English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Darparu Gwasanaethau Seibiant Byr Caerdydd yn Nhŷ Ty Storrie pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   Cytuno mewn egwyddor ar drosglwyddiad arfaethedig y gwasanaethau Seibiant Byr i dîm mewnol y Cyngor, fel y nodwyd yng nghorff yr adroddiad, yn amodol ar ganlyniad ymgynghori pellach â rhanddeiliaid gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth; a

 

2.   Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Pobl a Chymunedau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant, i ddelio â’r holl faterion o bwys er mwyn gwireddu’r cynnig (gyhyd a bod y Gyfarwyddiaeth wedi ystyried canlyniad yr ymgynghori pellach y cyfeirir ato yn argymhelliad 1) gan gynnwys (heb gyfyngiad):-

 

 

(i) Cydgysylltu â’r darparwr presennol i gytuno ar ddyddiad cyfleus i bawb i ddwyn y trefniadau cytundebol presennol i ben ac i drosglwyddo darpariaeth y gwasanaeth Seibiant Byr i dîm mewnol y Cyngor;

(ii)   Mynd i’r afael â’r holl faterion cysylltiedig, gan gynnwys (heb gyfyngiad) gofrestru eiddo y T? Storrie a therfynu y trefniadau trwydded presennol.

2.

Polisi Peryglon Ffordd Galwedigaethol pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: fod y Polisi Risg Ffordd Galwedigaethol (atodiad 1 yr adroddiad) i’w awdurdodi a’r gweithredu i’w awdurdodi fel ei fod yn dechrau ar 1 Medi 2018.

3.

Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheolaeth Cŵn pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: fod

 

1.   Awdurdodi swyddogion i ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus 6-12 wythnos ar y cynnig i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i gyflwyno rheoliadau c?n mewn ardaloedd ar draws Caerdydd ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet.

 

2.   mae’r ymgynghoriad ar reoliadau c?n yn edrych yn benodol ar:

 

·      atal bawa c?n ym mhob man cyhoeddus sy’n eiddo a/neu yn cael ei gynnal gan y Cyngor,

·      eithrio c?n o bob man chwarae amgaeedig, caeau chwarae wedi eu marcio ac Ysgolion, sy’n eiddo i a/neu a gaiff eu cynnal gan Gyngor Caerdydd.

·      Gofyniad bod c?n yn cael eu cadw ar gynllyfan ym mhob Mynwent sy’n eiddo i a/neu yn cael ei chynnal gan Gyngor Caerdydd.

·      Gofyniad yn caniatáu swyddogion awdurdodedig i gyfarwyddo fod ci(c?n0 yn cael eu rhoi a’u cadw ar gynllyfan os oes angen,

·      gosod dirwy cosb benodedig ar gyfer torri’r gorchymyn ar yr uchafswm o £100 a ganiateir.

 

3.   Cymeradwyo diddymu’r is-ddeddfau presennol sy’n gysylltiedig a rheoli c?n yng Nghaerdydd (atodiad i’r adroddiad ).

 

4.

Rhaglen Band B Cyngor Caerdydd yr 21ain ganrif: Capasiti a Llywodraethu. pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   i nodi’r diweddariad yn yr adroddiad hwn ar faterion amserlennu a chyllido yn gysylltiedig a chyflawni cynlluniau Band B Caerdydd

 

2.   Cymeradwyo creu swydd Cyfarwyddwr Rhaglen – Trefniadaeth Ysgolion ar Tier 2, tymor penodedig o 3 blynedd yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Addysg, yn unol â strwythur cyflog y Cyngor ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol

 

3.   nodi y bydd Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yn  adolygu swyddi a strwythur y tîm trefniadaeth ysgolion er mwyn sicrhau y capasiti sydd ei angen fel a nodwyd yn yr adroddiad allanol a enwir yn Atodiad 1, o fewn y cyllid sydd eisoes wedi ei gytuno dan Raglen Band B Ysgolion y G21, Adnewyddu Asedau a’r CDLl.

