9. Strategaeth Cyllideb 2020/21 a'r Tymor Canol PDF 278 KB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:
(1) y cytunir ar egwyddorion y gyllideb y mae'r Adroddiad ar Strategaeth y Gyllideb yn seiliedig arnynt, gan gynnwys defnydd ymagwedd dargedig i fodloni’r Gofyniad am Leihau’r Gyllideb yn 2020/21 ac ar draws cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yng nghyd-destun yr amcanion a nodir yn Uchelgais Prifddinas.
(2) bod cyfarwyddiaethau’n gweithio gyda’r Aelod Cabinet Portffolio perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol a’r Aelod Cabinet dros Adnoddau a Rheoli Perfformiad er mwyn nodi arbedion posibl er mwyn cynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyllideb o £25 miliwn ar gyfer 2020/21 a £101 miliwn yn ystod cyfnod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
(3) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, weithredu unrhyw gynnig arbedion cyn 2020/21 lle nad oes angen argymhelliad polisi neu pan fo penderfyniad polisi eisoes wedi’i wneud.
(4) Nodir y bydd gwaith yn parhau i ddiweddaru ac adnewyddu’r CATC ac y caiff ei adrodd i Aelodau fel y bo’n briodol.
(5) ceisio datganiadau o ddiddordeb gan swyddogion o ran y cynllun dileu swyddi gwirfoddol, er mwyn cefnogi’r gwaith i sicrhau arbedion sy’n ofynnol yn yr adroddiad.
(6) y Cyngor yn cael argymhelliad i gytuno y caiff y Fframwaith Amserlen Cyllidebol a osodir yn Atodlen 2 ei fabwysiadu ac y caiff y gwaith a amlinellir ei symud ymlaen gyda'r nod o lywio paratoadau ar gyfer y gyllideb.
(7) ymgynghori ar gynigion cyllideb 2020/21 i lywio’r gwaith o baratoi Cyllideb ddrafft 2020/21.