Cynghorwyr a chyfarfodydd
- Cabinet
- Calendr cyfarfodydd
- Pwyllgorau
- Cynghorau Plwyf
- Cyfansoddiad Cyngor
- Cynghorwyr
- Penderfyniadau
- Canlyniadau Etholiadau
- Cynlluniau Gwaith i’r Dyfodol
- Llyfrgell
- Cyfarfodydd
- Cyrff Allanol
- Cofrestrau
- Cydnabyddiaeth
- Craffu
- Grwpiau Holl Bleidiau’r Cyngor
- Chwilio Dogfennau
- Tanysgrifiwch am ddiweddariadau
- Gweddarlleidiadau
- Eich ACau
- Eich ASau
- Eich ASau Ewropeaidd
- Beth sy'n newydd
Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 4 - Neuadd Y Sir. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jo Watkins
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfodydd Cabinet a gynhaliwyd ar 14 a 20 Rhagfyr 2017 PDF 67 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd
Cofnodion: PENDERFYNWYD: bod cofnodion y cyfarfodydd Cabinet a gynhaliwyd ar 14 a 20 Rhagfyr i’w cymeradwyo.
|
|
Fflyd Newydd ar gyfer Lorïau Casglu Sbwriel, Lorïau Ysgubo'r Ffordd a Llwythwyr Bachu. PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: .PENDERFYNWYD:
1. nodi cynnwys yr adroddiad
2. cymeradwyo’r dull caffael a meini prawf gwerthuso lefel uchel y cerbydau Casgliadau Gwastraff Ailgylchu Newydd, y cerbydau rholio ar-oddi ar, a'r cerbydau ysgubwyr mecanyddol;
3. dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr priodol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet i a) cymeradwyo dechrau’r gwaith caffael a chyflwyno dogfennaeth; a b) ymdrin yn gyffredinol â phob agwedd ar y broses gaffael a'r materion cysylltiedig yn ymwneud â'r contract, gan gynnwys dyfarnu’r contract.
Cofnodion: Daeth adroddiad i law’r Cabinet yn cynnwys cynigion am ymagwedd gaffael y fflyd casglu sbwriel ac ailgylchu newydd. Roedd yr ymagwedd gaffael yn cwmpasu ymrwymiadau Uchelgais Prifddinas y Weinyddiaeth i sicrhau y darperir gwasanaethau casglu o'r radd flaenaf gan gefnogi’r strategaeth aer glân sy’n dod i’r amlwg. Dywedwyd wrth y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 66. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo blaenoriaethau strategol ADY Caerdydd, 2018-22:
· Blaenoriaeth Un: · Gwella canlyniadau dysgwyr ag anghenion ychwanegol drwy weithredu’r Ddeddf Tribiwnlys ADY ac Addysgol yn llwyddiannus. Blaenoriaeth Dau: Gwella canlyniadau dysgwyr gydag anghenion ychwanegol drwy gryfhau ein capasiti ar y cyd i fodloni’r holl anghenion. · Blaenoriaeth Tri: Gwella canlyniadau dysgwyr gydag anghenion ychwanegol drwy sicrhau darpariaeth dysgu ychwanegol digonol ac o safon
2. Awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar y cynigion canlynol:
a) Ateb y galw am leoedd cynradd ac uwchradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth neu gyflyrau ar y sbectrwm awtistig, cynigir · Cynyddu’r nifer dynodedig o leoedd T? Gwyn i 198; · sefydlu 3 dosbarth ychwanegol drwy addasu hen adeilad Canolfan Ieuenctid Trelai, sydd wedi’i leoli yng nghefn yr ysgol
a) Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd ac uwchradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth, cynigir: · ehangu ystod oedran Ysgol The Hollies o 4-11 i 4-14 · cynyddu’r nifer dynodedig i 138 · cynnig llety ychwanegol drwy adfywio’r llety ysgol y bydd Ysgol Glan Morfa yn ei adael
b) Er mwyn ateb y galw ar gyfer lleoedd ôl-16 ar gyfer iechyd a llesiant emosiynol, cynigir · ehangu ystod oedran Greenhill o 11-16 i 11-19 a · ehangu capasiti’r ysgol i gynnig hyd at 64 o leoedd.
c) Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth CSA, cynigir · newid dynodiad Ysgol Meadowbank o: ‘namau ieithyddol penodol’, i: ‘anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu ac anableddau dysgu cymhleth’
d) Er mwyn ateb y galw am leoedd ymyrraeth gynnar ar gyfer anghenion iaith a lleferydd, cynigir · Cau’n raddol y CAA yn Ysgol Allensbank, gan gau’r dosbarth yn gyfan gwbl ym mis Gorffennaf 2020, neu pan fydd yr holl ddisgyblion presennol wedi cwblhau’r lleoliad cynradd os yw’n gynt na hynny. · Agor dosbarth ymyrraeth gynnar ag 8 lle i blant ag anghenion iaith a lleferydd yn Ysgol Allensbank, gan dderbyn y cohort cyntaf ym mis Medi 2019.
