English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2019 pdf eicon PDF 137 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

2.

Cael adroddiad y Pwyllgor Craffu ar Ddiwylliant a'r Economi o'r enw 'Digwyddiadau yng Nghaerdydd' ' pdf eicon PDF 2 MB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod adroddiad Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant o'r enw 'Digwyddiadau yng Nghaerdydd' yn cael ei dderbyn a bod ymateb yn cael ei ddarparu erbyn Mehefin 2019

 

3.

Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cwn pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod:

 

1. cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Rheoli C?n o dan adran 59 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i gael ei gymeradwyo i gynnwys:

 

·          Gwahardd baw c?n ym mhob man cyhoeddus sy'n eiddo i'r Cyngor ac/neu a gynhelir ganddo

·          Ei bod yn ofynnol i berchnogion c?n gael dull o glirio baw c?n.

·          Y gwaharddiad o g?n o bob maes chwarae caeedig ac ysgol y mae Cyngor Caerdydd yn berchen arnynt a/neu'n eu cynnal

·          Y gofyniad bod c?n yn cael eu cadw ar dennyn o fewn pob mynwent y mae Cyngor Caerdydd yn berchen arnynt a/neu yn eu cynnal

·          Gofyniad sy'n caniatáu i swyddogion awdurdodedig roi cyfarwyddyd i gi/c?n gael eu rhoi ar dennyn os oes angen

·          Mae'r tâl hysbysiad cosb benodedig am dorri Gorchymyn Diogelu Mannau cyhoeddus ar gyfer rheoli c?n, fel y nodir uchod, wedi'i osod ar £100.

·           Bydd y mesurau rheoli c?n yn esempt ar gyfer pobl sydd ag anabledd sy'n effeithio ar eu symudedd, eu deheurwydd llaw, eu cydsymudiad corfforol neu eu gallu i godi, cario neu symud pethau bob dydd, mewn perthynas â chi sydd wedi'i hyfforddi gan elusen gofrestredig ac ar y mae'r person yn dibynnu arno am gymorth

 

2.         y dylid cymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus

4.

Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2020/21 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y dylid cytuno ar ddrafft Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2019/2020 y Cyngor fel y nodir yn y Polisi Derbyn i Ysgolion 2019/2020.

5.

Cynllun Trefniadaeth Ysgolion: Darpariaeth lleoedd Ysgol Gynradd cyfrwng Saesneg yn Ardal Llanrhymni pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Y nodir y bydd Ysgol Gynradd Glan yr Afon yn bwrw ymlaen â’r broses o ffedereiddio yn cael ei dilyn gan ysgol gynradd arall yng Nghaerdydd (i'w phenderfynu) fel rhan o ateb strategol ehangach i leihau lleoedd dros ben yn Llanrhymni ac i wella canlyniadau disgyblion yn  Ysgol Gynradd Glan yr Afon.

 

2.   Dylid rhoi cytundeb i swyddogion sy'n archwilio ffynonellau buddsoddi cyfalaf priodol i atgyfnerthu a chydleoli gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a ddarperir yn ardal Llanrhymni i safle Glan yr Afon

 

6.

Darpariaeth Ysgol Newydd i wasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Mae'r cynnig i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg gael ei drosglwyddo i safle'r ysgol newydd ar y datblygiad tai newydd yn Sant Edern (Safle Strategol Cynllun Datblygu Lleol G), yn ehangu o 105 o leoedd i 210 o leoedd ac yn ymestyn ei ystod oedran o 4-11 i 3-11 gan gynnwys meithrinfa ar gyfer 48 o leoedd rhan-amser gael ei nodi

 

2.   nodir y bydd y broses ymgynghori statudol yn cael ei chynnal gan gorff llywodraethu'r ysgol, a dylid cyfarwyddo swyddogion i ddarparu pob cymorth rhesymol yn hyn o beth.

 

3.   cytuniad i’w roi, mewn egwyddor, i ddarparu safle'r ysgol newydd ar y datblygiad tai newydd yn Sant Edern, ar yr amod bod telerau priodol yn cael eu cytuno, gyda chyngor gan Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol; a

 

4.   dylid awdurdodi'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, i ymateb yn ffurfiol ar ran y Cyngor i'r ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol maes o law.

