English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

85.

Cofnodion y cyfarfod cabinet a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2018 pdf eicon PDF 164 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror.

 

86.

Cynllun Corfforaethol 2018-2021 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.  cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2018-21 i’w ystyried gan y Cyngor ar 22 Mawrth 2018; a

 

y argymhellir y Cyngor i ddirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i wneud unrhyw newidiadau canlyniadol i Gynllun Corfforaethol 2018-21 yn dilyn ystyriaeth gan y Cyngor ar 22 Mawrth 2018 a chyn ei gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2018.

Cofnodion:

Trafododd y Cabinet y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2018-21. Mae’r Cynllun Corfforaethol yn rhan o fframwaith polisi strategol ac yn cyflawni dyletswyddau’r Cyngor dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Strwythurwyd y cynllun yn seiliedig ar bedair blaenoriaeth Uchelgais Prifddinas: Gweithio dros Gaerdydd, Gweithio dros Gymru, Gweithio dros y Dyfodol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 86.

87.

Cynllun Llesiant Lleol Caerdydd pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: y caiff y Cynllun Lles ei gymeradwyo i’w ystyried gan y Cyngor ar 22 Mawrth 2018

Cofnodion:

Bu i’r Cabinet ystyried cynllun Lles Lleol Caerdydd cyn i’r Cyngor ei ystyried.  Mae’r cynllun Lles yn nodi blaenoriaethau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd dros y 5 mlynedd nesaf ac wedi hynny. Roedd y cynllun yn cynnwys Amcanion Lles, y blaenoriaethau lefel uchel y mae’r BGC wedi nodi sydd bwysicaf.

 

 

PENDERFYNWYD:  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 87.

88.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd pdf eicon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: yr argymhellir Cynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i’r Cyngor ei gymeradwyo yn y ffurf a atodir fel Atodiad B i’r adroddiad.

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Gynllun Busnes Cytundeb Gweithio ar y Cyd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Mae’r Cynllun Busnes yn galluogi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddefnyddio’r £445 miliwn sydd ar ôl yn y Gronfa Fuddsoddi Ehangach.  Mae’n cynnwys ymrwymiad mewn egwyddor i bennu £40 miliwn ar gyfer moderneiddio ac ailddatblygu Gorsaf Caerdydd Canolog,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 88.

89.

Man Claddu Newydd pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.  cefnogi cyflwyno cais cynllunio i geisio’r caniatâd angenrheidiol ar gyfer datblygu safle ar yr A469 i’r gogledd o’r M4 ac wedi’i nodi ar y map atodedig fel Atodiad 1 fel mynwent drefol.

 

2.  y bydd swyddogion yn ceisio negodi ildio’r cytundeb tenantiaeth cyfredol gan y llesddeiliaid er mwyn cymryd y tir angenrheidiol yn ôl ar ddyddiad cynt ac ar ôl hynny gyhoeddi hysbysiad terfynu o ran y denantiaeth.

 

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn manylu’r cynigion i ddatblygu ardal o dir y Cyngor tua’r gogledd o’r M4, ar yr A469 ar gyfer creu mynwent, yn dibynnu ar ganiatâd cynllunio. Mae’r safle yn 12.5 erw a bydd yn cynnig man claddu ar gyfer gogledd y ddinas am y 35—40 blynedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 89.

90.

Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol pdf eicon PDF 2 MB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.          caffael dylunio ac adeiladu manwl yr amddiffyniadau arfordirol gwerth £11m.

2.            Darparu cyllid ar raniad 75% gan Lywodraeth Cymru a 25% gan Gyngor Caerdydd.

3.          ymrwymo’r cyllid angenrheidiol o 25% i ddarparu’r amddiffyniadau arfordirol yn unol â Rhaglen Reoli Risgiau Arfordirol.

4.          ailasesu’r cynllun yn dilyn cwblhau’r dyluniad manwl i gadarnhau goblygiadau ariannol adeiladu a dichonoldeb.

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar Amddiffynfeydd Arfordir Caerdydd a Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru.  Mae Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle unigryw i awdurdodau lleol weithredu projectau ar gyfer cymunedau arfordirol, a Llywodraeth Cymru’n ariannu 75% o’r costau project.

 

Bu Cyngor Caerdydd yn llwyddiannus wrth sicrhau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 90.

91.

Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2019/20 pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.       y dylid pennu Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 fel y nodir ym  Mholisi Derbyniadau 2019/2020.

 

2.       y nodir bod y Trefniadau ar gyfer Derbyniadau Ysgol 2019/2020 yn gweithredu Opsiwn A ar gyfer derbyn i addysg uwchradd, fel y nodir yn y Ddogfen Ymgynghori ar Drefniadau Derbyn (Atodiad 2).

