Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Ansawdd Aer - Cyfeiriad Llywodraeth Cymru PDF 292 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo’r dasg o ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru;
2. Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, mewn ymgynghoriad ag Aelodau’r Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd, a Chynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, er mwyn cychwyn y broses o gaffael ymgynghorydd arbenigol i ymgymryd â modelu manwl er mwyn cefnogi’r astudiaeth ddichonoldeb, gan gynnwys cyflwyno dogfennaeth; ac ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd ar y broses gaffael a materion ategol, hyd at a chan gynnwys dyfarnu contract;
3. Nodi’r cyhoeddiad o’r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân a’i gyfeirio at y Cyngor Llawn i’w drafod.
Cofnodion: Yn dilyn derbyn cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru o’r enw “Deddf yr Amgylchedd 1995 (astudiaeth o ddichonoldeb ar gyfer Cydymffurfiaeth Nitrogen Deuocsid), Cyfarwyddyd Ansawdd yr Awyr 2018", derbyniodd y Cabinet adroddiad a oedd yn nodi manylion y cyfarwyddyd a'i oblygiadau ar gyfer Caerdydd. Yn atodol i’r adroddiad, roedd Papur ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 98. |
|
Gorsaf Fysus Caerdydd Canolog PDF 150 KB Gwahardd y Cyhoedd
Mae atodiadau’r adroddiad wedi’u heithrio rhag cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio rhag y disgrifiad sydd ym mharagraff 4 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gellid gwahardd y cyhoedd wahardd rhag dod i’r cyfarfod drwy benderfyniad y ... Gweld testun yr Agenda llawn ar gyfer eitem 99. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Gorsaf Fysus Caerdydd Canolog
Mae atodiadau 1, 3, 4 a 5 i’r adroddiad hwn wedi eu heithrio rhag cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r fath a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 14 a 21 o rannau 4 a 5 Atodiad 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
(1) Cymeradwyo, mewn egwyddor, cytundeb cydweithio Partneriaeth Darparu Metro fel y nodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 1 a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro er mwyn trafod a dirwyn i ben yr holl agweddau ar y cytundeb terfynol â Llywodraeth Cymru a’r datblygwr ar gyfer darparu’r Orsaf Fysus Ganolog newydd.
(2) Cymeradwyo’r broses o ddirwyn y diddordeb lesddeiliad i ben yn y darn o dir a farciwyd yn goch a phrynu’r darn o dir a farciwyd yn las ar y cynllun safle yn Atodiad 2 er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu'r Orsaf Fysus Ganolog newydd yn ôl y telerau a nodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 1 ac yn unol â’r prisiad annibynnol a roddwyd yn Atodiad Cyfrinachol 4. Cofnodion: Ni fydd Atodiadau 1, 3, 4, a 5 yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio yn y disgrifiad a geir ym mharagraffau 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r penderfyniad wedi ei ardystio gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 99. |