English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfodydd Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019 pdf eicon PDF 116 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

2.

Ymateb y Cabinet i'r Adroddiad Craffu Amgylcheddol o'r enw 'Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd' pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CYTUNWYD: bod yr ymateb i adroddiad ‘Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yng Nghaerdydd’ y Pwyllgor Craffu ar yr Amgylchedd fel y mae yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

3.

Tendr Creu Ynni o Nwy Tirlenwi ac o bosibl Nwy Naturiol, gan gynnwys Rheoli Nwy Tirlenwi pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CYTUNWYD: bod

 

1.   y broses gaffael i gomisiynu trefniadau newydd ar gyfer darparu trydan o safleoedd tirlenwi ac o bosibl nwy naturiol ac o bosibl reoli nwy naturiol yn safleoedd tirlenwi Ffordd Lamby a Ferry Road yn cael eu cytuno

 

2.   awdurdod i’w ddirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau a Phobl, yn amodol ar ymgynghori gyda’r Aelod cabinet dros Gyllid, perfformiad a Moderneiddio a'r Aelod Cabinet dros strydoedd glân, ailgylchu ac amgylcheddau, Swyddog a151 a’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant  Gwasanaethau Cyfreithiol, i ddelio gyda phob agwedd ar y broses gaffael (gan gynnwys cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso i'w defnyddio, rhoi cychwyn ar y caffael ac awdurdodi dyfarnu’r contract arfaethedig) a phob mater cysylltiol arall yn ymwneud â'r caffael.

 

4.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Reoliadol a Rennir 2018/19 pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CYTUNWYD: nodi Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau a Rennir ar gyfer 2018-19.

5.

Diweddariad Strategaeth Cerddoriaeth pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiad 5 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a pharagraff atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

CYTUNWYD:

 

(1)     cymeradwyo’r ymateb i Adroddiad Sound Diplomacy wedi ei atodi fel Atodiad 2 at yr adroddiad.

 

(2)     cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd sydd wedi ei atodi fel Atodiad 3 i'r adroddiad

 

(3)     cymeradwyo penodi Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd i benodi’r unigolion a enwir yn Atodiad Cyfrinachol 5 yr adroddiad

 

(4)     dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Swyddog Monitro a'r swyddog Adran 151 i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynigion manwl ar gyfer y prif ddigwyddiad fel y’i amlinellir ym mharagraff 22 yr adroddiad i’w ddiweddaru mewn cyfarfod o’r Cabinet yn y dyfodol.

 

6.

Sicrhau Dyfodol y Theatr Newydd pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiadau 1-6 yr adroddiad eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a pharagraff atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

CYTUNWYD:

 

(1)     cymeradwyo dewis y tenant a argymhellir

 

(2)     dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gydag Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden. Y Swyddog Monitro a’r swyddog Adran 151 i roi trefn derfynol ar y Brydles ar sail y Penawdau Telerau a nodir yn Atodiad Cyfrinachol 5.

 

7.

Gweledigaeth a Strategaeth Caerdydd 2030 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    cymeradwyo mabwysiadu Gweledigaeth Caerdydd 2030

 

2.    dirprwyo cyfrifoldeb i’r Gyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes dros ddatblygu a gweithredu’r cynlluniau gweithredol i gyflawni’r mesurau llwyddiant a nodir yn y strategaeth.

 

8.

Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

I.       cymeradwyo Strategaeth Ddiwydiannol Dwyrain Caerdydd

 

II.       dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad gydag Aelod y cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Swyddog Monitro a’r swyddog Adran 151 i ddatblygu cyfleoedd ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor, gan gynnwys marchnata tir i’w waredu a dychwelyd at y cabinet fel y bo'n briodol.

 

III.    gofyn i Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i hybu cais i Brifddinas Ranbarth Caerdydd am fuddsoddiad ym mhroject Parcffordd Caerdydd.

 

9.

Strategaeth Datblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chaiff Atodiad 4 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

CYTUNWYD:

 

1.   cymeradwyo’r strategaeth ddatblygu newydd ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

 

2.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i fynd â datblygiad Glannau'r D?r yn ei flaen gan gynnwys gwaredu tir a neilltuo unrhyw dderbyniadau cyfalaf yn unol â’r strategaeth gyllidol a amlinellir yn Atodiad cyfrinachol 4 ac yn amodol ar brisiad annibynnol fel y bo’r angen.

 

3.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i ddelio â phob agwedd ar gaffael partner masnachol i sefydlu a gweithredu atyniad hamdden newydd yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i'w gymeradwyo'n derfynol. 

 

4.   Yn rhan o (iii) uchod,  dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i gynnwys gweithrediad allanol DGRhC yn rhan o’r broses gaffael yn unol â’r strategaeth a nodir yn yr adroddiad hwn a dychwelyd at y Cyngor i’w gymeradwyo’n derfynol.

 

10.

Trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CYTUNWYD: argymell wrth y Cyngor ei fod yn derbyn y trydydd AMB i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.

11.

Ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CYTUNWYD: cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r Ymgynghoriad FfDC Drafft fel y'i nodir ym mharagraffau 9-20 yr adroddiad hwn a cheisio trafodaeth bellach gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a godir ynddo.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.