 

y nodir y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad canlyniadol ar newidiadau i ddalgylchoedd ysgol ar gyfer 2020/2021.

Cofnodion:

Bu i’r Cyng. Caro Wild ddatgan buddiant bersonol a rhagfarnus yn yr eitem hon oherwydd bod ganddo blentyn y byddai’r newidiadau’n effeithio arno.  Gadawodd y Cyng. Wild y cyfarfod ac ni fu’n rhan o’r penderfynu.  

 

Yn unol ag Adran 89 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 91.

92.

Datganiad Polisi Tâl 2018/19 pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

y bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl 2018/19 atodedig (Atodiad 1) i’r Cyngor ei ystyried ar 22 Mawrth 2018 a nodi:

 

(i)     bod cyfraniadau pensiwn y cyflogwr wedi’u cynnwys yng nghyfrifiad tâl wythnosol cyflogai, lle bo’n briodol

 

(ii)    y bydd angen i’r Cyngor gymryd camau i weithredu newidiadau sy’n dod o’r NJC ar gyfer Tâl Llywodraeth Lleol ar gyfer 2018/20

 

(iii)         cynnwys yr adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

 

Cofnodion:

Mae gofyniad statudol ar y Cyngor dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i baratoi datganiad polisi tâl bob blwyddyn.  Felly ystyriodd y Cabinet y Polisi Tâl ar gyfer 2018/19 cyn i’r Cyngor ei ystyried. Rhoddodd y datganiad polisi fframwaith i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo yn deg ac yn wrthrychol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 92.

93.

Ardrethi Annomestig Cenedlaethol – Dilëwyd pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni fydd Atodiadau A a B yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi yn rhinwedd Paragraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD: awdurdodi dileu dyledion sy’n dod i £508,959.09.

 

Cofnodion:

 

Ni fydd Atodiadau A a B yr adroddiad hwn yn cael eu cyhoeddi yn rhinwedd Paragraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn gofyn am yr awdurdod i ddileu dyledion gwerth £508,959.09. Amlinellodd yr adroddiad gamau gweithredu a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 93.

94.

Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2018-19 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.            y cymeradwyir y Cynllun Busnes CRT 2018-2019.

2.            y nodir y cyflwynir y Cynllun cymeradwy i Lywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Mae gofyn ar awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn flynyddol.  Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn nodi diben a gweledigaeth y Cyngor fel landlord tai cymdeithasol, yn nodi amcanion a safonau ar gyfer y gwasanaeth, yn cynllunio adnoddau ac yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 94.

95.

Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.   y nodir y cyfle cyllid a gyflwynwyd gan Raglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu Llywodraeth Cymru a gofynion arian cyfatebol cysylltiedig;

 

2.  y cytunir ar themâu a phrojectau â blaenoriaeth ar gyfer y Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu a nodir yn yr adroddiad;

3.  y dirprwyir awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau, Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd a Chyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, i gwblhau manylion am gyfraniad y Cyngor at y Cynllun Adfywio Rhanbarthol a pharatoi ceisiadau cyllid i’w hystyried dan y Rhaglen Buddsoddi Adfywio Wedi ei Dargedu.

 

Cofnodion:

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am raglen ariannu newydd i gynorthwyo projectau adfywio economaidd, cyflwynwyd canllawiau ar y Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi ei Dargedu ym mis Hydref 2017. Nod cyffredinol y Rhaglen Buddsoddi yw cynorthwyo projectau sy'n hyrwyddo adfywio economaidd, yn canolbwyntio ar bobl ac ardaloedd sydd fwyaf mewn angen.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 95.

96.

Caffael Tir Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chyhoeddir Atodiad 3 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD: bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a swyddogion statudol i gael diddordeb llesddeiliaid yn safle Toys ‘R’ Us wedi’i liwio’n las ar y cynllun atodedig yn Atodiad 1, ar y telerau wedi’u nodi yn Atodiad 3 sy’n gyfrinachol ac yn amodol ar werthusiadau annibynnol llawn.  

 

Cofnodion:

Ni chyhoeddir Atodiad 3 yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn ceisio canfod diddordeb yn y brydles ar yr eiddo  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 96.

97.

Cynllun Ardal Caerdydd Bro Morgannwg ar gyfer Anghenion Gofal Chymorth 2018-2023 pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.      cymeradwyo Cynllun Ardal Caerdydd a Bro Morgannwg (fel y nodir yn Atodiad 1)

 

Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Ardal (fel y nodir yn Atodiad 2) ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth 2018-2023.

Cofnodion:

Ychwanegodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 adran 14A at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol baratoi a chyhoeddi cynllun (y Cynllun Ardal), sy’n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn cynnig eu darparu, neu drefnu eu darparu,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 97.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.