 

5.

Cynllunio Trefrniadau Ysgolion - Darpariaeth Llefydd Ysgolion Cynradd cyfrwng Saesneg yn ardal Llanrhymni pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: fod

 

1.   awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar gynnig i ddod ag Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon i ben o 31 Awst 2019 gan gynnwys newid i ddalgylchoedd ysgol cynradd cymunedol yn yr ardal leol.

 

2.   Nodi y daw swyddogion ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn ceisio awdurdod i fynd ati i gyhoeddi cynigion yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

3.   Nodi y byddai unrhyw benderfyniad i ail-ddynodi capasiti Ysgol Gynradd Gatholig Sain Cadog ar gyfer llefydd addysg cynradd yn fater i’w ystyried gan Gorff llywodraethu’r ysgol gydag unrhyw gynnydd parhaol yn gofyn am ymgynghoriad yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion.

 

6.

Uchelgais Ddigidol Cyngor Caerdydd pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD: fod

 

1.     Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar agenda Ddigidol y Cyngor

 

2.   Cymeradwyo Strategaeth Ddigidol arfaethedig y Cyngor, fel a gynhwyswyd yn Atodiad 1 yr adroddiad

 

3.   Cymeradwyo fframwaith gyffredinol a llywodraethiant cyflawni’r Strategaeth Ddigidol fel y nodwyd yn yr adroddiad, a nodi bod datblygu cynlluniau gweithredu’n barhaus i ddigwydd er mwyn cefnogi rhoi agenda ddigidol y Cyngor ar waith

 

7.

Strategaeth ar y Gyllideb & y Tymor Canolig pdf eicon PDF 463 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1) y cytunir ar egwyddorion y gyllideb y mae'r Adroddiad ar Strategaeth y Gyllideb yn seiliedig arnynt, a’r ymagwedd dargedig i fodloni’r Gofyniad i Leihau’r Gyllideb yn 2019/20 ac ar draws cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

(2)  Tra’n cydnabod y cytunir ar yr amcanion a osodwyd yn Uchelgais Prifddinas.

(3) bod cyfarwyddiaethau’n gweithio gyda’r Aelod Cabinet Portffolio perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad er mwyn nodi arbedion posibl er mwyn cynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyllideb o £34 miliwn ar gyfer 2019/20 a £91 miliwn yn ystod cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

(4) Y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i’w dirprwyo â’r awdurdod er mwyn rhoi unrhyw gynnig ar gyfer arbediad ar waith cyn 2019/20 lle nad oes angen am argymhelliad polisi neu lle mae penderfyniad polisi eisoes wedi ei wneud.

 

(5) Y Cyngor i ddangos i Gyd-bwyllgorau a chyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau ar y Cyngor, lefel yr her ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, ac i hyn gael ei ystyried pan fyddont yn datblygu eu cynlluniau ariannol eu hunain ond gan barhau o fewn fframwaith yr amcanion a nodwyd yn Uchelgais Prifddinas.

 

(6)    dirprwyir awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i nodi gofyniad amgen i leihau'r gyllideb ar dderbyn eglurhad pellach o ran cyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

(7)     Dirprwyir yr awdurdod i Gyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad i ddiwygio’r Strategaeth Gyllideb, os na fydd y diwygiad hwn yn sylweddol wahanol i’r egwyddorion sylfaenol.   

(8)         Byddai unrhyw ofyniad i wyro yn sylweddol oddi wrth yr egwyddorion hyn yn gofyn am Adroddiad Strategaeth Gyllidebol i’r Cabinet. 

(9)          Y Cyngor i geisio datganiadau o ddiddordeb gan swyddogion mewn perthynas â'r cynllun dileu swyddi gwirfoddol erbyn 14 Medi 2018..

