Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Iau, 12fed Hydref, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd y Sir

Cyswllt: Jo Watkins 

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Cofnodion y cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Medi 2017 pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2017.

 

31.

Cynnig i Ddatblygu Uned Hyfforddiant Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad sy’n amlinellu cynigion i sefydlu uned hyfforddiant gofal cymdeithasol ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg. Cynigiwyd bod Cyngor Caerdydd yn gweithredu fel yr awdurdod lletya a disgwyliwyd y sefydlir yr uned ar sail niwtral o ran cost.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.         Cymeradwyo’r model busnes, yr agwedd a'r swyddogaethau a nodir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 31.

32.

Ymateb y Cabinet i Adroddiad Plant a Phobl Ifanc ar Anffurfio Organnau Cenhedlu Benywod pdf eicon PDF 175 KB

Cofnodion:

32          Ymateb y Cabinet i Adroddiad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod

 

Ystyriodd y Cabinet ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod.Cynigiwyd bod y dau argymhelliad wedi’u hanelu at y Cabinet yn cael eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32.

33.

Datblygu'r Ystâd Addysg yng Nghaerdydd pdf eicon PDF 379 KB

Cofnodion:

 

Derbyniwyd adroddiad sy’n amlinellu’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Caerdydd wrth ddatblygu’r ystâd addysg.Nododd yr adroddiad anghenion digonedd poblogaeth yr ysgol, cyflwr ac addasrwydd yr ystâd ysgol a'r twf a ragwelir yn narpariaeth addysg o ganlyniad i'r Cynllun Datblygu Lleol. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y byddai’r materion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 33.

34.

Ymateb y Cabinet i Adroddiad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dymhorau Ysgol pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ymateb y Cabinet i Adroddiad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dymhorau Ysgol

 

Ystyriodd y Cabinet ei ymateb i’r argymhellion i adroddiad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dymhorau Ysgol. Ni dderbyniwyd yr argymhelliad cyntaf gan y pwyllgor craffu gan y ystyriwyd datganiad Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 34.

35.

Diwygio Etholiadol yn y Llywodraeth Leol yng Nghymru - Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dilwar Ali, yr Aelod Cabinet Cynorthwyol dros Ymgysylltu Cymunedol ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio Etholiadol yn Llywodraeth Leol yng Nghymru.Croesawyd llawer o’r newidiadau arfaethedig, yn enwedig y rhai'n ymwneud â mesurau sydd â'r bwriad o gynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 35.

36.

Adroddiad Gwella Statudol Cyngor Caerdydd pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhodd yr adroddiad fanylion am gynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2016-17 yn erbyn yr amcanion gwella fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol.Adroddwyd bod y Cyngor wedi hunan-asesu ac wedi nodi ei fod wedi gwneud cynnydd da o ran y tri amcan gwella ac wedi gwneud cynnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 36.

37.

Y Polisi Iechyd Meddwl a Chanllaw Rheolwyr Iechyd Meddwl pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet gymeradwyo’r Polisi Iechyd Meddwl a Chanllaw Rheolwyr ar gyfer cyflogeion y Cyngor. Roedd gan y polisi chwe nod clir, gan gynnwys creu a chynnal amgylchedd a diwylliant gweithle sy’n cydnabod ac yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant ac yn atal gwahaniaethu.  Ar ôl ystyriaeth gan y Pwyllgor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 37.

38.

Cynllun Caffael Tai Newydd Adeiledig yn Adeiladau'r Coleg, Courtenay Road, Sblot ar gyfer Tai Cyngor pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyhoeddir Atodiadau’r adroddiad hwn gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth o’r math a ddisgrifir ym Mharagraff 14 Rhan 4 a pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Derbyniwyd y Cabinet adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i’r  Cyngor wneud cytundeb gyda Chymdeithas Tai Cadwyn ar gyfer caffael fflatiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 38.