English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 4 - Neuadd Y Sir. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mai 2018 pdf eicon PDF 126 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai 2018 yn cael eu cymeradwyo.

 

2.

Derbyn adroddiad y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad o'r teitl 'Rheoli'r Ystad o dan Fodel Landlord Corfforaethol' pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD: Bod adroddiad y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad o’r enw ‘Rheoli’r Ystâd dan Fodel Landlord Corfforaethol’ yn cael ei dderbyn a bod ymateb yn cael ei roi erbyn mis Hydref 2018

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Boyle, Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, y Pwyllgor Adolygu Polisi a Chraffu ar Berfformiad o’r enw ‘Rheoli’r Ystâd o dan Fodel Landlord Corfforaethol’. Roedd 11 o ganfyddiadau allweddol a 7 o argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: Bod adroddiad y Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Safonau'r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol 2017-18 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD: bod Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2017-18  (sef Atodlen A yr adroddiad) yn cael ei gymeradwyo i’w ystyried gan y Cyngor cyn cael ei gyhoeddi yn unol â Safonau’r Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011)  .

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet yr Adolygiad Blynyddol Safonau'r Iaith Cymraeg 2017-18 a roddodd wybodaeth fanwl sy’n perthyn i Gwynion, sgiliau Iaith Gymraeg Cyflogeion, yr Iaith Gymraeg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a Swyddi a hysbysebwyd – gofynion yr Iaith Gymraeg.Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ar Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog

 

PENDERFYNWYD:  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Caerdydd Dwyieithog - Cyngor Dwyieithog: Hyrwyddo a Defnyddio Cymraeg yn y Cyngor pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: bod y polisi ar hyrwyddo a defnyddio Cymraeg yn y Cyngor (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gymeradwyo yn unol â Safonau'r Gymraeg (Mesur y Gymraeg) (Cymru) 2011).

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet y polisi Caerdydd Ddwyieithog a ddisgrifiodd weledigaeth y Cyngor i greu sefydliad dwyieithog sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn esiampl dda i gyflogwyr eraill yn y ddinas.  Nod y polisi oedd datblygu defnydd ffurfiol a chymdeithasol ar Gymraeg ymhlith gweithlu'r Cyngor trwy gyfleoedd dysgu a chymdeithasol rheolaidd,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Fferm Solar Ffordd Lamby pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD: cymeradwyo’r Achos Busnes a’r Dyraniad Buddsoddi i Arbed a rhoi'r cynllun cyflawni ar waith

Cofnodion:

Ni fydd Atodiadau yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Derbyniodd y Cabinet yr achos busnes manwl ar gyfer fferm solar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad ar Dipio'n Anghyfreithlon pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   estyn pwerau’r Cyngor i gefnogi'r gwaith o Ddiwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a chymeradwyo Rheoliadau Gwaredu Gwastraff yn Anawdurdodedig (Cosbau Sefydlog) (Cymru) 2017.

2.   cymeradwyo’r penderfyniad i osod swm y HCB am dipio anghyfreithlon ar raddfa fach ar £400 heb gynllun talu cynn

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad sy’n amlinellu cynigion ar gyfer ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â thipio’n anghyfreithlon trwy fabwysiadu technolegau a phwerau deddfwriaethol newydd gan y Cabinet. Cynigwyd y defnyddid pwerau deddfwriaethol sy'n caniatáu i Awdurdodau osod tâl cosb sefydlog ar gyfer tipio’n anghyfreithlon. At hynny, amlinellodd yr adroddiad fanylion o fentrau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ail-Gaffael Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Adeiladau Ysgol ac Adeiladau Cyhoeddus (Sewscap3) De-ddwyrain Cymru pdf eicon PDF 502 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   cytuno ar ddechrau’r gwaith o ail-gaffael Fframwaith Adeiladu Cydweithrediadol (Sewscap3) Adeiladau Cyhoeddus ac Ysgolion, De-ddwyrain Cymru (fel y nodir yn yr adroddiad) a

2.   dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, i gyflawni’r holl agweddau ar gaffael , (gan gynnwys pennu’r fethodoleg werthuso, ac ychwanegu contractwyr llwyddiannus at y fframwaith) ac ar ôl hynny delio gyda gweithredu trefniadau’r fframwaith, gan gynnwys unrhyw faterion ategol sy’n gysylltiedig.

Cofnodion:

Adroddwyd bod y Fframwaith Adeiladu Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus De-ddwyrain Cymru (SEWSCAP2) ar fin dod i ben ar 31 Mawrth ac felly gofynnwyd am awdurdod i ail-gaffael y fframwaith er mwyn cael cerbyd caffael sy’n cydymffurfio ar gyfer Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru (Band B) yn dechrau o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Polisi Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: Bod y Polisi Twyll, Llwgrwobrwyaeth a Llygredd yn cael ei gytuno

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet y Polisi Twyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd a ddiweddarwyd a ddisgrifiodd sut y byddai’r Cyngor yn ymdrin â’i gyfrifoldebau mewn perthynas â thwyll, llwgrwobrwyo a llygredd, p’un ai a yw wedi’i geisio ar y Cyngor neu o’r tu fewn iddo. Symleiddiodd ac eglurodd fersiwn ddiwygiedig y polisi y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg 2018 - 2023 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo Strategaeth Ranbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Caerdydd a Bro Morgannwg 2018-2023 (fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad)

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Caerdydd a Bro Morgannwg 2018-2023.  Cydnabu’r strategaeth y gall unrhyw un (menywod, dynion, plant a phobl ifanc) gael profiad o drais yn erbyn menywod a thrais rhywiol a effeithir arnynt, a cheisiodd mynd i’r afael â thrais  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.