5. Diweddariad Strategaeth Cerddoriaeth PDF 181 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ni chaiff Atodiad 5 yr adroddiad ei gyhoeddi oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth a eithrir ym mharagraffau 14 a pharagraff atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
CYTUNWYD:
(1) cymeradwyo’r ymateb i Adroddiad Sound Diplomacy wedi ei atodi fel Atodiad 2 at yr adroddiad.
(2) cymeradwyo Cylch Gorchwyl Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd sydd wedi ei atodi fel Atodiad 3 i'r adroddiad
(3) cymeradwyo penodi Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac awdurdodi’r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd i benodi’r unigolion a enwir yn Atodiad Cyfrinachol 5 yr adroddiad
(4) dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Swyddog Monitro a'r swyddog Adran 151 i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynigion manwl ar gyfer y prif ddigwyddiad fel y’i amlinellir ym mharagraff 22 yr adroddiad i’w ddiweddaru mewn cyfarfod o’r Cabinet yn y dyfodol.