English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

74.

Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018 pdf eicon PDF 138 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018

 

 

75.

Cais i Godi Pris Teithiau Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: 

 

1.    nodi cynnwys yr adroddiad a sylwadau ddaeth i law yn Atodiad B i ystyried y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 14 Rhagfyr 2017 i ddiwygio’r tabl ffioedd.

 

2.    cymeradwyo’r cais a gyflwynwyd gan Dragon Taxis gyda dyddiad gweithredu o 12 Mawrth 2018.

 

Cofnodion:

Yn dilyn yr adroddiad a ystyriwyd gan y Cabinet ar 14 Rhagfyr 2017 mewn perthynas â chais a roddwyd gerbron gan Dragon Taxis i amrywio’r ffioedd am gerbydau hacni yng Nghaerdydd, derbyniodd y Cabinet adroddiad arall yn amlinellu'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod rhybudd cyhoeddus statudol.  Nodwyd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 75.

76.

Adolygiad o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref pdf eicon PDF 124 KB

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: 

 

1.            awdurdodi paratoi achos busnes ar ofynion posibl yn y dyfodol i wasanaethau CAGC ychwanegol yng Nghaerdydd ac i ganfyddiadau’r achos busnes gael eu cyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol i’w hystyried.

 

2.            dechrau gwerthuso opsiynau safle i nodi lleoliad a ffefrir o bosibl yn y dyfodol ar gyfer cyfleusterau CAGC ychwanegol ac i’r canfyddiadau gael eu cyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol i’w hystyried. 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Merry fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd bod Heol Wedal yn ei ward hi.

 

Datganodd y Cynghorydd Weaver fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd bod Heol Wedal yn ei ward ef.

 

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn ceisio awdurdod i archwilio'r achos busnes dros ddarparu Canolfannau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 76.

77.

Cyllideb 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiad 11(d) wedi’i eithrio rhag cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

PENDERFYNWYD: wedi ystyried sylwadau’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau mewn perthynas â chadernid  y gyllideb a digonoldeb arian wrth gefn fel sy’n angenrheidiol dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003, ac wedi ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r Ymgynghoriad ar y Gyllideb yr argymhellir y Cyngor i:

 

1.0       Gymeradwyo’r cyllidebau Refeniw, Cyfalaf, Cyfrif Refeniw Tai gan gynnwys yr holl gynigion a chynyddu’r Dreth Gyngor gan 5.0% fel y nodir yn yr adroddiad hwn a bod y Cyngor yn cadarnhau y termau canlynol.

 

2.0       Nodi i’r Cyngor yn y cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017 gyfrif y symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

a)         143,453 – sef y swm a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995, fel y’u diwygiwyd, fel sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.

 

b)         Llys-faen                                                   2,350

          Pentyrch                                                   3,263

          Radur                                                        3,709

          Sain Ffagan                                              1,311

          Hen Bentref Llaneirwg                              1,543

          Tongwynlais                                                 823

 

sef y symiau a gyfrifwyd yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

2.1       Cytuno bod y symiau canlynol bellach yn cael eu cyfrif gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Gyllid Llywodraeth Leol 1992:-

 

a)        Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(2)(a) i (d) (gan gynnwys praeseptau’r Cyngor Cymuned sy’n dod i £366,815).

                                                                                                  £1,007,699,815

 

b)         Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adran 32(3)(a) a (c).

£401,119,579

 

c)         Y swm y mae’r cyfanswm yn 2.1(a) y fwy na’r cyfanswm yn 2.1(b) uchod a gyfrifwyd yn unol ag Adran 32(4) fel y gofyniad ar gyfer y gyllideb ar gyfer y flwyddyn.                                               £606,580,236

 

d)         Cyfansymio’r symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y cânt eu talu yn ystod y flwyddyn i Gronfa’r Cyngor mewn perthynas â’r Grant Cynnal Refeniw, cynllun gostyngiad treth gyngor, Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu.

£440,946,781

 

e)         Y swm ar 2.1(c) uchod ond gan dynnu swm 2.1(d) (net y swm ar gyfer rhyddhad diamod o £350,000), i gyd wedi’u rhannu gan y swm ar 2.0(a) uchod, wedi’i gyfrifo yn unol ag Adran 33(1) fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn.                                                       

£1,157.06

 

f)          Cyfansymio swm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1).                    

£366,815

 

g)         Swm 2.1(e) uchod ond gan dynnu y canlyniad a geir trwy rannu swm 2.1(f) uchod gan swm 2.0(a) uchod, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer aneddiadau yn y rhannau hynny o’r ardal lle  ...  view the full Penderfyniad text for item 77.

Cofnodion:

Ni fydd Atodiad 11(d) yn cael ei gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21  rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol yn yr eitem gan ei fod yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 77.

78.

Monitro Cyllideb – Adroddiad Mis 9 pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: 

 

 

1.    fod sefyllfa alldro posib ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol i gael ei nodi.

 

2.   atgyfnerthu’r gofyniad i’r holl gyfarwyddiaethau sydd ar hyn o bryd yn cofnodi gorwario fel y nodir yn yr adroddiad hwn, i weithredu i leihau’r gorwariant a ragwelir.

 

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet newyddion am sefyllfa monitro ariannol yr awdurdod ar sail naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol.   Adroddwyd bod monitro refeniw ym mis naw’r Cyngor yn dangos sefyllfa gytbwys yn unol â sefyllfa mis chwech.   Bu, fodd bynnag, newidiadau o fewn y sefyllfa gyffredinol gan gynnwys cynnydd yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 78.

79.

Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 pdf eicon PDF 195 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

nodi’r sefyllfa bresennol o ran perfformiad, cyflawni ymrwymiadau a blaenoriaethau allweddol yn Chwarter 3, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â heriau sy'n wynebu'r Cyngor.

