Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
1. rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir i orfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 a diweddaru Cyfansoddiad y Cyngor ynghyd â’r Cytundeb gweithio ar y cyd yn briodol.
2. rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau i orfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 ar ran Cyngor Caerdydd a diweddaru cyfansoddiad y Cyngor yn briodol.
Bod Cyngor Caerdydd, fel yr Awdurdod Trwyddedu Sengl ar gyfer Cymru at dibenion Deddf Tai (Cymru) 2014 yn derbyn awdurdodiad i arfer unrhyw swyddogaethau y 21 awdurdod lleol eraill at ddibenion Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) gymryd camau gorfodi a chychwyn achosion trosedd yn unol ag adran 19 o’r Ddeddf honno.