Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Cabinet - Dydd Iau, 19eg Ebrill, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

100.

Cofnodion y cyfarfod cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mawrth & 28 Mawrth 2018 pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: bod cofnodion y cyfarfodydd Cabinet a gynhaliwyd ar 15 a 28 Mawrth yn cael eu cymeradwyo.

 

101.

Rhwydwaith Gwres Caerdydd: Cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd pdf eicon PDF 912 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae atodiadau C a D i’r adroddiad hwn wedi’u heithrio rhag cael eu datgelu gan fod ynddynt wybodaeth i gydymffurfio â pharagraffau 14, 21 a pharagraff 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   cymeradwyo mewn egwyddor Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd ac y dylid awdurdodi datblygiad Achos Busnes Terfynol gael ei gyflwyno i’r Cabinet yn amodol ar sicrhau'r cyllid priodol fel y'i nodir yn yr adroddiad.

 

2.   awdurdodi’r tîm project i fwrw ymlaen â’r ceisiadau grant mewn perthynas â HNDU a HNIP fel y’i nodir yn yr adroddiad;

 

3.   y dylid awdurdodi’r tîm project i fwrw ymlaen ag ymgysylltiad pellach gyda rhanddeiliaid fel y’i nodir yn yr adroddiad;

 

4.   dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd a’r Swyddog A151 a’r Swyddog Monitro i (i) orffen y strategaeth gaffael a bwrw ymlaen â’r gwaith o gaffael contractwr Dylunio, Adeiladu, Gweithredu a Chynnal (DAGCh) y project, a delio’n gyffredinol â phob agwedd ar y project a phennu'r contract DAGCh ar ôl i'r Cabinet gymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol a (ii) Cytuno ar fân ddiwygiadau i'r OBC gyda'r Cyfarwyddwr mewn ymgynghoriad â’r rheiny a nodir uchod er budd y Cyngor ac os yw natur y project yn wahanol iawn, cyfeirio'r project yn ôl at y Cabinet

 

 

Cofnodion:

Eithrir atodiadau C a D rhag cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth yn unol â pharagraffau 14 a 21 a pharagraff 16 atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys canlyniad astudiaeth o ddichonoldeb manwl ac Achos Busnes Amlinellol ar Rwydweithiau Gwres Rhanbarth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 101.

102.

Trafnidiaeth Allyriadau Isel: Strategaeth ar gyfer Tanwyddau Trafnidiaeth Glanach, Gwyrddach pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo strategaeth a chamau arfaethedig y Cyngor ar gyfer cyflawni pontio i drafnidiaeth allyriadau isel yn y Ddinas

 

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yn cynnwys Strategaeth y Cyngor ar gyfer pontio i drafnidiaeth allyriadau isel yng Nghaerdydd. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau a dyheadau’r Cyngor o ran delio gyda materion ansawdd awyr trwy gefnogi pontio i fwrdd o danwyddau ffosiledig ar gyfer trafnidiaeth. Nodwyd bod dyddiadau targed a manylion am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 102.

103.

Cynigion Trefniadaeth Ysgolion: Gwella'r Ddarpariaeth i Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2018-22: Adroddiad wedi ymgynghori pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.       y dylid cyflwyno hysbysiadau statudol ar gyfer y cynlluniau canlynol:

 

a) Ehangu capasiti T? Gwyn i gynnig hyd at 198 o leoedd.

 

     Addasu rhan o adeilad Canolfan Ieuenctid Trelái i gynnig tair ystafell ddosbarth newydd ar gyfer Ysgol Ty Gwyn ac i gysylltu adeiladau’r ysgol a’r ganolfan ieuenctid.

 

b) Ymestyn ystod oedran Greenhill o 11-16 i 11-19 a chynyddu capasiti’r ysgol i fod â lle ar gyfer 64 o leoedd.  

 

     Addasu t?’r gofalwr ar y safle i gynnig llety.

