12. Arena Dan Do - Diweddariad PDF 518 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nid yw Atodiadau 1 - 10 yr adroddiad hwn na chyngor cyfreithiol arall y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn na’r atodiadau i’w cyhoeddi am eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi ei eithrio yn unol â’r disgrifiad a geir ym mharagraff 14 rhan 4 a pharagraff 121 rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
PENDERFYNWYD:
i) nodi’r cynnydd a wneir â’r broses gaffael i sicrhau datblygwr/gweithredwr consortiwm i gyflawni’r Arena Dan Do newydd;
ii) awdurdodi caffael y buddsoddiad RDC yn unol â’r gwerthusiad annibynnol a’r adroddiad pwrcasu a atodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 7 ac yn rhestr daliadau a atodir yn Atodiad Cyfrinachol 9 ac yn unol â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd yn Atodiad cyfrinachol 4;
iii) cytuno ar y taliad a oedwyd a nodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 6 a fydd yn daladwy os bydd Arena Dan Do newydd yn cael ei ddwyn ymlaen ar safle Glanfa’r Iwerydd fel a ddangosir gan y linell goch ar y cynllun a atodwyd yn Atodiad Cyfrinachol 1;
iv) i’w nodi y bydd awdurdodi caffaeliad y buddsoddiad yng nghanolfan y Ddraig Goch yn tanio amlen fforddadwyedd yr Arena Dan Do, a gytunwyd yn wreiddiol fel rhan o Gyllideb y Cyngor a gymeradwywyd yn Chwefror 2019, ac felly yn galw am addasiadau i’r Fframwaith Cyllidebol ar gyfer 2019/20 a gytunwyd gan y Cyngor yn Chwefror 2019.