 

(10)       Argymell i’r Cyngor i gytuno i fabwysiadu y Fframwaith Amserlen Cyllidebol a osodir yn Atodlen 2 ac y caiff y gwaith a amlinellir ei symud ymlaen gyda'r nod o fwydo paratoadau ar gyfer y gyllideb.

 

(11)       y bydd proses dau gam mewn perthynas ag ymgynghoriad ar gynigion 2019/20.

 Bydd hyn yn dechrau gydag Arolwg Holi Caerdydd yn cynnwys adran ar themâu cyllidebol cyffredinol, wedi’u dilyn gan ymgynghoriad mwy manwl ar gynigion 2019/20 yn hwyrach yn yr Hydref, unwaith y bydd rhagor o eglurder ar y sefyllfa o ran sefyllfa cyllido 2019/20.

8.

Strategaeth a Pholisi Rheoli Risg & Sefyllfa Chwarter 4 2017/18 pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r Strategaeth a Pholisi Rheoli Risg a nodi cynnwys y Gofrestr Risg Corfforaethol

 

9.

Rheoli Ystâd Eiddo Amhreswyl y Cyngor - Croesawu Model Landlord Corfforaethol pdf eicon PDF 191 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: fod

 

1.   argymhellion Adroddiad Gr?p Gorchwyl a Gorffen Adolygu Polisi a Pherfformiad (PRAP) a Chraffu a atodir fel Atodiad F i’r adroddiad i gael ei dderbyn, ac eithrio Argymhelliad 6 a gaiff ei dderbyn yn rhannol fel yr eglurir yn yr adroddiad.

 

2.   bod argymhellion yr adolygiad annibynnol ar Ymrwymiadau Statudol a chydymffurfiaeth iechyd a diogelwch fel a nodwyd yn Atodiad 2 a 3 i’r adroddiad a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i fynd i’r afael â’r prif argymhellion, yn cael eu nodi

 

3.   cymeradwyo’r strategaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad er mwyn dechrau nodi’r gwarediadau a’r ildiadau er mwyn creu’r derbyniadau cyfalaf sydd eu hangen i ateb gofynion y Cynllun Ariannol Tymor Canolig

 

4.   Cytuno ar y cynigion a wneir yn yr adroddiad hwn i alluogi’r model Landlord Corfforaethol i gael ei roi ar waith yn llawn, gan gynnwys:

 

a)    Rholiadau mwy caeth dros yr holl wariant yn ymwneud ag adeiladau

 

b)    Cyflawni’r holl brojectau adeiladu newydd trwy ddwylo’r tîm Landlord Corfforaethol yn y Gyfarwyddiaeth Ddatblygu Economaidd.

 

c)    Gofyniad i Oblygiadau Eiddo gael eu cynnwys ym mhob Adroddiad Cabinet ac Adroddiadau Penderfyniadau Swyddogion lle ceir effaith ar dir ac adeiladau o eiddo’r Cyngor.

 

(5)       Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, i adolygu y trefniadau uwch reolwyr newydd yn y Gyfarwyddiaeth Ddatblygu Economaidd, gan gynnwys os oes angen ddileu swydd wag y Cyfarwyddwr Cynorthwyol. 

 

10.

Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor - Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 2017/18 pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol 2017/18 gan y Cyngor

11.

Ardaloedd Cadwraeth Llandaf a Heol Caerdydd: diddymu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer dymchwel yn rhannol y ffiniau blaen pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo ac awdurdodi cyflwyno Cyfarwyddiadau Erthygl 4(2) pellach ar Ardaloedd Cadwraeth Llandaf a Heol Caerdydd i dynnu hawliau datblygu a ganiateir sydd gan dai annedd unigol dan Ddosbarth B Rhan 31 Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad a ganiateir Cyffredinol) 1995 (fel y’i diwygiwyd) ar gyfer dymchwel y cyfan neu ran o giât, ffens, wal neu ddull arall o amgáu tir t? annedd yn wynebu ar i leoliad perthnasol

 

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.