Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion Cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf a 12 Gorffennaf 2018 PDF 155 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd
|
|
Derbyn adroddiad Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd, "Gwella Ansawdd Aer Caerdydd" PDF 9 MB Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Bod adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddolo’r enw ‘Gwella Ansawdd Aer Caerdydd’ yn cael ei dderbyn a bod ymateb yn cael ei roi erbyn Rhagfyr 2018
|
|
Ymateb y Cabinet i Adroddiad Craffu'r Amgylchedd a Diwylliant, 'Ariannu Parciau' PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: cytuno ar yr ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Craffu Diwylliant a’r Economi o’r enw ‘Ariannu Parciau’ fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad
|
|
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, sut mae cyflawni prif ymrwymiadau a blaenoriaethau fel yn Chwarter 1, a'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod yr Uchelgais Prifddinasyn cael ei gyflawni’n effeithiol
|
|
Monitro Cyllideb Mis 3 PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: nodi'r
1. sefyllfa alldro bosibl ar sail pedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol
2. Nodi’r dyraniadau o’r Cyllidebau Wrth Gefn Penodol i’r Cyfarwyddiaethau Pobl a Chymunedau – Cymunedau a Thai a Gwasanaethau Cymdeithasol ac i’r Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd fel y nodir yn yr adroddiad hwn
3. atgyfnerthu’r gofyniad ar yr holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad hwn, i roi camau gweithredu ar waith i ostwng y gorwario a ragfynegir.
|
|
Ardrethi Annomestig Cenedlaethol - Dileu Dyledion PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni fydd Atodiadau A a B yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi yn rhinwedd Paragraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD: awdurdodi dileu dyledion sy’n dod i £120,586.48
|
|
Tendr am bolisïau Yswiriant y Cyngor, gan gynnwys trin hawliadau o 1 Ebrill 2019 PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 1 a 2 yr adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â darpariaethau Paragraff 12A Rhan 4 Paragraff 14 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD: 1. awdurdodi dechrau’r tendr yswiriant a chytundebau trin hawliau am 5 mlynedd, neu 3 blynedd gydag opsiwn i ymestyn am 2 flynedd arall fel y nodir yn yr adroddiad
2. cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso lefel uchel wedi’u nodi yn yr adroddiad
3. bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i benderfynu ar bob agwedd ar y broses gaffael a delio â nhw yn gyffredinol (gan gynnwys ac nid yn gyfyngedig i’r dadansoddiad o’r meini prawf gwerthuso a chyhoeddi dogfennaeth) a materion ategol hyd at a chan gynnwys gwobrwyo’r contract i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad.
|
|
Darpariaeth Gofal Cartref yng Nghaerdydd PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1) awdurdodi swyddog i beidio â gweithredu cynnwys Adroddiad y Cabinet a gymeradwywyd yn Ionawr 2018;
2) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant, i ddelio gyda threfniadau dros dro ar gyfer comisiynu gofal cartref i oedolion tan fis Tachwedd 2020 a’r holl faterion cysylltiedig gan gynnwys technoleg ategol sydd ei angen i danseilio’r APL, os ymestynnir, a’r prosesau sydd eu hangen i dalu darparwyr gofal cartref, nyrsio a phreswyl am y gwasanaethau y maent yn eu darparu;
3) y caiff adroddiad pellach ei gyflwyno i’r Cabinet yn ceisio cymeradwyaeth am y model arfaethedig ar gyfer comisiynu gofal cartref y cynigir y bydd yn dod i rym o fis Tachwedd 2020 |
|
Rhestrau Cynigion Seilwaith Lleol Adran 106 PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERYNWYD: awdurdodi’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd i weithredu’r Rhestrau Ward Asiantaeth Gwella a DatblyguSeilwaith Lleol Adran 106 a phrosesau cysylltiedig, fel y nodir yn yr adroddiad hwn.
|
|
Ail Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERYNWYD: cymeradwyo’r Ail Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2018.
|