Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018 PDF 96 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cytuno ar yr ymateb i adroddiad Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, o'r enw 'Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir'.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r polisi plastig untro drafft a’r cynllun gweithredu cysylltiedig ar gyfer ymgynghoriad ag Aelodau a nodi y caiff polisi terfynol ei gyflwyno i’r Cabinet ei gymeradwyo ar ôl yr ymgynghoriad.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2017-18 y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir PDF 156 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar gyfer 2017-18 |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chyhoeddir Atodiad A yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 Rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1) Nodi cynnwys yr adroddiad
2) Awdurdodi swyddogion i ddwyn Lot 1 yr ymarfer caffael i ben.
3) Yn unol â Fframwaith Cyllideb y Cyngor, rhwymo gwariant o hyd at £500,000 mewn perthynas â’r blynyddoedd a ddaw er mwyn cynorthwyo’r dull caffael ar gyfer y fflyd cerbydau trymion â threfniadau cynnal a chadw a gwasanaethu mewnol.
4) Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth ac Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu ac Amgylchedd, Adran 151 y Cyngor a’r Swyddogion Monitro i:- 5) a) gymeradwyo cychwyn y broses gaffael a chyflwyno dogfennaeth; b) cynnal trefniadau fframwaith dros dro; a c) ymdrin yn gyffredinol â holl agweddau’r broses gaffael a’r materion cysylltiedig hyd at ac yn cynnwys dyfarnu’r contract.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cytuno ar yr ymateb i adroddiad Pwyllgor CraffuAdolygu Polisi a Pherfformiad fel y nodir yn Atodiad 1.
|
|
Cynigion Cyllideb 2019-20 i Ymgynghori Arnynt PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
(1) Nodi’r Gofyniad diweddaraf am Ostwng y Gyllideb gan £35.2 miliwn yn 2019/20;
(2) cytuno ar y cynigion arbedion y gyllideb fel y nodir yn Atodiad 2 fel Cynigion Arbedion Cyllidebol y Cabinet ar gyfer Ymgynghoriad;
(3) Nodi y bydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb yn cychwyn ar 16 Tachwedd 2018 ac yn parhau tan 2 Ionawr 2019. Yna, bydd y Cabinet yn ystyried canlyniadau’r broses ymgynghori hon fel rhan o'i gynnig ar gyfer cyllideb 2019/20.
(4) Nodi y bydd y Prif Weithredwr fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, yn cyflwyno’r holl ymgynghoriadau cyflogaeth statudol ac anstatudol angenrheidiol mewn cysylltiad â goblygiadau staffio'r cynigion.
|
|
Premiymau a Gostyngiadau Eiddo gwag y Dreth Gyngor PDF 213 KB Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
(1) Nodi’r ffaith bod eiddo sy’n wag yn hirdymor yn effeithio’n negyddol ar gymunedau;
(2) Argymell bod y Cyngor yn atal y gostyngiad cyfredol gan 50% sydd ar Dreth Gyngor anheddau heb breswylwyr a heb ddodrefn o 31 Mawrth 2019. Golyga hyn na fydd gostyngiad ar gyfer yr anheddau hyn o 1 Ebrill 2019.
(3) Cynnal ymarferiad ymgynghori ar osod premiwm treth gyngor ar gyfer anheddau sy’n wag yn hirdymor.
(4) ystyried canlyniadau’r ymarfer ymgynghori mewn cyfarfod y Cabinet yn y dyfodol er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol yn y Cyngor yn gynnar yn 2019.
|
|
Monitro Cyllideb - Adroddiad Mis 6 PDF 338 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi sefyllfa bosibl yr alldro ar sail chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol, ac atgyfnerthu'r gofyniad ar bob cyfarwyddiaeth sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwariant fel y nodir yn yr adroddiad hwn i osod cynlluniau gweithredu er mwyn gostwng y gorwariant a ragfynegir.
|
|
Adroddiad Perfformiad Chwarter 2, 2018-19 PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, gweithredu ymrwymiadau allweddol a blaenoriaethau yn Chwarter 2 a’r camau gweithredu a gymerir i sicrhau y gweithredir yr Uchelgais Prifddinas yn effeithiol. |
|
Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2018/19 PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chaiff Atodlenni B a C Atodiad 1 yr adroddiad hwn eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir fel y disgrifir ym Mharagraffau 14 ac 21 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: argymell bod y Cyngor yn nodi Adroddiad Rheoli’r Trysorlys Canol y Flwyddyn 2018-19 (Atodiad 1).
|
|
Prynu Tir ym Mharc Britannia, Rhodfa'r Harbwr, Bae Caerdydd, Caerdydd PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chaiff Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir fel y disgrifir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 21 rhan 5 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cytuno ar brynu safle Parc Britannia ar y telerau a nodir yn Atodiad Cyfrinachol 2.
2. dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd i waredu ar y safle y mae ei ffiniau mewn llinell werdd doredig yn Atodiad Cyfrinachol 3 yn dibynnu ar brisiad annibynnol. |
|
Arena Dan Do - Camau Nesaf PDF 179 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chaiff Atodiadau 1-6 yr adroddiad hwn eu cyhoeddi oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir fel y disgrifir ym mharagraffau 14 a 21 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. nodi cynnydd wrth sicrhau lleoliad dewis y Cyngor ar gyfer gweithredu’r project Arena Dan Do newydd.
2. Cytuno y caiff costau diwydrwydd dyladwy’r Cyngor eu talu a derbyn y costau cyn datblygu yr aiff y Datblygwr a'r Tirfeddiannwr iddynt fel yr amcanir yn Atodiad Cyfrinachol 4 yn unol â’r cap ariannol a nodir hefyd yn Atodiad Cyfrinachol 4.
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Swyddog Adran 51 i drin pob agwedd ar gaffael cynghorwyr annibynnol fel y nodir yn Atodiad Cyfrinachol 4.
4. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, yr Aelod Cabinet dros Foderneiddio Cyllid a Pherfformiad a’r Swyddog Adran 151 i archwilio’r dull ariannol gorau o weithredu’r project a chyflwyno manylion yn ôl i'r Cabinet fel rhan o achos busnes yr arena a’r strategaeth darparu ym mis Mawrth 2019.
|
|
Sicrhau Dyfodol Adeiladau Treftadaeth Caerdydd PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni fydd Atodiadau 1-3 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
(1) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r swyddogion perthnasol i archwilio’r amryw ddulliau sydd yn yr adroddiad hwn a'u cyflyno yng nghyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau terfynol ar bob cyfle.
(2) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r swyddogion perthnasol i sicrhau tenant ar gyfer yr Eglwys Norwyaidd, yn dibynnu ar ddatrys yn briodol unrhyw faterion sy'n berthnasol i statws bresennol yr Ymddiriedolaeth.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Eithrir Atodiad B yr adroddiad hwn rhag cyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth fel y disgrifir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Rhestr 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer clampio a symud cerbydau sy’n peri niwsans oherwydd parcio anghyfreithlon neu gerbydau heb dreth (atodiad 1)
2. bod y Cyngor yn derbyn y grymoedd a ddatganolwyd ar Reoliadau Treth Car (Atal, Symud a Gwaredu Cerbydau) 1997.
3. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Strydlun i arwyddo’r llythyr cytundeb rhwng DVLA a Chyngor Caerdydd (Partner Pwerau a Ddatganolwyd).
|
|
Ansawdd Aer - Cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru PDF 2 MB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. nodi Adroddiad yr Astudiaeth Dichonoldeb Aer Glân a gynhyrchodd y Cyngor, sy’n bodloni’r gofynion adrodd ar gyfer Cynllun Cyntaf a nodir yn y cyfarwyddyd cyfreithiol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.
2. nodi datblygiad Adroddiad Dros Dro yn asesu rhestr fer mesurau i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
|
|
Polisi Enwi Strydoedd PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) ymgynghori ar y polisi enwi strydoedd drafft 2) yn dibynnu ar y canlyniad, dod ag adroddiad yn ôl i'r Cabinet i gymeradwyo'r polisi. |
|
Cadarnhau Erthygl 4(2) Cyfeiriadau yn Llandaf a Ffordd Caerdydd. PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cadarnhau Cyfarwyddyd ychwanegol Erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth Llandaf a Chyfarwyddyd ychwanegol Erthygl 4(2) Ffordd Caerdydd ar gyfer Ardal Gadwraeth Llandaf a Ffordd Caerdydd yn y drefn hon i ddiddymu hawliau datblygiad a ganiateiri anheddau tai sengl dan Ddosbarth B Rhan 31 Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiadau Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y’i diwygiwyd) i ddymchwel, yn llawn neu’n rhannol, gât, ffens neu wal neu ddull amgau arall o fewn talar t? annedd sy’n wynebu lleoliad perthnasol. |