 

 

7.

Cyllid Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif pdf eicon PDF 154 KB

Penderfyniad:

 

ENDERFYNWYD: y dylid dilyn strategaeth model ariannu deuol i ariannu Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif i gynnwys y llwybr Model Cydfuddsoddi ar gyfer cyflawni ein cynlluniau Band B arfaethedig yn Cathays a Willows (gan gynnwys cynradd 3FE).

8.

Datganiad Polisi Tâl 2019/20 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod y Datganiad Polisi Cyflog atodedig (2019/20) yn cael ei gymeradwyo i'w ystyried gan y Cyngor

9.

Caffael Ynni (Trydan a Nwy) Cyngor Caerdydd - Strategaeth Prynu 2020-2021 pdf eicon PDF 122 KB

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   estyniad i drefniadau cyflenwi ynni (trydan a nwy) y Cyngor gyda gwasanaethau masnachol y Goron a'r Gwasanaethau Caffael Cenedlaethol hyd at fis Mawrth 2021 yn cael eu cymeradwyo

 

2.   y bydd y Cyngor yn dewis y trefniadau cyflenwi deg mis o flaen llaw ar gyfer y trefniadau cyflenwi 2020/21,

 

10.

Strategaeth Lletya Pobl Hŷn 2019 - 2023 pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   y bydd cytuno ar Strategaeth Tai Pobl H?n Caerdydd 2019-2023 fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad

 

2.   y cytunir ar y newidiadau arfaethedig i Gynllun Dyrannu Tai Caerdydd fel y nodir ym mharagraff 28 yr adroddiad.

 

11.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2019/20 pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd: bod Cynllun Busnes CRT 2019-2020 i gael ei gymeradwyo.

12.

Gorfodi Parcio Sifil a Throseddau Traffig Sy'n Symud - Polisi Heriau, Sylwadau ac Apeliadau pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   bod y polisi newydd (sydd wedi'i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad) ar gyfer ystyried heriau, sylwadau ac apeliadau sy'n gysylltiedig â gorfodi parcio sifil a throseddau traffig sy'n symud yn cael ei gymeradwyo.

 

2.   Awdurdod i gael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Strydlun mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth i ddiweddaru'r polisi, o bryd i'w gilydd, sy'n ymwneud ag unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth, cyfraith achosion cysylltiedig ac arfer da.

 

13.

Gwella Trafnidaeth Gyhoeddus - Ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD:

 

1.      cynnwys Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus i gael ei nodi

 

2.      bydd yr ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru - Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus (sydd wedi'i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad) yn cael ei gymeradwyo i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 27 Mawrth 2019.

 

14.

Achos Busnes Amlinellol Astudiaeth o Ddichonoldeb Ansawdd Aer - Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   yr Adroddiad Achos Busnes Amlinellol yr Astudiaeth Ddichonoldeb Aer Glân a luniwyd gan y cyngor sy'n argymell mai'r dewis a ffefrir gan y Cyngor i gyflawni cydymffurfiad yn yr amser byrraf posibl yw pecyn o fesurau, yn hytrach na Pharth Aer Glân ble Codir tâl i gael ei gymeradwyo.

 

2.   ymgynghori â'r cyhoedd i hysbysu rhanddeiliaid allweddol, busnesau a'r cyhoedd yn ehangach ynghylch yr opsiwn a ffefrir gan y Cyngor, sef pecyn o fesurau a ddatblygir yn Achos Busnes Llawn, a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i gymeradwyo'r ddogfennaeth ymgynghori ofynnol.

 

3.   Nodir y bydd y pecyn o fesurau yn cael ei asesu a'i ddatblygu ymhellach yn Achos Busnes Llawn a fydd yn cael ei ddwyn gerbron y Cabinet i'w gymeradwyo cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2019, er mwyn cydymffurfio â gofynion Cynllun Terfynol yn unol â'r cyfarwyddyd cyfreithiol

 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.