Mater - cyfarfodydd

Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif: Ailddatblygu Ysgolion Cantonian, Riverbank a Woodlands

Cyfarfod: 13/06/2019 - Cabinet (Eitem 5.)

5. Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif: Ailddatblygu Ysgolion Cantonian, Riverbank a Woodlands pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

1.     cyhoeddi hysbysiadau statudol i:

·         Gynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cantonian o 6 dosbarth mynediad (6DM) i wyth dosbarth mynediad (8DM) gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion mewn llety newydd;

·         Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr a Chyflwr Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 i 30 o leoedd mewn llety pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;

·         Symud Ysgol Arbennig Woodlands i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 140 o leoedd i 240 o leoedd mewn llety newydd;

 

·         Symud Ysgol Arbennig Riverbank i safle Doyle Avenue a chynyddu’r capasiti o 70 o leoedd i 112 o leoedd mewn llety newydd.

 

2.     Nodi, petai gwrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol cyhoeddedig yn dod i law, y byddai’r Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o’r gwrthwynebiadau hyn ac ymateb y Cyngor i’r gwrthwynebiadau hynny.

3.       Nodi o fewn 25 diwrnod o ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu y bydd y Cyngor yn anfon copïau o’r gwrthwynebiadau statudol ymlaen, yn ychwanegol at yr adroddiad gwrthwynebu, i Weinidogion Cymru i benderfynu ar y cynnig.

4.     Nodi y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad dilynol ar gynigion pellach i gynyddu nifer y lleoedd ysgol arbennig ar gyfer plant cynradd ag anghenion dysgu cymhleth.