Cofnodion:

Cafodd y Cyngor adroddiad perfformiad Chwarter 3 (mis Hydref tan fis Rhagfyr) blwyddyn ariannol 17-18.   Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad perfformiad gan y gyfarwyddiaeth ynghyd â throsolwg o berfformiad corfforaethol yn cynnwys cyfraddau absenoldeb salwch, cydymffurfio ag adolygiadau personol, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a bodlondeb cwsmer.  Nodwyd bod 59% o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 79.

80.

Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo’r Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol.

 

2.    fod y Polisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol hefyd yn gweithredu fel Polisi Cyflogaeth Moesegol y Cyngor ar gyfer cadwyni cyflenwi’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar gynnig am Bolisi Caffael Cymdeithasol Gyfrifol.  Nod y polisi yw darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer cyflwyno tri o fentrau Llywodraeth Cymru; Buddion Cymunedol, Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a Siart Caffael Cyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig.   

 

Nod y polisi yw sicrhau bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 80.

81.

Cynllun Rheol Tir ac Eiddo Corfforaethol 2018/19 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Corfforaethol Rheoli Tir ac Eiddo 2018/19 a atodir i Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet Gynllun Rheoli Tir ac Eiddo Corfforaethol y Cyngor 2018/19. Mae’r Cynllun yn ddogfen flynyddol i roi Strategaeth Eiddo Corfforaethol ar waith.   Mae’r targedau blynyddol yn y Cynllun yn cyfrannu at dargedau pum mlynedd yn y Strategaeth Eiddo a nodir amcanion ar gyfer yr ystâd weithredol yn glir.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 81.

82.

Arena dan do pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nid ddylid cyhoeddi Atodiadau 1, 3 a 4 gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 a 21 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

PENDERFYNWYD:

 

cymeradwyo’r lleoliad a ffefrir i’r project arena dan do fel y nodir yn yr adroddiad, a dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu a'r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i:

 

(i)      Ddatblygu strategaeth gyflawni fanwl i’r project arena dan do gan gynnwys goblygiadau ariannol manwl i’r Cyngor a dychwelyd i’r Cabinet i gael yr awdurdod i fwrw ymlaen.

 

(ii)      Fel rhan o (i) uchod, negodi telerau i gaffael tir nad yw'n eiddo'r Cyngor ar hyn o bryd, sy'n goch ar y cynllun safle a atodir yn Atodiad 5, a dychwelyd i'r Cabinet i gael yr awdurdod i fwrw ymlaen â phrynu’r safle.

 

Cofnodion:

 

Ni fydd Atodiadau 1, 3 a 4 yn cael eu cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i heithrio dan y disgrifiad a geir ym Mharagraffau 14 a 21 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Eithriwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 82.

83.

Tir wrth Gyffordd 30 yr M4 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddylid cyhoeddi Atodiadau 3 a 4 yr adroddiad hwn am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio o’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 ran 4 a pharagraff 21 rhan 6 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar brynu’r safle ger Cyffordd 30 yr M4 fel yr amlinellir yn Atodiad 1.

 

Cofnodion:

Ni chyhoeddir Atodiadau 3 a 4 yr adroddiad hwn gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn nodi cynigion i brynu tir wrth ochr Cyffordd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 83.

84.

Trafnidiaeth Teithwyr pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.      awdurdodi’r strategaeth gyffredinol arfaethedig i gaffael Contractau Trafnidiaeth Teithwyr am 7 mlynedd gwerth £49M drwy System Brynu Ddeinamig.

 

2.      dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gyfraith a Llywodraethiant i gynnal pob agwedd ar y broses gaffael, yn ddigyfyngiad ac i gynnwys:

 

            i.           cymeradwyo sefydlu System Brynu Ddeinamig (SBD) newydd

           ii.           cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r SBD newydd

          iii.           penodi darparwyr newydd i’r SBD newydd ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor

         iv.           dirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes y SBD newydd, ac i’r dirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.

          v.           delio â’r holl faterion cysylltiedig sy’n ymwneud â gwneud unrhyw estyniadau byrdymor i gontractau unigol y gallai fod eu hangen nes i gontractau newydd gael eu caffael dan y SBD newydd

 

Mae’r ddirprwyaeth a geisir yn eang ac yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, yr agweddau canlynol ar y broses gaffael:

 

(a)  Cymeradwyo rhoi’r SBD newydd ar waith gan ddefnyddio rheolau Gweithdrefn Tendro Cyfyngedig Addasedig. 

(b)  Cytuno i ddefnyddio cyfuniad o e-arwerthiannau seiliedig ar filltiredd ac e-arwerthiannau am yn ôl i ddyrannu llwybrau penodol ar y pris mwyaf cystadleuol a gaiff ei gynnig drwy SBD.

(c)  Penodi darparwyr gwasanaeth newydd i’r SBD, ar ôl iddynt fodloni’r meini prawf dethol fel y nodir gan y cyngor yn y dogfennau tendro, yn ôl y gofyn.

(d)  Ar ôl hynny, y Cyfarwyddwr i ddirprwyo ymhellach yr awdurdod i ddyfarnu contractau sy’n ofynnol dros oes yr SBD newydd, ac i ddirprwyaethau pellach fod yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor.

(e)  Os, am unrhyw reswm technegol, nad oes modd defnyddio system gwbl electronig (SBD), i gynnal y broses gaffael drwy ddull arall (dull nad yw’n e-gaffael) a rheoli’r trefniadau contract a roddwyd ar waith.

 

Cofnodion:

 

Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn manylu ar strategaeth i dendro contractau newydd cysylltiedig â gwasanaethau Trafnidiaeth.   Mae Gwasanaethau Trafnidiaeth i Deithwyr yn darparu ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 84.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.