Lleoliad: Neuadd y Sir
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2018 PDF 53 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd
Cofnodion: PENDERFYNWYD: bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2018yn cael eu cymeradwyo.
|
|
Adroddiad y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol o'r enw 'Ariannu Parciau' PDF 3 MB Penderfyniad: PENDERFYNWYD: bod adroddiad y Pwyllgor Craffu Diwylliant a’r Economi o’r enw ‘Ariannu Parciau’ yn cael ei dderbyn a bod ymateb yn cael ei roi erbyn mis Medi 2018.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Nigel Howells, Cadeirydd Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant, adroddiad o’r enw ‘Ariannu Parciau’ a oedd yn cynnwys 13 o argymhellion i’r Cabinet eu hystyried.
PENDERFYNWYD: bod Adroddiad Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant ‘Ariannu Parciau’ yn cael ei dderbyn ac ymateb yn cael ei ddarparu erbyn mis Medi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 107. |
|
Cynllun Corfforaethol 2018-2021 PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2018-21 i’w ystyried gan y Cyngor ar 24 Mai 2018; ac 2. argymell bod y Cyngor yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gynllun Corfforaethol 2018-21 yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 22 Mai 2018 a chyn ei gyhoeddi. Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet y Cynllun Corfforaethol 2018-2021 i’w ail ystyried yn dilyn penderfyniad y Cyngor i beidio â’i gymeradwyo yn eu cyfarfod ym mis Ebrill. Nodwyd bod y cynllun yn cynnwys sawl cyfeiriad at fynd i’r afael ag anghyfartaledd yn ei holl weddau, gan gynnwys anghyfartaledd iechyd. Yn dilyn dadl ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 108. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Fel y nodwyd yn Strategaeth Rheoli Gwastraff Ailgylchu 2015-18,
a. cymeradwyo’r cynnig i ehangu ymhellach y darpariaeth biniau olwynion fel y nodir yn Atodiad A2 i'r adroddiad
b. cymeradwyo’r cynnig i greu gorsafoedd addysg Canolfan Ailgylchu Gwastraff Y Cartref (CAGC); a
c. cymeradwyo cynllun peilot ar gyfer casglu gwastraff gwydr domestig, ar wahân i gasgliadau gwastraff eraill y cartref
2. cymeradwyo cynnal ymgynghoriad dinas gyfan ar Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-21, gan gynnwys y prif gynigion ar gyfer newidiadau i'r strategaeth ddrafft, gofynion seilwaith newydd, safonau gwasanaeth a chynigion eraill a godwyd yn yr adroddiad
3. Cymeradwyo gwneud adolygiad gwastraff ac ailgylchu annibynnol a fydd yn cynorthwyo gyda sicrhau bod holl agweddau ar y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu drafft yn flaengar ac yn gadarn
4. cytuno i archwilio cydweithredu rhanbarthol, law yn llaw â Llywodraeth Cymru, ar ddatblygu achos busnes amlinellol cychwynnol a dewisiadau gwerthuso ar gyfer y cynnig i ddatblygu cyfleuster ailgylchu rhanbarthol.
5. derbyn adroddiad pellach yn dilyn ymgynghoriad ac erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19 a fydd yn ystyried y posibilrwydd o weithredu casgliadau gwastraff gwydr ar wahân yn ehangach a fersiwn derfynol o Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu 2018-21 i’w chymeradwyo.
Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu drafft er mwyn ymgynghori arno. Amlinellodd yr adroddiad hefyd gynigion i ehangu’r ddarpariaeth ymhellach yn y ddinas ar gyfer biniau ag olwynion, darparu gorsafoedd addysg canolfan ailgylchu gwastraff y cartref a chynllun peilot i gasglu gwastraff gwydr domestig ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 109. |
|
Adeiladu Cymunedau Gwydn drwy ddatblygu Hybiau Cymunedol ymhellach PDF 180 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r dull o ddatblygu Hybiau Llesiant Cymunedol yng ngogledd a gorllewin y ddinas a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Pobl a Chymunedau i fynd â hyn yn ei flaen mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau. Bydd unrhyw gynigion sy'n cynnwys newid sylweddol i adeiladau cyfredol yn amodol ar adroddiad cabinet ar wahân.
2. cytuno i’r cynigion ar gyfer dull newydd o ymgysylltu â’r gymuned trwy gyflwyno Swyddogion Cynhwysiant Cymunedol sy’n aros yn yr Hyb
3. cytuno i raglen grant ar gyfer Iechyd a Llesiant a Chlybiau Gwaith Cartref fel y nodir yn yr adroddiad
4. cytuno i gynigion i wella gwasanaethau a gwella cydweithio yn Hyb y Llyfrgell Ganolog
5. cymeradwyo gwaith i ddatblygu gwasanaetha llyfrgell ymhellach gan adeiladu ar arfer gorau i gyflwyno gwasanaethau llyfrgell o safon a digwyddiadau ledled y ddinas.
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu cynigion ar gyfer datblygu hybiau ymhellach er mwyn helpu i adeiladu cymunedau gwydn. Cynigiwyd datblygu hybiau llesiant cymunedol yng ngogledd a gorllewin y ddinas a fyddai’n cynnig ystod eang o wasanaethau byw yn annibynnol, yn cynnwys sefydliadau partner a grwpiau cymunedol lleol a gwirfoddolwyr. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 110. |
|
Gwaredu Tir yn Wedal Road PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ni chyhoeddir Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo cynnwys yr adroddiad fel sylfaen ymateb y Cabinet i benderfyniad y Pwyllgor Craffu PRAP i gyfeirio’n ôl Benderfyniad Swyddogion at y Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd.
2. Awdurdodi gwaredu tir y Cyngor yn Heol Wedal sydd wedi’i ddangos gyda llinell goch ar y cynllun safle yn Atodiad 1 yr adroddiad trwy gyfrwng trafodiad oddi ar y farchnad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar y telerau wedi’u nodi yn Atodiad 3 sy’n gyfrinachol ac ar sail y gwerth marchnad wedi’i bennu gan adroddiad y gwerthwr annibynnol sydd wedi’i atodi at Atodiad 2 sy’n gyfrinachol
Cofnodion: Ni chyhoeddir Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu manylion penderfyniad y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 111. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 2 wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERYNWYD: cymeradwyo'r amrywiad i gontractau cyfredol ar gyfer darparu Gwasanaethau Byw â Chymorth i oedolion sydd ag anabledd dysgu trwy (i) ymestyn y contract gan 8 mis o 1 Awst 2018 a (ii) yn amodol ar gadarnhau cyllid, ymestyniad o 7 mis pellach hyd at 31 Hydref 2019.
Cofnodion: Mae Atodiad 2 wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
Ystyriodd y Cabinet gynigion i ehangu trefniadau contractaidd Gofal Personol yn y Cartref a Chymorth Cartref ar gyfer cynnig Gwasanaethau Byw â Chymorth i Oedolion ag Anabledd Dysgu.
PENDERYNWYD: ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 112. |