Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2019 PDF 156 KB Penderfyniad: Cytunwyd
|
|
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: o ran adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o'r enw 'Rheoli Bioamrywiaeth a’r Amgylchedd Naturiol yng Nghaerdydd’ i roi ymateb erbyn Ebrill 2020
|
|
Uchelgais Prifddinas PDF 158 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) bod y ddogfen Uchelgais Prifddinas newydd yn cael ei chymeradwyo fel datganiad wedi'i ddiweddaru o flaenoriaethau ac ymrwymiadau'r weinyddiaeth ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr 2020 a Mai 2022;
2) Awdurdodir y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â phob Aelod o'r Cabinet, i droi ymrwymiadau polisi Uchelgais Prifddinas yn fframwaith cynllunio a chyflawni corfforaethol y Cyngor a nodi bod y Cynllun Corfforaethol 2020-23 a chynigion cyllideb y Cabinet yn cael eu hailgyflwyno i’w hystyried gan y Cabinet ym mis Chwefror 2020.
|
|
Ymgyrch Addysg i Gefnogi Gwell Perfformiad o ran Ailgylchu PDF 242 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r strategaeth 'Gweithio gyda'n gilydd i wella ailgylchu i Gaerdydd'
2. mewn egwyddor, mae'r gofyniad i breswylwyr wahanu eu gwastraff ailgylchu a gweddilliol wrth ddefnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yng Nghaerdydd yn cael ei gymeradwyo a'r awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strydlun mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd i gymeradwyo manylion y cynllun.
|
|
Gwerthuso perfformiad ysgolion Caerdydd 2018/19 PDF 426 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: bod Adroddiad Perfformiad Blynyddol Addysg 2018/19 yn cael ei nodi. |
|
Darpariaeth blynyddoedd cynnar, ysgol gynradd ac uwchradd ar gyfer Adamsdown a Sblot PDF 519 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. peidio â bwrw ymlaen â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Gatholig St Alban
2. Awdurdodir swyddogion i gyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet i'w ystyried, gan nodi manylion y cynigion diwygiedig ar gyfer darparu lleoedd addysg yn Adamsdown a'r Sblot. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: bod hysbysiad statudol yn cael ei gyflwyno i:
· Sefydlu ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad ddwy ffrwd gyda darpariaeth feithrin i wasanaethu camau cynnar y datblygiad ym Mhlasd?r o fis Medi 2021.
Dylid nodi cyn rhoi’r cynigion ar waith bod adroddiad pellach yn cael ei roi i’r Cabinet yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiad a dderbyniwyd, yr ymatebion arfaethedig i’r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion i roi’r cynllun ar waith neu fel arall. |
|
Darpariaeth Ysgol Newydd i wasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg PDF 400 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 1 o’r adroddiad heb eu newid.
2. awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 1 o’r adroddiad
3. awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.
4. y dirprwyir gwaith cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau.
|
|
Dileu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni fydd Atodiadau A a B yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi yn rhinwedd Paragraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD: awdurdodi dileu dyledion sy’n dod i £137,310.90.
|
|
Darpariaeth Tai i Bobl H?n ym Maelfa a Llaneirwg PDF 181 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chyhoeddir Atodiadau i’r adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithriwyd o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD:
1. Dylid cymeradwyo'r broses gaffael i benodi contractwyr ar gyfer cynllun pobl h?n newydd Maelfa a Llaneirwg.
2. awdurdod i gael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau (mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau) i ymgymryd â phob agwedd ar y broses gaffael ar gyfer y ddau gynllun gan gynnwys pennu meini prawf tendr, cymeradwyo'r pecynnau tendr, gwerthuso meini prawf a chwblhau’r penodiadau.
|
|
Cymeradwyo Cais am Gynllun Benthyca Canol Tref PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau 1 - 4 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei heithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: bod y cais am fenthyciad o dan y cynllun benthyciadau canol tref i gefnogi'r broses o gwblhau datblygiad y Gyfnewidfa Lo yn cael ei gymeradwyo yn unol â'r prif amodau a nodir ym mharagraff 14 yr adroddiad a'i atodi yn gyfrinachol yn Atodiad 2 i'r adroddiad.
