English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2019 pdf eicon PDF 130 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

2.

Cartref Cywir, Cymorth Cywir - Strategaeth Gomisiynu ar gyfer Llety a Chymorth i Blant sy'n Derbyn Gofal pdf eicon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod

 

1.   y Strategaeth Gomisiynu Llety a Chymorth Cartref Cywir Cymorth Cywir ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (“y Strategaeth Gomisiynu”) yn cael ei chymeradwyo, a bod y Datganiad Sefyllfa Marchnad yn cael ei nodi a;

2.   bod yr awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol gyda’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y swyddog a151 a’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol i ddatblygu yr holl achosion busnes a chwblhau yr holl gamau gofynnol er mwyn rhoir’ Strategaeth Gomisiynu ar waith. 

3.

Strategaeth Fwyd pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod strategaeth y Cyngor a’r camau arfaethedig ar gyfer bwyd cynaliadwy yn y ddinas yn cael eu cymeradwyo.

4.

Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau B ac C i Atodiad 1 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD: y dylid argymell i’r Cyngor nodi adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2019-20 (Atodlen 1

5.

Monitro Mis 6 pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nid yw Atodiad 2 yr adroddiad hwn i gael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 o Atodlen 12a i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   nodi alldro ariannol posibl ar sefyllfa ragamcanol ar gyfer Mis 6 y flwyddyn ariannol

 

2.   atgyfnerthu’r gofyniad ar i’r holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad hwn, i roi camau gweithredu ar waith i ostwng y gorwario rhagamcanol

 

3.   fod costau’r Cyngor ar gyfer cwblhau gwaith caffael consortiwm datblygwr/gweithredwr a ffefrir yn ogystal â pharatoi achos busnes llawn ar gyfer yr Arena Dan Do er mwyn i’r Cabinet eu cymeradwyo ym mis Mawrth 2020 i’w talu, fel a nodir yn Atodiad 4 sy’n gyfrinachol.

 

6.

Perfformiad Chwarter 2 pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, cyflawni ymrwymiadau a blaenoriaethau yn Chwarter 1, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â materion sy’n achos pryder.

7.

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019; gweithredu trefniadau ar gyfer Cyngor Caerdydd a Rhentu Doeth Cymru. pdf eicon PDF 157 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir i orfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 a diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor ynghyd â’r Cytundeb gweithio ar y cyd yn briodol.

 

2.   rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i orfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 ar ran Cyngor Caerdydd a diweddaru cyfansoddiad y Cyngor yn briodol.

 

Bod Cyngor Caerdydd, fel yr Awdurdod Trwyddedu Sengl ar gyfer Cymru at dibenion  Deddf Tai (Cymru) 2014 yn derbyn awdurdodiad i arfer unrhyw swyddogaethau y 21 awdurdod lleol eraill at ddibenion Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) gymryd camau gorfodi a chychwyn achosion trosedd yn unol ag adran 19 o’r Ddeddf honno.

8.

Polisi Dilysu Seiliedig ar Risg ar gyfer Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau A-C yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14, 18 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo’r polisi ar gyfer Dilysu Seiliedig ar Risg fel y’i hatodir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

2.   y bydd y polisi yn dod i rym o 1 Ionawr 2020.

 

Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Tai a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau i adolygu’r polisi yn flynyddol a gwneud newidiadau yn ôl yr angen.

9.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol - Pennu Ffioedd Gofal Cartref Pobl H?n Caerdydd 2019/20 - 2022/23. pdf eicon PDF 508 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiad C (cyngor cyfreithiol) wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 12.1 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cyn cymryd y penderfyniad isod, ystyriodd y Cabinet y ffactorau canlynol:

·       yr adnoddau sydd ar gael gan y Cyngor

·       y galw a’r blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cartref gofal

·       costau cyfreithlon a dyfodol y darparwyr

·       disgwylir modelau gweithredu mwy cost-effeithiol a gwasanaethau a gomisiynir

·       Y buddsoddiad sydd ei angen yma er mwyn i ddarparwyr fodloni gofynion y comisiynwyr a’r rheoleiddwyr (Arolygiaeth Gofal Cymru)

