Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mae Atodiad C (cyngor cyfreithiol) wedi’i eithrio rhag ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 12.1 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cyn cymryd y penderfyniad isod, ystyriodd y Cabinet y ffactorau canlynol:
· yr adnoddau sydd ar gael gan y Cyngor
· y galw a’r blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cartref gofal
· costau cyfreithlon a dyfodol y darparwyr
· disgwylir modelau gweithredu mwy cost-effeithiol a gwasanaethau a gomisiynir
· Y buddsoddiad sydd ei angen yma er mwyn i ddarparwyr fodloni gofynion y comisiynwyr a’r rheoleiddwyr (Arolygiaeth Gofal Cymru)
· cydnabod bod rhaid i wasanaethau weithredu yn ddiogel ac yn effeithiol i hyrwyddo lles unigolion sydd dan eu gofal.
PENDERFYNWYD:
1) cytuno ar y dyfarniad ar gost safonol ar gyfer gofal cartref i bobl h?n fel y’i nodir yn yr adroddiad hwn ac y bydd yr holl wasanaethau cartref gofal newydd i bobl h?n yn cael eu comisiynu ar ffi safonol a gyhoeddir ar 1 Ionawr 2020, ar y gyfradd a nodir isod:
Categori
Costau’r wythnos
· Preswyl Pobl H?n £708.60
· Preswyl Dementia £761.19
· Nyrsio Pobl H?n £702.04
· Nyrsio Dementia £755.79
2) y cynnydd mewn ffioedd ar gyfer 2019-20 wedi’i ôl-ddyddio o 8 Ebrill 2019, fel y’i nodir isod:
· cynnydd o £40 yr wythnos ar gyfer pob lleoliad cartref gofal sydd yn is na’r gost safonol am ofal a nodwyd yn Argymhelliad Un a
· chynnydd o £10 yr wythnos i’r holl leoliadau cartref gofal sydd o fewn £100 i’r gost safonol
· Dim cynnydd i’r pecynnau cartref gofal hynny sy’n uwch na £100 uwchlaw’r gost safonol.
3) Yn amodol ar adnoddau sydd ar gael, cytuno ar ddull graddol o godi pecynnau gofal sydd o dan y pris safonol a nodir yn Argymhelliad Un dros y tair blynedd nesaf (Ebrill 2020 tan Fawrth 2023). Bydd angen i’r cynnydd cynyddrannol ystyried effaith ar y costau safonol yn sgil cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol fydd yn uwch na chyfraddau MPD, yn ogystal a‘r adnoddau sydd ar gael i’r Cyngor.
4) dirprwyo awdurdod y broses benderfynu ar gyfer codi ffioedd o 2020 ymlaen i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, i’r Swyddog adran 151 ac i’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Argymhelliad Dau a Thri ac yn amodol ar yr adnoddau gofynnol sydd ar gael.
5) dirprwyo awdurdod ar gyfer yr holl benderfyniadau, yn ymwneud â’r dull newydd o sicrhau lleoliadau gofal cartref i bobl h?n, gan gynnwys methodoleg o benderfynu ansawdd, i’w weithredu o 1 Ebrill 2020, i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, i Swyddog Adran 151 y Cyngor ac i’r Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol.
6) i nodi y gofynnir i’r Cabinet ystyried Polisi Codi Tâl Gwasanaethau Cymdeithasol newydd a gaiff ei gyflwyno ym mis Ionawr 2020.