|
|
Ailgomisiynu Gwasanaethau Gofal Cartref a Chymorth Sesiynol PDF 576 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar y weledigaeth ar gyfer darparu gofal cartref yng Nghaerdydd a'r model newydd arfaethedig ar gyfer dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr ardal ac ar ganlyniadau, ynghyd â'r cynllun gweithredu 2 flwyddyn. 2. Awdurdod i gael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet, Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles a'r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, Swyddog Adran 151 y Cyngor a Swyddog Monitro'r Cyngor, i benderfynu ar bob agwedd ar y broses gaffael neu ar ail-gomisiynu gwasanaethau gofal cartref (gan gynnwys gwneud penderfyniadau yngl?n â’r Ymarfer Cost Gofal, cymeradwyo'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, ac awdurdodi dyfarnu'r contractau) a’r holl faterion atodol sy'n ymwneud â'r caffaeliad a'r cynigion uchod. |
|
Polisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 175 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo Polisïau Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Gofal Preswyl a Gofal Dibreswyl
2. bod y dull newydd arfaethedig o dalu darparwyr gofal cartref preswyl a nyrsio yn cael ei gymeradwyo a nodi y bydd cymeradwyaeth o'r fath yn diwygio'r penderfyniad blaenorol gan y Cabinet (CAB/18-19/25) dyddiedig 20 Medi 2018, eithrio unrhyw daliadau trydydd parti a thaliadau gofal nyrsio a ariennir o'r broses taliadau gros ar gyfer darparwyr cartrefi preswyl a nyrsio, o 1 Ebrill 2020 ac fe'i nodir yn fanwl yng nghorff yr adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiad 3 yr adroddiad hwn i gael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi’r penderfyniad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i gymeradwyo'r Cynllun Aer Glân terfynol diwygiedig yn llawn a'r dyfarniad cyllid dilynol o £21.27M
2. Dyfarnu’r tendr ar gyfer Project Trafnidiaeth Gorllewin Canol y Ddinas Cam 1 (Sgwâr Canolog) i'r contractwr buddugol, Knights Brown Construction Ltd.
|
|
Papur Gwyn Trafnidiaeth: Gweledigaeth Drafnidiaeth Caerdydd - 2030 PDF 361 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo’r Papur Gwyn – gweledigaeth drafnidiaeth Caerdydd - 2030 sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 i'r adroddiad 2. Nodir y bydd y Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet, yn cynnal adolygiad o staffio ac adnoddau ac yn asesu gofynion y gweithlu er mwyn sicrhau bod projectau'r Papur Gwyn a'r gwaith o ddatblygu’r Achos Busnes ar opsiynau cyflenwi yn gallu cael ei gyflawni’n ddigonol.
3. Dylid cymeradwyo'r broses o ddatblygu achosion busnes strategol ac amlinellol ar yr opsiynau cyflenwi a dylid dirprwyo'r awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, yn amodol ar ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, Aelod Cabinet Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, Swyddog a. 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, i ymdrin â phob agwedd o'r broses gaffael (gan gynnwys cymeradwyo'r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, dechrau'r broses gaffael ac awdurdodi dyfarnu'r contract arfaethedig) a’r holl faterion ategol sy'n ymwneud â'r caffael. 4. Ceir adroddiad pellach ar ganlyniadau'r achos busnes amlinellol i gytuno ar unrhyw ymgynghori angenrheidiol a'r camau nesaf i ddatblygu'r achos busnes llawn. 5. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i ymgysylltu â'r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol a phartneriaid/rhanddeiliaid eraill ar y Papur Gwyn ac achosion busnes ar yr opsiynau cyflenwi. 6. Mae gweledigaeth drafnidiaeth Caerdydd-2030 yn cael ei chyfeirio at y Cyngor i’w nodi |