 

c) Newid math yr angen addysgol arbennig yn Ysgol Meadowbank o: ‘anghenion iaith llafaredd a chyfathrebu’, a: ‘anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac anableddau dysgu cymhleth’  

 

     Addasu’r adeilad i wella hygyrchedd anabledd.

 

d) Cau’n raddol y CAA yn Ysgol Allensbank, gan gau’r dosbarth yn gyfan gwbl ym mis Gorffennaf 2020, neu pan fydd yr holl ddisgyblion presennol wedi cwblhau’r lleoliad cynradd os yw’n gynt na hynny.  

 

     Agor dosbarth ymyrraeth gynnar ag 8 lle i blant ag anghenion iaith a lleferydd yn Ysgol Allensbank, gan dderbyn y cohort cyntaf ym mis Medi 2019.  

 

e) Yn amodol ar benderfyniad Corff Llywodraethu Ysgol y Santes Fair, i fwrw ymlaen â'r hysbysiad statudol: cymeradwyo cynnwys llety CAA yng nghynllun Band B ar gyfer adeilad newydd yn Ysgol y Santes Fair.

 

f) Agor canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Pwll Coch, gan gynnig hyd at 10 o leoedd i ddechrau, ond gyda sgôp i ehangu i 20 o leoedd yn y dyfodol, wrth i’r galw gynyddu.  

 

g) Ehangu nifer y lleoedd yn CAA Ysgol Glantaf i 30 o leoedd.

 

     Addasu a gwella’r llety i fod yn addas ar gyfer y niferoedd cynyddol.

 

2.   Nodir cyn gweithredu’r cynigion bydd angen cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet yn nodi manylion unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir, yr ymatebion arfaethedig i'r gwrthwynebiadau hynny ac argymhellion ar gyfer gweithredu neu beidio â gweithredu’r cynigion hynny.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet fanylion am yr ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn ymgynghoriad ar wyth cynnig ar gyfer gwella neu addasu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled Caerdydd. Adroddwyd y derbyniwyd 611 o ymatebion ac roedd y rhain yn yr adroddiad ynghyd â dadansoddiad o'r pwyntiau wedi'u gwneud. Roedd y rhan o’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 103.

104.

Cynnig Gofal Plant 30 Awr Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 299 KB

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Cymeradwyo Caerdydd fel Awdurdod Lleol Gweithredwr Cynnar ar gyfer y cynnig gofal plant 30 awr.

 

2.   cymeradwyo’r rhesymeg a nodir ym mharagraffau 17-24 o’r adroddiad fel y dull cytunedig i adnabod y wardiau fydd yn cael y cynnig, wrth i gyllid ddod ar gael;

dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Addysg i weithredu cynnig y rhesymeg a nodir ym mharagraffau 17-24 o’r adroddiad

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu cynnig gofal plant 30 awr Llywodraeth Cymru ar gyfer plant 3 a 4 oed. Cynigiwyd bod Caerdydd yn dod yr Awdurdod Lleol cyntaf i weithredu’r cynnig yn gynnar ac amlinellodd yr adroddiad fanylion dull arfaethedig a rhesymeg dros flaenoriaeth wardiau o ran rhoi’r cynnig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 104.

105.

Canllawiau Cynllunio Atodol pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

argymell i’r Cyngor y dylid cymeradwyo’r CCA Archaeoleg ac Ardaloedd sy’n Sensitif yn Archeolegol a Rheoli Effeithiau Trafnidiaeth (Gan Gynnwys Safonau Parcio), sydd wedi'i atodi i'r adroddiad hwn.

Cofnodion:

Adroddiad yn cynnwys canlyniad ymgynghoriad ar y Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) drafft ar Archeoleg ac Ardaloedd sy’n Archeolegol Sensitif ac Effeithiau Rheoli Trafnidiaeth (gan ymgorffori Safonau Parcio).  Adroddwyd bod y rhan fwyaf o’r sylwadau a dderbyniwyd yn rhai fân ac o natur technegol ac roedd mân ddiwygiadau wedi'u gwneud i’r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 105.