Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Cabinet - Dydd Iau, 5ed Gorffennaf, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Cofnodion Cyfarfod y Cabinet ar 14 Mehefin 2018 pdf eicon PDF 116 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2018 yn cael eu cymeradwyo.

 

11.

Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad o’r enw ‘Arweinyddiaeth y Cwsmer’ pdf eicon PDF 480 KB

Penderfyniad:

PENDERRFYNWYD: derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad o’r enw ‘Arweiniad y Cwsmer’ a chyflwyno ateb erbyn mis Tachwedd 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Walker adroddiad y Pwyllgor Craffu ar ‘Arweinyddiaeth y Cwsmer’ i’r Cabinet.  Roedd 35 o ganfyddiadau allweddol a 7 o argymhellion yn yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried.  

 

PENDERFYNWYD: derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad o’r enw ‘Arweinyddiaeth y Cwsmer’ a chyflwyno ateb erbyn mis  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc o’r enw ‘Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir. pdf eicon PDF 628 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc o’r enw ‘Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir a chyflwyno ateb erbyn mis Tachwedd 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Len Bridgeman adroddiad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc o’r enw ‘Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir’. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 20 o argymhellion i’r Cabinet eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc o’r enw ‘Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir’  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cynigion Trefniadaeth Ysgolion: Gwella darpariaeth arbenigol i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol 2018-19 pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr yr adroddiad heb eu newid.

 

2.   Yn dibynnu ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, cymeradwyo‘r cynnig i ymestyn yr ystod oedran yn Greenhill o 11 - 16 i  11 - 19 (mae angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wneud hyn)

 

3.   Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu Ysgol yr Forwyn Fair: cynnwys adeiladau CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeiladau newydd Ysgol y Forwyn Fair.

 

4.   awdurdodi swyddogion i gymryd camau priodol i weithredu'r cynigion a nodir ym mharagraff 2 yr adroddiad.

 

5.   awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r penderfyniad ymhen 7 diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig.

 

6.   dirprwyo gwaith cymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i’r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, wedi ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau a Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Aelodau Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad ac Addysg a Sgiliau.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol T? Gwyn

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn rhoi gwybod nad oes unrhyw wrthwynebiadau i’r hysbysiadau statudol sy’n ymwneud â chynigion i gynyddu darpariaeth arbenigol i blant a phobl ifanc wedi’u derbyn.  Byddai’r cynigion yn helpu i fynd i’r afael ag  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13.

14.

Strategaeth Gweithlu 2018-2021 pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cytuno ar y Strategaeth Gweithlu 2018-2021 fel y mae yn Atodiad 1 yr adroddiad

 

2.   cytuno ar y newidiadau i’r broses recriwtio fel y manylir ym mharagraff 11 yr adroddiad

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet y strategaeth y gweithlu sy’n gosod fframwaith o’i flaenoriaethau ac ymrwymiadau angenrheidiol er mwyn creu diwylliant sy’n cynorthwyo gweithlu hyblyg, medrus, ymrwymedig ac amrywiol er mwyn cefnogi’r amcanion sydd yn yr Uchelgais Prifddinas y Weinyddiaeth.  

 

PENDERFYNWYD:

 

1.            cytuno ar y Strategaeth Gweithlu 2018-2021 fel y mae yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 14.

15.

Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 2017-18 pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, sut mae cyflawni’r prif ymrwymiadau a blaenoriaethau fel yn Chwarter 4, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â heriau i’r Cyngor.

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet fanylion am berfformiad y Cyngor ar gyfer Chwarter 4 2017-18 gan gynnwys crynodeb o’r cynnydd a’r heriau a wynebir gan bob cyfarwyddiaeth. 

 

PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, sut mae cyflawni’r prif ymrwymiadau a blaenoriaethau fel yn Chwarter 4, a'r camau sy'n cael eu cymryd i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15.

16.

Alldro 2017/18 pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)   cymeradwyo'r adroddiad a’r camau a wnaed mewn perthynas â chyfrifon y Cyngor yn 2017/18.

 

(2)   nodi y bydd yr adroddiad yn ffurfio Atodlen i adroddiad Datganiadau Ariannol y Cyngor a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Medi 2018.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor fanylion am sefyllfa ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn  sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018. Nododd y sefyllfa alldro refeniw derfynol fod y Cyngor wedi cadw ei wariant o fewn ei gyllideb net gyffredinol o £587 miliwn yn 2017/18 gyda sefyllfa gytbwys wedi’i hadrodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16.

17.

Gwasanaethau Trafnidiaeth Corfforaethol pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r rhaglen wella’r Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog a chytuno gwneud y gwaith pellach angenrheidiol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

2.   cytuno ar egwyddor ymchwilio dull newid â’r sector preifat a dirprwyo’r awdurdod i’r Uwch Swyddogion perthnasol mewn ymgynghoriad â’r Aelodau Cabinet perthnasol i ddelio ag unrhyw agwedd ar gomisiynu dull newydd sy’n cynnwys caniatáu contractau ac unrhyw drefniadau cysylltiedig angenrheidiol.

3.    

cadw’r Rolls Royce a’r rhif cofrestru ac mai bwriad y Cyngor o ran yr Amgueddfa Moduron Cenedlaethol yw rhoi benthyg y Rolls Royce dros dro gan ddisgwyl ei ddychwelyd i Gaerdydd i’w roi ar ddangos yn barhaol mewn cyfleuster priodol.

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu cynnydd o ran rhoi rhaglen Gwella Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog ar waith.Adroddwyd bod angen archwilio’r gallu o arbed arian trwy ddulliau effeithlonrwydd a chreu mwy o incwm ymhellach a chynigiwyd archwilio partneriaeth gyda’r sectorau preifat.

 

Cynigiwyd hefyd y gofynnir i’r Amgueddfa Cerbydau Modur Genedlaethol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17.