·       cydnabod bod rhaid i wasanaethau weithredu yn ddiogel ac yn effeithiol i hyrwyddo lles unigolion sydd dan eu gofal.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)   cytuno ar y dyfarniad ar gost safonol ar gyfer gofal cartref i bobl h?n fel y’i nodir yn yr adroddiad hwn ac y bydd yr holl wasanaethau cartref gofal newydd i bobl h?n yn cael eu comisiynu ar ffi safonol a gyhoeddir ar 1 Ionawr 2020, ar y gyfradd a nodir isod:

 

Categori   

Costau’r wythnos

·  Preswyl Pobl H?n                       £708.60

·  Preswyl Dementia                       £761.19

·  Nyrsio Pobl H?n              £702.04

·  Nyrsio Dementia                         £755.79

 

2)  y cynnydd mewn ffioedd ar gyfer 2019-20 wedi’i ôl-ddyddio o 8 Ebrill 2019, fel y’i nodir isod:

·      cynnydd o £40 yr wythnos ar gyfer pob lleoliad cartref gofal sydd yn is na’r gost safonol am ofal a nodwyd yn Argymhelliad Un a

·      chynnydd o £10 yr wythnos i’r holl leoliadau cartref gofal sydd o fewn £100 i’r gost safonol

·      Dim cynnydd i’r pecynnau cartref gofal hynny sy’n uwch na £100 uwchlaw’r gost safonol.

 

3)   Yn amodol ar adnoddau sydd ar gael, cytuno ar ddull graddol o godi pecynnau gofal sydd o dan y pris safonol a nodir yn Argymhelliad Un dros y tair blynedd nesaf (Ebrill 2020 tan Fawrth 2023). Bydd angen i’r cynnydd cynyddrannol ystyried effaith ar y costau safonol yn sgil cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol fydd yn uwch na chyfraddau MPD, yn ogystal a‘r adnoddau sydd ar gael i’r Cyngor.

 

4)   dirprwyo awdurdod y broses benderfynu ar gyfer codi ffioedd o 2020 ymlaen i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, i’r Swyddog adran 151 ac i’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Argymhelliad Dau a Thri ac yn amodol ar yr adnoddau gofynnol sydd ar gael.

 

5)   dirprwyo awdurdod ar gyfer yr holl benderfyniadau, yn ymwneud â’r dull newydd o sicrhau lleoliadau gofal cartref i bobl h?n, gan gynnwys methodoleg o benderfynu ansawdd, i’w weithredu o 1 Ebrill 2020, i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, i Swyddog Adran 151 y Cyngor ac i’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

6)   i nodi y gofynnir i’r Cabinet ystyried Polisi Codi Tâl Gwasanaethau Cymdeithasol newydd a gaiff ei gyflwyno ym mis Ionawr 2020.

 

10.

Adolygiad Llawn Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD: argymell i’r cyngor gymeradwyo’r Adroddiad Adolygu drafft a’r Cytundeb Cyflawni drafft at ddibenion yr ymgynghoriad a chytunwyd y cyflwynir adroddiad arall i’r Cyngor yn ystod Gwanwyn 2020 gyda chanfyddiadau’r broses ymgynghori a’r argymhellion ar gyfer y ffordd arfaethedig ymlaen.

11.

Adroddiad Cynnydd ar Reoli Ansawdd Awyr Lleol Cyngor Caerdydd 2016 pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   nodi a derbyn canlyniadau monitro a gasglwyd yn 2018.

 

2.   cymeradwyo Adroddiad Cynnydd blynyddol 2019 (fel yr atodwyd yn Atodiad 1) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo.

 

12.

Ymateb y Cabinet i adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o'r enw 'Gwella Ansawdd Aer Caerdydd' pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) 2020-30 i’w gyhoeddi ac fel y templed darparu gwasanaeth i reoli a gwella rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Caerdydd dros y ddeng mlynedd nesaf.

13.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) 2020-30 i’w gyhoeddi ac fel y templed darparu gwasanaeth i reoli a gwella rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Caerdydd dros y ddeng mlynedd nesaf.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.