e) Er mwyn ateb y galw am leoedd cynradd mewn canolfannau adnoddau arbenigol i ddysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth, cynigir · agor canolfan adnoddau arbenigol (CAA) yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Fair y Forwyn, ar gyfer hyd at 20 o blant.
f) I ateb y galw am leoedd CAA cynradd ar gyfer plant ag anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn y sector cyfrwng Cymraeg, cynigir · agor canolfan adnoddau arbenigol yn Ysgol Pwll Coch, gan gynnig hyd at 10 o leoedd i ddechrau, ond gyda sgôp i ehangu i 20 o leoedd yn y dyfodol, wrth i’r galw gynyddu. g) I ateb y galw am leoedd CAA uwchradd ar gyfer plant ag anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn y sector cyfrwng Cymraeg, cynigir: · ehangu’r nifer dynodedig yn nghanolfan adnoddau arbenigol Ysgol Glantaf i hyd at 30 o leoedd · ehangu a gwella’r llety presennol ar gyfer y CAA
3. y bydd swyddogion yn dod ag adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad i gyfarfod yn y dyfodol i geisio ... view the full Penderfyniad text for item 67. Cofnodion: Daeth adroddiad yn rhoi manylion am holl oblygiadau'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys (Cymru) i law ynghyd â nifer o flaenoriaethau strategol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd. Cafwyd amlinelliad hefyd o’r twf a ragwelir yn y galw am ganolfan adnoddau arbenigol a’r ddarpariaeth ar gyfer ysgol arbennig, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 67. |
|
Perfformiad Ysgolion Caerdydd yn 2016/2017 PDF 291 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: y byddai perfformiad ysgolion Caerdydd yn ystod y flwyddyn academaidd 2016/2017 yn cael ei nodiyear 2016/2017 be noted
Cofnodion: Daeth manylion i law’r Cabinet ynghylch perfformiad Ysgolion Caerdydd yn 2016-17 mewn adroddiad a oedd yn rhoi dadansoddiad o ddeilliannau addysgol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-2017 a nodwyd prif gryfderau a gwendidau'r perfformiad yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, 3, 4 a 5, ac mewn perthynas â gwaharddiadau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 68. |
|
Newid Arfaethedig yn Statws Coleg Catholig Dewi Sant – Goblygiadau i’r Awdurdod Lleol PDF 199 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i:
1. Ymateb i Gorff Llywodraethu Coleg Dewi Sant ac Archesgobaeth Caerdydd yn cadarnhau cefnogaeth y Cyngor i’w cynnig i newid statws y Coleg i statws Ysgol GG;
2. Ymgymryd â’r diwydrwydd dyladwy angenrheidiol ac, yn seiliedig ar gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, hwyluso newid statws Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir.
Cofnodion: Dywedwyd bod Coleg Catholig Dewi Sant yn ystyried newid ei statws yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r goblygiadau, y manteision a’r peryglon i’r Cyngor ac yn argymell y dylid rhoi ymateb cadarnhaol.
PENDERFYNWYD: dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i:
1. Ymateb i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 69. |
|
Rhyddhad Diamod o ran y Dreth Gyngor i Bobl Sy’n Gadael Gofal PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
(1) creu dosbarth eithriad ar wahân i Bobl sy’n Gadael Gofal
(2) mae’r dosbarth eithriad hwn yn berthnasol i Bobl sy’n Gadael Gofal hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.Bydd gostyngiad hyd at 100% ar y Dreth Gyngor (yn dibynnu ar gyfansoddiad y cartref) ar waith. (3) bydd y disgownt hwn yn cael ei roi ar ôl bob gostyngiad, eithriad a Gostyngiad y Dreth Gyngor arall.
(4) bydd y Cyngor yn lobio Llywodraeth Cymru i greu eithriad statudol rhag gorfod talu’r dreth gyngor i bobl sy’n gadael gofal.
(5) bydd y Polisi'n cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r dosbarth eithrio newydd a hefyd caniatáu dyfarnu adran 13a (1)(c) am fwy na blwyddyn.
Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn amlinellu mesurau y gellir eu cymryd i eithrio pobl sy’n gadael gofal yng Nghaerdydd o atebolrwydd i dalu’r dreth gyngor. Cynigiwyd y dylid creu dosbarth esemptiad ar wahân i bobl sy’n gadael gofal oherwydd byddai hyn yn helpu i leddfu’r baich ariannol ar y gr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 70. |
|
Cynllun Cyflenwi Lleol Cefnogi Pobl PDF 179 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cynllun Cyflenwi Lleol Cefnogi Pobl
PENDERFYNWYD:
1. cymeradwyo’r Cynllun Cyflenwi a Gwariant Lleol Cefnogi Pobl fel a nodir yn Atodiad A i'r adroddiad
2. nodi'r cynnydd o ran ail-gomisiynu gwasanaethau cam un, a chytuno ar y dull gwahanol mewn perthynas â gwasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n 3. cytuno ar y dull cyffredinol arfaethedig o ran ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel a nodir yng nghorff yr adroddiad 4. rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid ar y cyd â'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, Swyddog Adran 151 y Cyngor, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar ail-gomisiynu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ifanc fel y nodir yng nghorff yr adroddiad, hyd at a chan gynnwys dyfarnu contractau a phob mater cysylltiedig yn ymwneud â’r un peth. 5. Nodi bod bwriad i gyflwyno mwy o adroddiadau i’r Cabinet i geisio awdurdodaeth i ddechrau’r prosesau caffael i’r gwasanaethau eraill gael eu comisiynu yn rhan o gamau 2, a'r gwasanaethau cam 3, pan a phryd y caiff y strategaethau caffael manwl eu datblygu.
Cofnodion: Daeth y cynllun Gwario a Chyflenwi Lleol Cefnogi Pobl 2018/2019 i law ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran ail-gomisiynu’r gwasanaethau llety a chymorth. Ystyriodd y Cabinet hefyd ymagwedd ddiwygiedig ar wasanaethau cymorth yn ôl yr angen i bobl h?n ac ar ail-gomisiynu'r gwasanaethau llety ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 71. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae Atodiad 2 wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â darpariaethau Atodlen 12A Rhan 4 paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972
PENDERFYNWYD:
1. y dylid nodi’r cynnydd mewn perthynas â bodloni gofynion Rhan 9, gan gynnwys sefydlu cyllideb gronnol ar gyfer llety gofal
2. cymeradwyo sefydlu cyllideb gronnol ar gyfer llety gofal i bobl h?n, gyda Chyngor Caerdydd yn gweithredu fel sefydliad cynnal fel y nodir yn yr adroddiad. Bydd trefniadau o'r fath yn weithredol o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
3. y dylid rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol i ymdrin â phob agwedd ar y Gytundeb Partneriaeth (gan gynnwys gosod yr un peth) ac unrhyw faterion cysylltiedig perthnasol
4. cymeradwyo Datganiad Sefyllfa’r Farchnad a’r Strategaeth Gomisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth Pobl H?n fel y nodir yn Atodiad 1
Cofnodion: Mae Atodiad 2 i’r adroddiad hwn wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn dilyn darpariaethau Paragraff 12A Rhan 4 paragraff 16 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Ystyriwyd adroddiad yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer comisiynu ar y cyd gwasanaethau pobl h?n ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Cynigiwyd y bydd Caerdydd yn cynnal ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 72. |
|
Caffael Gofal Cartref PDF 160 KB Penderfyniad: Caffael Gofal Cartref
PENDERFYNWYD:
1. y dylid awdurdodi’r dull cyffredinol arfaethedig i sicrhau Rhestr Darparwyr Cymeradwy Ddeinamig ar gyfer gwasanaethau gofal cartref fel y nodir yn yr adroddiad; a
2. rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Llywodraethu a'r Gwasanaethau Cyfreithiol:
a)i ymdrin â phob agwedd ar gaffael all gynnwys:
i. cymeradwyo'r gwaith o sefydlu Rhestr Ddeinamig o Ddarparwyr Cymeradwy ii. cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso tendr i sefydlu’r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy iii. penodi’r darparwyr newydd i’r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy ar ôl iddynt fwrw’r meini prawf dethol a nodir gan y Cyngor iv. dirprwyo mwy o awdurdod i ddyfarnu contractau sydd eu hangen yn ystod bywyd y rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy, bydd dirprwyaethau pellach yn unol â Chynllun Dirprwyo’r Cyngor v. ymdrin â phob mater cysylltiedig;
b) awdurdodi unrhyw broses gaffael gofynnol i gael y dechnoleg gysylltiedig sydd ei hangen i gefnogi'r rhestr ddeinamig o ddarparwyr cymeradwy, hyd at a chan gynnwys dyfarnu'r contract Cofnodion:
Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau comisiynu gofal cartref. Nodwyd y bydd y trefniadau cytundebol yn dod i ben ym mis Tachwedd 2018 ac roedd angen rhoi trefniadau newydd ar waith.
PENDERFYNWYD:
1. Awdurdodi’r ymagwedd gynhwysfawr arfaethedig i sicrhau Rhestr Darparwyr Cymeradwy Ddynamig newydd ar gyfer gwasanaethau gofal cartref, fel ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 73. |
I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.