cynllun Gweithredu ehangach i’w cynnwys fel Atodiad C yn y Cynllun Terfynol

 

5.         dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i asesu’r ymarferoldeb o weithredu Ardal Allyriadau Isel ar gyfer Bysus a/neu Gynllun Partneriaeth Ansawdd.

6.          

7.         cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyluniadau cyd-destunol o Gynlluniau Gwella arfaethedig Canol y Ddinas, sef:

  1. Gogledd Canol y Ddinas
  2. Gorllewin Canol y Ddinas
  3. Dwyrain Canol y Ddinas

 

8.         Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i ddatblygu a chymeradwyo dyluniad manwl gwaith, gan ystyried adborth i’r ymgynghoriad cyhoeddus a bwrw ymlaen â’r Gorchmynion Rheoli Traffig angenrheidiol.

 

9.         Ystyried cyngor cyfreithiol a chaffael (a’r cafeatau a nodir ym mharagraff 135 o’r adroddiad) a rhoi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i Dendro contractwr ar y cynlluniau canlynol;

a)                   Gorllewin Canol y Ddinas Cam 1

b)                   Gogledd Canol y Ddinas Cam 1

c)   Dwyrain Canol y Ddinas Cam 1

 

9.         Adroddiad pellach ar Gynlluniau Canol y Ddinas i’w dderbyn cyn dyfarnu contract.

 

 

 

7.

Adroddiad alldro pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)           y dylid cymeradwyo'r adroddiad a’r camau a gymerwyd mewn perthynas â chyfrifon y Cyngor am 2018/19.

 

(2)      y dylid nodi y bydd yr adroddiad yn ffurfio Atodiad i adroddiad Datganiadau Ariannol y Cyngor a fydd yn cael ei ystyried yn ei gyfarfod ym mis Medi 2019.

 

8.

Bws Caerdydd - Benthyciad ar gyfer Caffael Cerbydau Trydan pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.             cymeradwyo benthyciad i Fws Caerdydd gan y Cyngor am £2.0m ar gyfer prynu cerbydau trydan yn amodol ar gasgliad cytundeb cyfreithiol, gan gynnwys trefniadau diogelwch priodol rhwng y Cyngor a Bws Caerdydd mewn perthynas â thelerau’r benthyciad

 

2.             Yn unol â Fframwaith Cyllidebol y Cyngor, ceisio cymeradwyaeth bellach cheisio gan y Cyngor lle bo angen ac, os yn briodol, o ran ymrwymiadau gwariant ac yn unol ag amodau grant yr Adran Drafnidiaeth am fenthyciad pellach i Fws Caerdydd gwerth £1.8 miliwn.

 

3.         dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i baratoi a chasglu’r trefniadau cyfreithiol rhwng y Cyngor a Bws Caerdydd mewn perthynas â benthyciadau a gymeradwywyd.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.