English

ModernGov Cynghorwyr a chyfarfodydd

cardiff.moderngov.co.uk

Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

57.

Cofnodion y Cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Tachwed 2017 pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017

 

58.

Gweithredu Uchelgais Prifddinas pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.            Cymeradwyo sefydlu a gweithredu 'Rhaglen Gyflawni Uchelgais Prifddinas’ pedair blynedd, gan gynnwys y projectau a’r mentrau a fydd yn cyflymu'r gwaith o foderneiddio gwasanaethau'r Cyngor ac arbed arian yn unol â blaenoriaethau’r Weinyddiaeth

 

2.            dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, i ddatblygu achos busnes ar gyfer cyflwyno trefniadau newydd a fydd yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithio o safleoedd modern, cost-effeithiol ac addas at y diben;

 

3.            dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, i ddatblygu cynigion y Cyngor ar gyfer cyd-weithredu, gan gynnwys yr achos busnes ar gyfer darparu gwasanaethau gweithrediadol yn rhanbarthol;

 

4.            gweithredu rhaglen dreigl o Adolygiadau Hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael ei chyflunio yn y ffordd orau posibl;

 

5.            cymeradwyo dechrau adolygu gwasanaethau TGCH y Cyngor yn syth, gan gynnwys caledwedd, meddalwedd ac adnoddau, wedi arwain gan y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, er mwyn tanseilio'r gwaith llwyddiannus o weithredu agenda Digidol y Cyngor;

 

6.            awdurdodi’r Prif Weithredwr i ail-ddyrannu adnoddau staff o fewn y fframwaith cyllidebol ar gyfer 2017/18 i roi blaenoriaeth i’r cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a amlinellwyd trefniadau i gefnogi'r gwaith o gyflawni datganiad blaenoriaethau Uchelgais Prifddinas y Cabinet.Roedd yn yr adroddiad fanylion am raglen gyflawni pedair blynedd a rhaglen dreiglol o adolygiadau hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu cyflunio a’u moderneiddio’n briodol. Cylchredwyd y llythyr gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 58.

59.

Cais am Gynnydd ym mhris cyfraddau Cerbydau Hacni pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.         nodi’r materion a’r effeithiau ar brisoedd tacsi yn yr adroddiad

 

2.         cymeradwyo’r cais a gyflwynwyd gan Dragon Taxis a fydd yn dod i rym ar 1 Chwefror 2018 (ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau)

 

3.         cymeradwyo hysbysiad o’r amrywiad mewn papur newydd lleol

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys manylion am gais gan Dragon Taxis i amrywio prisoedd cerbydau hacni yng Nghaerdydd. Cynigiwyd y cais gynnydd yn y pris ar gyfer y 103 llathen gyntaf o 20c i £2.50 ac ar ôl 103 llethen, codir 20c am bob 195 llethen, sy'n lleihad o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 59.

60.

Ysgolion G21 - Blaenoriaethau Band B Cyngor Dinas Caerdydd pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

1.         cymeradwyo’r cynlluniau wedi’u blaenoriaethu dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

 

2.         nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo mewn egwyddor Achos Amlinellol Strategol Band B Cyngor Caerdydd ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes i sicrhau cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru mewn egwyddor ar gyfer y cynlluniau sy’n rhan o’r rhaglen.

 

3.         bydd adroddiad canlyniadol i’r Cabinet yn cynnig trefniadau i sicrhau capasiti digonol a llywodraethu priodol er mwyn cyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B Caerdydd.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bradbury fuddiant personol fel Llywodraethwr yn Ysgol Ty Gwyn

Datganodd y Cynghorydd Elsmore fuddiant personol gan fod Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi’i lleoli yn ei ward hi.

Datganodd y Cynghorydd Merry fuddiant personol gan fod Ysgol Uwchradd Cathays wedi’i lleoli yn ei ward hi.

Datganodd y Cynghorydd Thomas  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 60.

61.

Cyfrif Sylfaen Treth Gyngor 2018/19 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

(1)          cymeradwyo cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/19;

 

(2)          yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen Treth) (Cymru), fel y’u diwygiwyd, 143,453 fydd y swm a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel ei Sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/2019

 

 

(3)        yn unol â’r adroddiad hwn ac yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen Treth) (Cymru), fel y’u diwygiwyd, bydd y symiau a gyfrifwyd gan Gyngor Caerdydd fel y Sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/2019 yn y cymunedau yn amodol ar braesept fel a ganlyn:-

 

Llys-faen

2,350

Pentyrch        

3,263

Radur

3,709

Sain Ffagan

1,311

Pentref Llaneirwg

1,543

Thongwynlais

823

 

(4)          y telir praeseptau yn 2018/19 i Awdurdod Heddlu De Cymru trwy randaliadau cyfartal ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis o fis Ebrill 2018 tan fis Mawrth 2019 a thelir y rhai i’r Cynghorau Cymuned trwy un taliad ar 1 Ebrill 2018, ac y byddant ar yr un sail a ddefnyddiwyd yn 2017/18 ac y rhoddir gwybod i awdurdodau praeseptu yn unol â hynny.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yn amlinellu cyfrifiad sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer 2018/19. Nodwyd y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrif sylfaen y Dreth Gyngor a thybiodd gyfradd gasglu o 98.5%.

 

PENDERFYNWYD:

 

(1)          cymeradwyo cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/19;

 

(2)          yn unol â’r adroddiad hwn ac yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 61.

62.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Risg Corfforaethol 2017/18 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD: nodi cynnwys y Gofrestr o Risgiau Corfforaethol a'r gwaith parhaol o ddatblygu dulliau rheoli risgiau yn y Cyngor

 

Cofnodion:

Ystyriwyd y gofrestr o risgiau corfforaethol gan y Cabinet. Amlinellodd y risgiau strategol sy’n wynebu’r Cyngor a’r camau lliniaru sydd ar waith. Adroddwyd bod risg ynghylch 'Ansawdd Aer' wedi'i ychwanegu at y Gofrestr o Risgiau Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD: nodi cynnwys y Gofrestr o Risgiau Corfforaethol a'r gwaith parhaol o ddatblygu dulliau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 62.

63.

Caffael Cynllun Tai Newydd yn hen adeilad Walters, Butetown ar gyfer Tai'r Cyngor pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Ni chyhoeddir Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

PENDERFYNWYD: dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid i wneud cytundeb gyda Chymdeithas Tai Cadwyn, ar gyfer adeiladu 50 fflat newydd yn amodol ar gytuno ar Benawdau Telerau gan gynnwys yr holl gymeradwyaeth dichonoldeb a diwydrwydd dyladwy.

 

Cofnodion:

Ni chyhoeddir Atodiadau 2 a 3 yr adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Eithriwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 63.

 

I ofyn am ddogfen mewn fformat hygyrch e-bostiwch ni.

© 2022 Cyngor Caerdydd
Dim ond y cwcis cwbl angenrheidiol rydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau y cewch y profiad gorau o'n gwefan. Nid yw'r cwcis hyn yn tracio defnyddwyr.