Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Siarter y Cynghorau Cymuned PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r Siartr drafft a ddiweddarwyd fel Atodiad B, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau;
2. awdurdodi’r Arweinydd i arwyddo’r Siartr a ddiweddarwyd ar ran Cyngor Caerdydd; a
3. dirprwyo’r awdurdod i’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet perthnasol a’r chwe cyngor Cymuned, i wneud unrhyw fân ddiwygiadau pellach i’r Siartr ag a allai fod ei angen o dro i dro. |
|||||||||||||
Meysydd y Canmlwyddiant PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) cymeradwyo mewn egwyddor i neilltuo’r safleoedd y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad ac yn amodol ar ymgynghoriad.
2) Dirprwyo’r awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd i hwyluso'r broses ymgynghori â'r rhanddeiliaid ac aelodau ward lleol er mwyn cwblhau'r manylion gwaredu terfynol, cyn unrhyw hysbyseb.
3) hysbysebu gwaredu arfaethedig y safleoedd a nodwyd yn yr adroddiad yn unol ag adran berthnasol Deddf Llywodraeth Leol 1972 a bod adroddiad ar y canlyniadau mewn cyfarfod i’r dyfodol.
|
|||||||||||||
Darpariaeth Lleoedd mewn Ysgolion Cynradd Cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Nodi y bydd ymgynghoriad ar drefniadau derbyn 2020/2021 yn cynnwys lleihad yn y Nifer Derbyn cyhoeddedig ar gyfer Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon o 41 lle i 30 lle;
2. Awdurdodi swyddogion i archwilio dichonolrwydd cynigion diwygiedig i gau Ysgol Glan-yr-Afon;
3. Awdurdodi swyddogion i ddwyn adroddiad pellach ger bron y Cabinet i’w ystyried ar sut y gellir mynd i’r afael â darparu llefydd ysgol cymunedol Saesneg yn ardal Llanrhymni |
|||||||||||||
Ysgolion yr 21ain Ganrif (Band B: Ailddatblygu Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank. PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar gynigion i:
· Adnewyddu adeiladu Ysgol Uwchradd Cantonian gydag adeiladau newydd ar yr un safle gan ehangu’r ysgol o chwech dosbarth mynediad (6DM) i wyth (8DM) gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer 250 o ddisgyblion;
· Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistiaeth (CSA), dan fantell Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 lle i 30 lle mewn adeilad pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;
· Trosglwyddo Ysgol Arbennig Woodlands i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 140 lle i 240 lle mewn adeilad newydd;
· Trosglwyddo Ysgol Arbennig Riverbank i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 70 lle i 140 lle mewn adeilad newydd.
2. Nodi y daw swyddogion ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn ceisio awdurdod i fynd ati i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i’r cynnig yn amodol ar gytuno i nodi’r dyddiad diwygiedig ar gyfer ei roi ar waith
2. bod dyddiad diwygiedig rhoi’r cynnig ar waith i ymestyn ystod oed Ysgol Arbennig Greenhill o 11-16 – 11-19 yn cael ei gytuno a’r capasiti yn cael ei gynyddu o 01 Medi 2019
|
|||||||||||||
Millenium Stadium Plc - Newidiadau i Drefniadau Ariannol ac Erthyglau Cymdeithasu PDF 144 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad A yr adroddiad hwn wedi ei eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â Deddf llywodraeth Leol 1972, Atodlen 12a Rhan 4 Paragraff 14
PENDERFYNWYD: cymeradwyo rhoi caniatâd ar ran y Cyngor, fel y Deilydd Cyfrannau Arbennig ar Millennium Stadiumplc (fel sy’n ofynnol yn ôl Erthyglau’r cwmni 4.3 (a), (l), (m) a (q), ar gyfer y newidiadau arfaethedig yn Erthyglau Cymdeithasu’r cwmni a threfniadau ariannol cysylltiedig.Mae hyn yn cynnwys caniatâd i Millennium Stadium plc i fod â’r gallu i gynyddu ei ddyled hyd at drothwy diwygiedig ac i'r cwmni fynd i warant a/neu ddyledeb yn y dyfodol, yn amodol ar gymeradwyaeth gan fwrdd y cwmni. |
|||||||||||||
Cofrestr Risgiau Corfforaethol - Chwarter 2 2018/19 PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi cynnwys y Cofrestr Risg Corfforaethol |
|||||||||||||
Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor PDF 161 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) cymeradwyo cyfrifiad sail dreth y Cyngor ar gyfer blwyddyn 2019/20;
(2) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2019/20 fydd 145,499;
(3) yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau lleol (Cyfrifo Sail Dreth) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel Sail Dreth y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn yr ardaloedd cymuned sy’n destun praesept fydd fel a ganlyn;
y trefniadau ar gyfer talu praeseptau yn 2019/20 i Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i fod drwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod olaf pob mis o fis Ebrill 2019 hyd fis Mawrth 2020 a’r cynghorau Cymuned i fod drwy un taliad ar 1 Ebrill 2019, ac ar yr un sail a hwnnw a ddefnyddiwyd yn 2018/19 ac i’r awdurdodau praesepu gael eu hysbysu yn unol a hynny. |
|||||||||||||
Strategaeth Digartrefedd Caerdydd 2018-2022 PDF 183 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar Strategaeth Ddigartrefedd Caerdydd 2018-2022 fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad
2. cytuno ar y newid arfaethedig i Gynllun Dyrannu Tai Caerdydd fel y nodwyd ym mharagraff 21 yr adroddiad.
|
|||||||||||||
Caffaeliad Canolfan Iorwerth Jones, Trenchard Drive, Llanisien, CF14 5LJ PDF 138 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei eithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 121 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: cymeradwyo caffael Canolfan Iorwerth Jones, ar gyfer datblygu tai fforddiadwy ar bris y farchnad o dan y Protocol Trosglwyddo Tir yn amodol ar archwiliadau safle boddhaol. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nid yw Atodiadau 2, 3 a 5 yr adroddiad hwn i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei eithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 121 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: cytuno ar brynu Canolfan Ailgylchu Gwastraff BIFFA i ddibenion buddsoddi a gwaredu prydles hir ar 3-4 Heol y Cawl |